Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod. Rwyf wedi cyfarfod, fel yntau rwy’n siwr, â llawer o’r grwpiau a grybwyllodd yn ei araith. Soniodd am y cynllun gweithredu. Yn sicr, un o’r pethau y dylem fod yn edrych arno yw archwilio sut y mae’r cynllun gweithredu yn gweithio a sut, ymhen amser, y gallai fod angen i ni roi hynny ar sylfaen statudol i sicrhau’r mynediad cywir a’r chwarae teg y siaradodd amdanynt. Gellir gwneud hynny drwy Ddeddf, neu gellid ei wneud drwy ddulliau deddfwriaethol eraill, ond yr hyn sy’n bwysig yw bod pobl â hawl statudol i’r gwasanaethau hynny.