Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 18 Hydref 2016.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei ddatganiad, a chroesawu’r datganiad yma, yn wir, a diolch iddo hefyd am ei eiriau caredig? Rwy’n diolch iddo hefyd am bob cydweithrediad dros y misoedd diwethaf rhwng ei swyddfa fo, swyddfa Adam Price a’m swyddfa i, ynghylch y syniad yma o gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru—‘national infrastructure commission for Wales’, neu NICW. Wrth gwrs, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud eisoes, mae ein NICW ni yn wahanol i’ch NICW chi, onid yw? Ond mwy am hynny yn y man. Wrth gwrs, mae ein NICW ni wedi bod yn ffrwyth pedair blynedd o waith dygn a manwl ar ran Adam Price a chyfeillion a’r sawl sydd yn ymchwilio i’r math hyn o beth, a hefyd pobl sydd yn gweithio yn y maes, yn naturiol. Mi wnaethom ni ei lansio fo, fel yr ydych chi wedi crybwyll eisoes, ac fel y gwnaeth Adam grybwyll, ryw gwpwl o wythnosau yn ôl, ac roedd y sawl fel yr Institution of Civil Engineers wedi eu cyffroi yn syfrdanol ynglŷn â’r syniadau yma o NICW a oedd o’u blaenau nhw y dyddiau hynny. Hynny yw, NICW pwerus, yntefe, sydd yn sefyll ar wahân ar ei draed ei hun, yn gallu benthyg, yn naturiol, a hefyd yn gallu denu ffynonellau eraill o ariannu.
Felly, corff pwerus—dyna’r weledigaeth, achos, fel rydych chi’n gwybod, rydym ni’n byw mewn amseroedd anodd. Mae economi Cymru—. Os ydych chi’n edrychyd ar y cyfoeth, mae 75 y cant o’n cyfoeth, fel y cyfryw, yn dod o’r sector cyhoeddus, a dim ond 25 y cant sy’n dod o’r sector preifat. Felly, er mwyn cynyddu cyfoeth, mae angen cynyddu beth mae busnes yn ei wneud, ac i ddatblygu’r economi, mae angen, fel yr ydych chi’n gwybod, buddsoddi mewn sgiliau a hefyd, yn naturiol, buddsoddi mewn isadeiledd, ac mae gwirioneddol angen buddsoddi mewn isadeiledd. Gwnaethoch grybwyll bod yn uchelgeisiol. Wel, mae angen bod yn uchelgeisiol, ac yn arloesol, achos mae angen mynd amdani. Mae gyda ni sawl project yn yr arfaeth—rydym ni wedi clywed amdanyn nhw’r prynhawn yma a beth sydd angen ei wneud. Mae rhywbeth yma’n amcangyfrif bod yna brojectau isadeiledd gwerth £40 biliwn yn disgwyl cael eu hadeiladu. Nawr, disgwyl y byddwn ni os nad ydym ni’n gwneud dim arloesol a gwahanol ynglŷn â’r system buddsoddi ac yn gafael yn y cyfalaf er mwyn gallu adeiladu hyn. Dyna pam yr ydym ni wedi dod â’n syniad ni o’r comisiwn seilwaith cenedlaethol yma gerbron. Rwy’n falch iawn bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi croesawu’r syniad a’i fod yn fodlon datblygu a bod yn hollol agored i’w esblygu, fel yr ydych wedi cyhoeddi yn y fan hyn. Nawr, buaswn i’n disgwyl, gobeithio, gweld ychydig bach o esblygu ar eich syniad gwreiddiol chi o fod yn rhyw gorff sydd ddim ond yno i gynghori. Yn sylfaenol, rydym ni angen corff sy’n mynd i wneud pethau, fel y mae’r peirianwyr sifil ac eraill yn y maes adeiladu eisiau ei weld yn digwydd, achos mae amser yn brin, ac mae yna gryn bryder, yn enwedig yn y dyddiau ansicr yma wedi Brexit. Mae angen mynd i’r afael â phethau.
Felly, rwy’n gweld o hwn ein bod ni’n mynd allan i ymgynghori rŵan. A allaf i jest ofyn pa mor agored yr ydych chi i newid eich meddwl? Os ydych chi’n mynd i gael llwyth o bobl yn dod yn ôl atoch yn dweud wrthych, ‘Wel, “actually”, buasai’n well gyda ni gael corff pwerus sy’n gallu gwneud pethau, megis benthyg’, a ydych chi’n mynd i fynd amdani a newid eich meddwl, yn y bôn, a datblygu’r isadeiledd yma yr oedd Jenny Rathbone a Vikki Howells ac eraill yn sôn amdano fo? Dim ond ychwanegu at y rhestr aros yr ydym ni, os nad ydym ni’n mynd i’r afael â’r pethau yma.
Mi fuaswn i’n licio gwybod, fel y mae Adam wedi holi eisoes, beth yn union ydy’r rhesymeg ar hyn o bryd y tu ôl i alltudio projectau adeiladu cymdeithasol, megis adeiladu ysgolion, adeiladu ysbytai, ac adeiladu tai? Pam na fuasem ni’n gallu gwneud hynny o dan ‘remit’ NICW? O dan ein NICW ni, buaswn i’n licio meddwl ein bod ni’n gallu ei wneud e, a buaswn i’n gobeithio y buasai eich NICW chi hefyd yn datblygu’r gallu i wneud hynny, achos, ar ddiwedd y dydd, mae gwir angen mynd amdani. Mae sefyllfa’r economi yn beryglus. Mae’n rhaid inni ddatblygu swyddi i’n pobl ifanc, datblygu cyfoeth ein gwlad, ac mae yna fodd yn y fan hyn, gyda datblygiad y corff anturus yma, i fod yn arloesol ac arwain yn yr ynysoedd hyn. Diolch yn fawr.