1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sail dystiolaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sail i strategaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0211(FM)
Rydym ni’n defnyddio tystiolaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau i lunio ein dull o ddarparu Cymru decach, fwy ffyniannus a mwy diogel.
Brif Weinidog, gwnaeth yr Athro Brian Morgan a’r Athro Gerry Holtham waith ymchwil yn ddiweddar i’r hyn sy'n gweithio o ran datblygiad economaidd ledled y byd. Daethant o hyd i gydberthynas gref iawn rhwng lefelau uchel o wariant ar ysgolion a llwyddiant economaidd. Yn ogystal â'r manteision economaidd, wrth gwrs, mae addysg yn dda ynddo’i hun ac o fudd i bob agwedd ar fywyd. A wnaiff Llywodraeth Cymru weithio i gynyddu cyllid i’n hysgolion yng Nghymru?
Wel, rydym ni wedi gwneud yn union hynny, wrth gwrs, drwy'r mesurau diogelu yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith ar gyfer ysgolion. Rydym ni’n gweld ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru—rhywbeth nad oedd yn digwydd pan oeddwn i yn yr ysgol yn y 1980au. Nid oedd byth unrhyw beth yn cael ei adeiladu yn yr 1980au; aeth pethau ar chwâl. Rydym ni’n gweld mwy a mwy o'n myfyrwyr ysgol mewn adeiladau sy'n addas ar eu cyfer. Mae'r Aelod yn llygad ei le: sgiliau a seilwaith yw’r ddau faes sydd bwysicaf i unrhyw economi fodern. Mae'n rhaid i chi fod â’r gallu i symud nwyddau allan ac i symud pobl o amgylch eich economi, ond yr un cwestiwn y mae buddsoddwyr yn ei ofyn i mi bob amser yw: a yw’r sgiliau sydd eu hangen arnom gennych chi er mwyn i ni fod yn llwyddiannus yng Nghymru? Ac, wrth gwrs, yn gynyddol, ‘ydynt’ yw’r ateb i hynny, a byddwn yn parhau i fuddsoddi nid yn unig mewn ysgolion, ond mewn sgiliau yn gyffredinol i bobl o bob oed, trwy, er enghraifft, ein 100,000 o leoedd y byddwn yn eu creu ar gyfer pob oedran mewn cynlluniau prentisiaeth.