Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 18 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau a'r cwestiynau pwysig a gododd hi yn ei chyfraniad, a dweud ei bod yn hollol gywir mai’r nodau lles yw’r grym y tu ôl i greu comisiwn seilwaith—nodau a fydd yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar strategaethau tymor hwy i sbarduno buddsoddi yn y seilwaith er mwyn helpu i ddarparu'r math o gymunedau cynaliadwy ac integredig yr ydym i gyd am eu gweld ledled Cymru? O ran cwestiwn a ofynnwyd yn gynharach gan Russell George mewn cysylltiad â'r nodau lles, fy mwriad i fyddai gwahodd y comisiynydd i archwilio’r potensial o herio'r comisiwn a dal y comisiwn yn atebol am weithredu’r nodau, ac am sicrhau eu bod yn cael eu hanrhydeddu.
O ran aelodaeth—ac rwy’n meddwl bod yr Aelod yn iawn hefyd i ddweud y bydd aelodaeth y comisiwn yn gwbl hanfodol o ran rhoi sylw dyledus i dechnolegau digidol newydd—yn sicr nid wyf yn erbyn y syniad o gael arbenigwyr o'r tu allan i Gymru i ymuno â’r comisiwn. Bydd hon yn broses benodiadau cyhoeddus gwbl agored a thryloyw, a byddwn yn croesawu arbenigwyr o unrhyw le, boed o Gymru, y DU neu ymhellach i ffwrdd, oherwydd fel y dywedais yn fy natganiad, rydym am gael comisiwn amrywiol—un sydd ag aelodau sy'n wirioneddol ychwanegu gwerth ac yn gallu dangos gallu clir wrth ddadansoddi a deall ein hanghenion seilwaith, nid yn unig rhai ffisegol, ond digidol hefyd.
O ran bargen y ddinas a dinasoedd smart, wel, wrth gwrs, roedd yn addewid maniffesto ein plaid i gefnogi datblygiad trefi a dinasoedd smart. Yn ogystal â hyn, fel rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a'r gororau, roedd yn amlwg mai’r hyn y mae teithwyr yn ei ddymuno yw gwasanaeth sy’n manteisio ar dechnolegau digidol newydd a rhai sy'n datblygu cyn belled ag y mae tocynnau a gwybodaeth ar drenau yn y cwestiwn, yn ogystal ag amrywiaeth o wasanaethau eraill. Felly, byddem yn disgwyl, yn ystod y broses gaffael sy'n digwydd yn awr, i bedwar cynigydd allu cyflwyno cynigion uchelgeisiol i ymelwa a manteisio ar y technolegau digidol diweddaraf ac sy'n dod i'r amlwg mewn trafnidiaeth.
O ran cerbydau modur, mae'n wir, hyd nes yn ddiweddar, nad yw Cymru wedi cael cymaint o bwyntiau trydanu ag y byddem wedi dymuno eu cael ar gyfer ceir trydan. Ond rwy’n cael fy sicrhau gan fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd fod 100 pwynt trydanu yn cael eu datblygu ar draws Cymru. Mae’r Aelod hefyd yn iawn i nodi bod ceir celloedd hydrogen yn ganolbwynt penodol ar gyfer ymchwil a datblygu yn awr. Yn hyn o beth, mae gennym stori falch iawn i’w hadrodd am Riversimple yn y canolbarth—cwmni sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru; cwmni wnaeth ymddangos yn sesiwn agoriadol cynhadledd Autolink 2016 heddiw yma yng Nghaerdydd. Byddaf yn gwneud datganiad am gyfleoedd allforio yn yr wythnosau nesaf, yn seiliedig ar fy nhaith ddiweddar i Japan. Ond yr wythnos diwethaf, pan siaradais â buddsoddwyr yn Japan, roedd gwybodaeth glir o'r gwaith ymchwil a datblygu sydd wedi digwydd mewn cysylltiad â cheir celloedd hydrogen yng Nghymru ac yn y DU. Mae cryn ddiddordeb mewn cefnogi’r ymchwil honno a'n helpu i fanteisio arni er budd nid yn unig ddefnyddwyr ceir, ond yr amgylchedd ehangach.