Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 12 Hydref 2016.
Agorodd Mark Isherwood y ddadl gydag achos cryf a chynhwysfawr dros y Bil hwn, ac rwyf wedi fy synnu gan rai o’r ymyriadau gan Aelodau Cynulliad Llafur. Rwy’n credu fy mod yn iawn yn dweud fy mod wedi cyfarfod â Lee Waters am y tro cyntaf mewn hustyngau yn Llanelli a drefnwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Rwy’n gwybod ei fod, wrth gwrs, yn berson dyngarol iawn. Y cyfan y byddwn yn ei ddweud wrtho yw: peidiwch â gwneud y gorau yn elyn i’r da. Mae angen gweithredu yn awr. Rydym wedi bod yn siarad ers llawer gormod o amser. Gadewch i ni roi rhywfaint o gig a gwaed ar y dadleuon deallusol a gyflwynwyd heddiw gan bob plaid.
Mae gan etholwraig a ysgrifennodd ataf ddau o blant ag awtistiaeth. Mae hi’n dweud bod y daith drwy’r systemau amrywiol sydd ar waith wedi bod yn wahanol iawn er gwaethaf y ffaith eu bod ill dau ar y sbectrwm awtistig. Mae hi’n dweud:
Cafodd fy mab ddiagnosis yn weddol gynnar mewn bywyd, yn fuan ar ôl ei drydydd pen-blwydd. Cafodd ddatganiad a dyfarnwyd gweithiwr cymorth iddo am ddwy awr a hanner yr wythnos, a oedd yn cynyddu i bedair awr dros y gwyliau. Cawsom 24 diwrnod o gymorth seibiant y flwyddyn, ar ôl brwydr aruthrol, ond ar adeg a oedd yn gyfleus i’r darparwr gwasanaeth, nid i ni fel teulu. Ni chafodd fy merch ei diagnosis nes yn ddiweddarach iawn yn ei bywyd, pan oedd yn saith a hanner. Bu’n rhaid i mi fynd â’r awdurdod lleol i dribiwnlys cyn iddynt gynnal asesiad statudol o’i hanghenion addysgol, er ei bod erbyn hynny wedi cael diagnosis o syndrom Asperger. Dilynwyd hynny hefyd gan frwydr dros ddarpariaeth gweithiwr cymorth, ac yn y diwedd dyfarnwyd dwy awr yr wythnos iddi, heb unrhyw gynnydd ar adeg gwyliau. Brwydr arall, a chafodd ei gynyddu yn y pen draw i ddwy awr a hanner. Er fy mod wedi gofyn sawl gwaith, ni ddyfarnwyd unrhyw nosweithiau cymorth seibiant i fy merch erioed. Ar hyn o bryd, rwy’n aros am asesiad gofalwr, ond mae hwnnw 12 mis yn hwyr. Rwyf hefyd yn aros i gael gwybod a fyddwn yn cael mynychu sesiynau therapi teuluol am fod fy merch wedi datgelu’n ddiweddar nad yw’n teimlo fel gwryw na benyw ac felly byddai’n well ganddi pe bai pawb yn cyfeirio ati mewn modd niwtral o ran rhywedd. Mae hyn wedi arwain at nifer o byliau o hunan-niweidio, gan gynnwys taro ei phen, brathu ei breichiau a chrafu ei hwyneb. Diolch byth, hyd yn hyn, nid oes unrhyw ddigwyddiadau torri wedi bod, ac rwy’n mawr obeithio na fydd byth. Mae pobl yn sôn am loteri cod post o ran pa wasanaethau sydd ar gael, ond mae yna hefyd loteri diagnosis ar waith. Mae arnom angen y Ddeddf hon i roi trefn ar fater awtistiaeth yng Nghymru.
Mae gennyf etholwraig arall sydd hefyd wedi ysgrifennu ataf mewn ffordd emosiynol iawn, ond dyma yw ei bywyd bob dydd. Nid wyf am ddarllen y llythyr i gyd. Wrth siarad am ei mab, mae’n dweud:
Mae wedi mynychu uned anghenion dysgu ychwanegol yn ei ysgol ers dros ddwy flynedd, gan fynychu yn y bore a mynychu dosbarth prif ffrwd yn y prynhawn. Mae hyn yn sicrhau ei fod yn cael cymorth i ganolbwyntio ar wersi ac nad yw eraill yn tynnu ei sylw ef nac yntau’n tynnu sylw eraill, a’i fod hefyd yn integreiddio i’r dosbarth ac yn cymysgu gyda’i gyfoedion.
Mae hi’n dweud:
Cefais wybod ddoe, heb drafodaeth gyda’i rieni, ei fod bellach yn mynychu’r uned drwy’r dydd, ac rwy’n aros am eglurhad am hyn. Er y bydd yn sicr yn gwella ei sylw, rwy’n poeni ei fod yn colli’r cyfle i gymysgu gyda’i gyd-ddisgyblion. Nid yw wedi cael diagnosis ar hyn o bryd. Mae’r bwrdd iechyd o’r farn ei fod yn gwneud cyswllt llygad da a’i fod yn gymdeithasol. Dau farciwr yn unig yw’r rhain mewn sbectrwm eang iawn. Pam y dylai fy machgen ddioddef heb y dulliau cywir i’w helpu? Rwy’n poeni gan ei fod bellach ym mlwyddyn 4 nad oes llawer o amser nes y bydd yn dechrau yn yr ysgol gyfun. Gyda diffyg cydgysylltiad ymddangosiadol rhwng yr adran addysg a’r adran iechyd, ynghyd â diffyg dealltwriaeth amlwg o’r cyflwr, faint o blant sy’n mynd i gael cam a gorfod byw bywyd lle nad ydynt yn gallu cyflawni eu potensial llawn? Efallai na fydd yn tyfu fyny i reoli’r byd, ond ef yw fy myd i, ac ni ddylai unrhyw beth ei rwystro rhag estyn am y sêr.
Mae’n dweud,
Nid oes llais gan lawer o unigolion sydd ag awtistiaeth neu mae rhwystrau yn eu ffordd sy’n atal y llais hwnnw rhag cael ei glywed. Os gwelwch yn dda, sefwch drostynt a sicrhau eich bod yn cael eich clywed. Byddwch yn llais iddynt; llais y dyfodol.
Dyna’r cyfle sydd gennym heddiw ac ydw, rwy’n deall y dadleuon deallusol rydym wedi eu clywed gan Aelodau Cynulliad Llafur, ond yr hyn rydym ei angen yw gweithredu. Mae angen i ni weithredu ar hyn yn awr, nid treulio 20 mlynedd arall yn siarad am y posibilrwydd o wella’r hyn a gyflwynir heddiw. Os credwch fod gennych ffordd well, yna cyflwynwch honno. Os nad oes gennych ffordd well, yna gadewch i ni bleidleisio dros y Bil hwn.