1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth canolfannau celfyddydol ledled Cymru? OAQ(5)0208(FM)
Gwnaf. Mae Cymru yn elwa ar rwydwaith cynhwysfawr o ganolfannau a lleoliadau celfyddydau sydd i’w gweld ar hyd a lled y wlad.
Yn amlwg, byddwch yn sylweddoli, ledled Cymru, mai un o'r ffyrdd cyntaf y gall pobl gael mynediad at y celfyddydau yw mewn canolfannau celfyddydau ar raddfa fach. Felly, roeddwn i’n bryderus iawn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu cau Canolfan Gelfyddydau Pontardawe am un diwrnod yr wythnos—y diwrnod o'r wythnos y mae grwpiau cymunedol yn defnyddio'r ganolfan mewn gwirionedd. Roeddwn i yno’n ddiweddar i wylio 'The Revlon Girl', sy’n sioe yr wyf yn siŵr bod llawer ohonom ni wedi ei gweld am drychineb Aberfan. Byddwn yn bryderus iawn pe byddai’r ganolfan yn cau ar un diwrnod yr wythnos oherwydd, wrth gwrs, mae ganddyn nhw wasanaethau hanfodol i’w darparu. Ar ôl cau ar un diwrnod, gall fod yn llethr llithrig i gau ar ragor o ddyddiau'r wythnos. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ofyn am sicrwydd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot na fyddant yn gwneud y penderfyniad hwn, ac y byddant yn cadw'r ganolfan ar agor i fusnes?
Mater i’r cyngor yw hwn yn y pen draw, wrth gwrs, ond rwy’n gobeithio y bydd y gyllideb ddrafft yn cynnig lefel o gysur i gynghorau ledled Cymru, fel eu bod yn teimlo nad oes rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau tebyg i’r un y mae’r Aelod newydd ei ddisgrifio.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich ateb i Bethan Jenkins. A gaf i gydnabod y gwerth y mae Bethan wedi ei neilltuo i’r rhan y mae Canolfan Gelfyddydau Pontardawe yn ei chwarae yn y gymuned? Roeddwn i, fy hun, gyda Bethan yn gwylio 'The Revlon Girl' yno ychydig ddiwrnodau yn ôl. A fyddai hefyd yn cydnabod—[Chwerthin.] Nid ‘gyda’ yn union. [Chwerthin.] A fyddai hefyd yn cydnabod y swyddogaeth ehangach y mae canolfannau celfyddydau yn ei chyflawni, nid yn unig fel mannau adloniant, er mor bwysig yw hynny, ond fel canolfannau cymunedol, sy’n helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd, gan wneud cynnig ehangach i blant ysgol o ran addysg a lles cyffredinol? A fyddai'n ymuno â mi i obeithio y bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn edrych ar yr holl ystyriaethau hynny pan fyddant yn ystyried cyllid a chefnogaeth ar gyfer y dyfodol?
Byddwn, yn sicr. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn am ddibenion addysgol canolfannau celfyddydau. Ni ddylem anghofio ychwaith bod canolfannau celfyddydau yn darparu cyflogaeth. Flynyddoedd lawer yn ôl, roeddwn i mewn darlith rymus iawn gan y Dr Mererid Hopwood ar ddiwylliant fel sbardun economaidd, yng Ngogledd Iwerddon o bob man. Roedd yn pwysleisio'n gryf iawn sut y gellir defnyddio’r celfyddydau fel ffordd o ddatblygu economïau lleol hefyd. Felly, ceir nifer o feysydd lle mae canolfannau celfyddydau yn bwysig sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn sy’n amlwg ar unwaith i aelodau'r cyhoedd.
Brif Weinidog, un ffordd o ddiogelu ein canolfannau celfyddydau cymunedol, wrth gwrs, yw model tebyg i'r un yn Lloegr o Ddeddf Lleoliaeth 2011 er mwyn achub cyfleusterau cymunedol. Roedd saith deg wyth y cant o ymatebwyr i’ch 'Diogelu Asedau Cymunedol' o blaid hawliau o'r fath. Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydych chi wedi ariannu swyddog cymorth trosglwyddo cymunedol ar gost o £56,000 i'r trethdalwr. A allwch chi hysbysu’r Siambr heddiw am ganlyniadau ystyrlon y swydd honno, faint o asedau cymunedol sydd wedi eu trosglwyddo o ganlyniad i hynny, a sut yr ydych chi’n bwriadu, fel Prif Weinidog Cymru, bwrw ymlaen â’r math hwnnw o agenda sy'n ein helpu i ddiogelu ein hasedau cymunedol?
Ceir digonedd o enghreifftiau lle mae cymunedau wedi cymryd cyfleusterau drosodd yng Nghymru. Yn gymharol ddiweddar, roeddwn i yn llyfrgell Llansawel, a dweud y gwir, yn etholaeth David Rees, lle mae'r llyfrgell wedi cael ei chymryd drosodd. Ond mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng helpu pobl leol i gymryd eu cyfleusterau drosodd a’u gorfodi i wneud hynny trwy gyfrwng y Ddeddf Lleoliaeth. Mae'n well gennym ni ddefnyddio dull gwirfoddol, ac rydym ni’n gweld enghreifftiau da o hynny'n digwydd ledled Cymru.