Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 18 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau, a chofnodi fy niolch i Adam Price ac i Dai Lloyd am y trafodaethau adeiladol iawn yr ydym wedi eu cael? Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a'u plaid am yr hysbysiad ymlaen llaw a gefais yn ogystal â’r cynigion ar gyfer comisiwn seilwaith Plaid Cymru ar gyfer Cymru. Rwy'n credu bod y trafodaethau a'r ddogfen a gynhyrchwyd gennych wedi bod yn amhrisiadwy wrth fwrw ymlaen â’r trafodaethau yr ydym wedi’u cael hyd yma, ac, fel y nodais yn fy natganiad, hwn yw’r cam cyntaf, yn fy marn i, ar gyfer sefydlu comisiwn seilwaith ar gyfer Cymru.
O ran yr hyn sydd wedi digwydd ar lefel Llywodraeth y DU, rwy’n cydnabod ei fod yn dipyn o syndod na wnaeth Llywodraeth y DU fwrw ymlaen gyda gwneud eu comisiwn yn statudol. Rydym wedi gofyn am resymu manwl yn y cyswllt hwn, gan ein bod wedi bod yn datblygu ein model ni ar y sail eu bod nhw yn mynd i fod yn gwneud eu model hwy yn statudol. Ac felly'r cam nesaf naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd yn y blynyddoedd i ddod, fyddai y gallem ni hefyd wedyn drawsnewid ein model ni yn gorff statudol. Rydw i wedi addo sicrhau, erbyn diwedd y Cynulliad hwn, y bydd adolygiad o gylch gwaith, effeithiolrwydd a gweithrediadau’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, fel y gallwn asesu'n llawn a ddylai fod yn statudol. Ac yna, os felly, bydd yn ein galluogi ni i gynnig deddfwriaeth pan fo hynny'n bosibl.
O ran ariannu gwaith, wrth gwrs, mae'n hanfodol fy mod yn gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth, ond yn arbennig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol. Ond mae’r Aelod hefyd yn iawn cyn belled ag y mae ariannu arloesol yn y cwestiwn. Rwy'n credu y bydd aelodaeth y comisiwn seilwaith yn gwbl hanfodol yn hyn o beth. Bydd yn bwysig iawn bod gennym yr arbenigedd priodol nad yw efallai wedi bod ar gael nes yn ddiweddar er mwyn ein galluogi i gyd-drafod pa fath o gyllid arloesol mewn gwirionedd all gefnogi'r prosiectau seilwaith mawr sydd eu hangen yn fawr iawn ar Gymru.
Os caf fi adolygu rhai o'r ystyriaethau yr ydym wedi bod yn eu rhoi i godi cyllid ychwanegol, rydym yn rhannu’r nod o godi arian ychwanegol ar gyfer buddsoddiad seilwaith cyhoeddus drwy ddatblygu modelau sy'n cadw’r rhan fwyaf o nodweddion deniadol y model dosbarthu dielw , ond sy'n adlewyrchu'r drefn dosbarthiad presennol, a all lyffetheirio rhai o'r datblygiadau sy'n cael eu cynnig gan Blaid Cymru. Rydym wedi ymgysylltu â chynghorwyr cyfreithiol ac ariannol i gynorthwyo gyda datblygu model sy'n caniatáu i'r sector cyhoeddus gasglu rhai o'r adenillion i ecwiti, y mae’r Albanwyr, wrth gwrs, wedi bod yn arbennig o lwyddiannus yn ei wneud drwy ganolbwynt, ac yr ydym ninnau hefyd yn cynnig ei wneud.
Rydym wedi ymgynghori'n helaeth gyda chydweithwyr o Futures Scottish Trust a hefyd â Thrysorlys Ei Mawrhydi, gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Eurostat a Chanolfan Arbenigedd Partneriaeth Cyhoeddus-preifat Ewropeaidd Banc Buddsoddi Ewrop, ac rydym yn datblygu ein model mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr, gan gynnwys adolygiad gan gymheiriaid gyda'r ganolfan arbenigedd Ewropeaidd.
O ran y lefelau hanesyddol o danfuddsoddi mewn llawer o'n seilwaith, rwy’n meddwl fy mod wedi sôn yn ystod y cwestiynau yn gynharach ac yn ystod y cwestiwn brys, yn hanesyddol, ein bod wedi gweld tanfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Mae'n deg dweud bod angen inni gynyddu'n sylweddol lefel y buddsoddiad ar draws ein seilwaith ffisegol a digidol er mwyn sicrhau bod gennym wlad sydd â chysylltiadau da ac sy’n unedig, ac yn wlad lle mae pobl yn gallu byw o fewn eu cymunedau heb bryderu sut y byddant yn cael mynediad at fannau cyflogaeth. Am y rheswm hwnnw, mae'n hanfodol ein bod yn bwrw ymlaen gyda'r hyn sy’n un o'r rhaglenni seilwaith mwyaf uchelgeisiol y mae Llywodraeth wedi’i chyflwyno ers dechrau datganoli. Mae’n cynnwys cynigion ar gyfer ffordd liniaru'r M4, trydedd bont Menai, a gwaith uwchraddio i'r A494, A55, A40, ffordd osgoi'r Drenewydd a ffordd osgoi Caernarfon, yn ychwanegol at y cam nesaf o gysylltedd band eang cyflym iawn, ac mae hefyd yn cynnwys rhaglenni cymdeithasol, megis canolfannau iechyd ac ysbytai newydd, ac, wrth gwrs, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, addysg uwch ac addysg bellach.
Mae'r Aelod yn llygad ei le wrth honni y gall rhaglenni cyfalaf gynyddu yn sylweddol y raddfa o dwf economaidd mewn gwlad, ac, am y rheswm hwnnw, rydym yn dymuno hefyd gyflymu'r rhaglen adeiladu er mwyn i ni mewn gwirionedd danio economi dyfodol Cymru .