5. 4. Datganiad: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:59, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ragarwain ei sylwadau drwy ddweud, wrth gwrs, mai Deddf cenedlaethau'r dyfodol yw'r ymbarél ar gyfer barnu popeth. Mae'n rhaid i ni sicrhau Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy, ac, os nad ydym yn darparu'r drafnidiaeth gyhoeddus fel y gall pobl gyrraedd y gwaith, ni fyddant yn gallu cadw’r swyddi gwerthfawr hynny. Felly, rwy'n siŵr nad ydym yn mynd i fod yn penodi unrhyw apparatshiciaid. Yr hyn yr wyf yn pryderu amdano yw ein bod yn penodi pobl sydd wir yn deall her technolegau’r dyfodol yr ydym yn mynd i fod eu hangen i gadw ar y blaen. Felly, rwyf am siarad am ddau beth. Un yw ochr rhyngrwyd pethau. Gwyddom, ym Mryste, eu bod yn cadw cofnod o bawb sy'n gadael am y gwaith, yr amser a ble maen nhw'n mynd, trwy eu ffôn symudol. Tybed a oes gennym y capasiti hwnnw yma yng Nghymru; ac os na, pam ddim? Rwy'n ymwybodol bod yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi buddsoddi £10 miliwn mewn prosiect ymchwil a datblygu i edrych ar sut y gellir ei wneud i weithio yn y dinas-ranbarth. A yw'n mynd i gael ei adeiladu i mewn i fetro’r de, ac a yw’n mynd i gael ei adeiladu i mewn i orsaf fysiau newydd Caerdydd? Oherwydd mae’n hollol anobeithiol os nad oes gennym y lefel honno o gysylltedd gyda thechnolegau newydd.

Yr ail beth yw nad ydych yn gweld llawer o geir trydan yng Nghymru, ac rwy’n meddwl tybed pam. Rwy'n ymwybodol bod llawer o bwyntiau trydan yn y de. Ni fyddai'n syndod pe na fyddem yn gweld rhai yn y gogledd, oherwydd nid oes yno unrhyw bwyntiau cysylltiad trydan. Felly, ni fyddwch yn gallu mynd y tu hwnt i Aberhonddu oherwydd ni fyddwch yn gallu dod yn ôl. Felly, yn amlwg, mae angen i ni gael rhwydwaith sy'n gallu darparu ar gyfer y mathau newydd o geir nad ydynt yn mynd i fod yn llygru yn y modd y mae nwyon disel neu betrol yn ei wneud. Rwy’n gwybod bod rhai cynhyrchwyr ceir hyd yn oed yn anghofio am geir trydan a mynd yn syth i hydrogen. Os mai dyna'r dechnoleg newydd, nid oes gennym ond dau bwynt cyswllt yng Nghymru—un ym Mhort Talbot ac un yn Nhrefforest. Felly, a yw'r rhain y math o bethau yr ydym yn mynd i fod yn gallu mynd i'r afael â hwy mewn gwirionedd yn y comisiwn seilwaith cenedlaethol? Ac a ydych yn mynd i fod yn edrych nid yn unig y tu hwnt i Gymru, ond y tu hwnt i Brydain er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr unigolion gorau o'r radd flaenaf sydd wirioneddol yn deall y technolegau newydd hyn, a'n bod yn symud ymlaen yn gyflym ac yn symud y tu hwnt i weddill y DU er mwyn cael y seilwaith y bydd ei angen arnom yn y dyfodol?