Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae’n bwysig fod ganddynt hawl statudol i’r gwasanaethau hynny. Ni allwn aros am ddiweddariad arall o’r strategaeth; rydym wedi aros yn rhy hir, a byddaf yn mynd i’r afael â’r pryderon sy’n cyfiawnhau’r safbwynt hwnnw a fynegwyd wrthyf gan y gymuned wrth i mi ddatblygu fy araith.
Wel, roedd hwn yn datgan bod cefnogaeth statudol i’r strategaeth, ynghyd â mesur llawer mwy manwl o’r cynnydd tuag at gyflawni amcanion allweddol y strategaeth, yn hanfodol er mwyn sicrhau’r newid rydym i gyd am ei weld i blant ac oedolion awtistig ac aelodau eu teuluoedd. Mae hynny’n seiliedig ar adborth gan bobl yn y gymuned ei hun. Derbyniodd arolwg ar-lein NAS Cymru 2015 i ddarganfod beth sy’n bwysig i bobl yng Nghymru sydd ag awtistiaeth 668 o ymatebion gan bobl awtistig sy’n byw yng Nghymru, neu lle nad oeddent yn gallu cymryd rhan, gan eu rhieni neu eu gofalwyr. Roedd bron i 90 y cant yn dweud bod angen deddfwriaeth awtistiaeth benodol yng Nghymru sy’n debyg i’r hyn sy’n bodoli eisoes yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, er mwyn bywiogi eu strategaethau. Dywed yr adroddiad ar yr arolwg:
er gwaethaf y cynnydd a wnaed, mae anghenion pobl awtistig yn dal i gael eu hanwybyddu ar lefel leol. Mae teuluoedd ac oedolion ar y sbectrwm yn sôn am orfod aros blynyddoedd i gael diagnosis. Nid yw awdurdodau lleol yn gwybod faint o bobl awtistig sy’n byw yn eu hardal ac felly nid ydynt yn cynllunio’n briodol ar gyfer y cymorth sydd ei angen arnynt. Nid yw gweithwyr proffesiynol yn gallu cefnogi pobl ar y sbectrwm yn iawn, gan nad ydynt wedi cael digon o hyfforddiant a dealltwriaeth. Mae wedi dod yn fwyfwy amlwg fod angen camau pendant gan y Llywodraeth.
Mae’n argymell bod Deddf awtistiaeth i Gymru yn gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd i sicrhau... llwybr clir i ddiagnosis o awtistiaeth ym mhob ardal; yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gofnodi nifer y plant ac oedolion awtistig sy’n byw yn eu hardal er mwyn llywio prosesau cynllunio.
A pheidiwch â dweud wrthyf na ellir ei wneud, gan fod y rhannau eraill o’r DU yn llwyddo i’w wneud. Mae’n dweud y dylai pob ardal leol ddefnyddio’r data hwn, ynghyd ag ymgynghori â phobl leol ar y sbectrwm a’u teuluoedd i ddatblygu cynllun ar sut y byddant yn ateb anghenion y boblogaeth awtistig leol; sicrhau bod y data hwn yn cael ei adolygu a’i rannu rhwng gwasanaethau plant ac oedolion yn rheolaidd er mwyn sicrhau prosesau pontio llyfn i bobl ifanc awtistig; sicrhau bod canllawiau statudol yn cael eu datblygu i nodi pa weithwyr proffesiynol sydd angen pa lefel o hyfforddiant i sicrhau bod plant ac oedolion awtistig yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol sy’n eu deall; gwneud yn glir na ddylai plant ac oedolion awtistig gael eu troi ymaith rhag gwneud defnydd o wasanaethau cyhoeddus oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn ‘rhy alluog’ a bod eu IQ yn ‘rhy uchel’; adolygu’r data’n rheolaidd a’i fonitro i sicrhau bod cynnydd clir yn cael ei wneud.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd un ymateb i’w ymgynghoriad ar y cynllun ar ei newydd wedd wedi gofyn am Ddeddf, nid oedd Deddf awtistiaeth yn rhan o’r ddogfen ymgynghori na’r cwestiynau ymgynghori. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw eto, ond rydym yn amau bod llawer o gyfeiriadau at yr hyn y gallai ac y byddai Deddf yn ei wneud, h.y. sicrhau llwybr clir at ddiagnosis; hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol; datblygu cynlluniau lleol ar gyfer gwasanaethau; a chymorth yn seiliedig ar angen yr unigolyn. Heb ddeddfwriaeth, nid yw strategaeth yn ddim ond rhestr wirfoddol o ddymuniadau heb unrhyw rwymedigaeth ar awdurdodau lleol na byrddau iechyd lleol i’w gweithredu, na ffordd felly o sicrhau iawn. Yn ôl yr ymgynghoriad ar y strategaeth awtistiaeth ar ei newydd wedd, roedd y gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd i fod i ddechrau o 2016 ymlaen, ond newydd ddechrau casglu data ar sut ffurf ddylai fod i’r gwasanaeth y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sefydlu saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol y mae’n rhaid iddynt ymateb i asesiad o’r boblogaeth. Mae un o themâu craidd y cynlluniau ardal yn dilyn asesiadau o’r boblogaeth yn cynnwys iechyd meddwl ac ‘anabledd dysgu/awtistiaeth’. Fodd bynnag, mae awtistiaeth yn gyflwr yn ei hawl ei hun, ac ni fydd ei gyplysu unwaith eto gydag anableddau dysgu yn rhoi darlun clir o anghenion pobl ag awtistiaeth. Yn wir, mae’n eu sarhau.
Mae gan awdurdodau lleol dîm iechyd meddwl ac anabledd dysgu ond nid tîm awtistiaeth penodol o reidrwydd. Mae’r risg yn aros felly y bydd pobl awtistig yn parhau i ddisgyn i’r bwlch rhyngddynt. Nid oes unrhyw hyfforddiant awtistiaeth gorfodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Mae’r asesiad o’r boblogaeth yn asesiad cyffredinol ac efallai na fydd yn ddigon manwl i allu gwneud asesiad o awtistiaeth, sy’n galw am fewnbwn gan sawl asiantaeth.
Mae yna lawer o syndromau genetig, fel syndrom X frau, a all fod wrth wraidd diagnosis o awtistiaeth. Dylid ystyried y diagnosisau hyn hefyd fel rhai ystyrlon gan wasanaethau a’u defnyddio i helpu i arwain cymorth. Nid yw’r Ddeddf yn cyfeirio at ddiagnosis, a gallai’r meini prawf cymhwyster newydd olygu mewn gwirionedd y pennir nad yw pobl awtistig yn gymwys i gael gofal a chymorth. Felly, ni allwn ddibynnu ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i ateb anghenion a hawliau’r gymuned awtistiaeth yng Nghymru.
Mewn ymateb i ddadl Ionawr 2015, dywedodd y Gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, y byddai ei swyddogion yn monitro gwariant ar ôl rhoi’r gorau i neilltuo arian awtistiaeth ar gyfer awdurdodau lleol. Mae angen i ni wybod faint y mae pob awdurdod lleol wedi ei dderbyn a sut y mae’r arian yn cael ei wario.
Oedolion yn unig sydd wedi’u cynnwys yn Neddf awtistiaeth Lloegr. Mae Deddf Gogledd Iwerddon yn cynnwys pob oedran a holl adrannau’r Llywodraeth. Mae ar Gymru angen Deddf awtistiaeth i ateb anghenion plant ac oedolion â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, ac i ddiogelu a hyrwyddo hawliau oedolion a phlant ag awtistiaeth yng Nghymru. Mae pedwar o’r pum plaid a gynrychiolir yma wedi ymrwymo i ddeddfwriaeth awtistiaeth yn eu maniffestos eleni, ac mae miloedd wedi arwyddo deiseb ar-lein o blaid Deddf awtistiaeth i Gymru. Mae’n bryd gwneud iddi ddigwydd.