Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 18 Hydref 2016.
Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei sylwadau ac am ei ddiolch diffuant, hefyd, am y modd yr wyf i a’m swyddfa wedi gallu trafod cynigion gydag ef ac Adam Price. Rwyf wedi dweud o'r blaen nad oes gen i ddim monopoli ar ddoethineb neu unrhyw hawlfreintiau ar syniadau da. Ac rwy’n meddwl mai’r hyn y mae'r broses hon wedi ei dangos i ni yw, mewn gwirionedd, ei bod yn bwysig iawn inni rannu syniadau da, eu trafod a chynnal dadl arnynt, ac yna gyrraedd sefyllfa gytbwys, yn hytrach na’u gwrthod yn ysmala. Am y rheswm hwnnw, gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn barod iawn i ddewisiadau eraill gael eu cynnig yn ystod yr ymgynghoriad. Roedd hynny’n un o'r rhesymau pam yr wyf yn awyddus i wneud yn siŵr bod yr ymgynghoriad ar agor am gyfnod da, fel y bydd yn ein galluogi ni i ystyried y sefyllfa ddiweddaraf, yn enwedig o safbwynt model Llywodraeth yr Alban a'r dyfarniad diweddar i'r gogledd o'r ffin hefyd. Mae hynny yn amlwg wedi cael effaith ar y ffordd yr ymdriniwyd â model eich plaid chi am gomisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru. Ni fyddaf yn ailadrodd y materion eraill yr ydym wedi eu cael yn ystod y trafodaethau a'r pryderon yr wyf wedi eu codi yn y Siambr ac mewn trafodaethau preifat gyda chi. Digon yw dweud fy mod yn agored i ddadleuon cryf dros newid y model yr wyf wedi'i gynnig yr wythnos hon.
O ran lefel y seilwaith sydd ei angen i danio twf economaidd yn y dyfodol, rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn parchu swyddogaeth y sector preifat o ran cyflawni’r hyn a allai fod yn brosiectau sy'n newid pethau yng Nghymru. Am y rheswm hwnnw, rwy'n credu y bydd swyddogaeth y comisiwn i gymryd golwg hirdymor ar ein hanghenion seilwaith yn gwbl hanfodol. O ran dau brosiect yn unig, Wylfa Newydd a'r morlyn llanw ym mae Abertawe, mae gennym y potensial i ddenu mwy na £15 biliwn o fuddsoddiad a darparu gwaith i filoedd ar filoedd o bobl am flynyddoedd lawer i ddod. Mae hynny'n bwysig am ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y seilwaith sy'n angenrheidiol eisoes wedi’i sefydlu er mwyn i’r prosiectau hynny gael eu cyflenwi mewn pryd ac mewn ffordd sy'n cipio cymaint o gyfleoedd gwaith â phosibl i bobl leol. Rwy’n meddwl mai dyna pam, hefyd, ochr yn ochr â datblygiad y comisiwn, mae'n mynd i fod yn bwysig ein bod yn cael sail dystiolaeth oddi wrth Swyddi Gwell, yn Nes at y Cartref i lywio sut yr ydym yn mynd i fod yn sicrhau bod prosiectau seilwaith mawr o fudd i gymunedau a phobl nad ydynt efallai wedi elwa o brosiectau seilwaith mawr yn y gorffennol.
O ran seilwaith cymdeithasol, rwy’n teimlo bod y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer pennu ble a pha seilwaith cymdeithasol y dylid ei ddarparu yn deg ac yn gweithredu'n briodol, ac yn gweithredu'n gyfrifol. Ond, unwaith eto, yn ystod y broses ymgynghori, byddwn yn agored i unrhyw ddadleuon cryf i'r gwrthwyneb.