6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:47, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Paul Davies am ei sylwadau, a’r gyfres honno o gwestiynau. Rwyf o’r farn ein bod ni yn gweithredu dull cyfannol. Rwy'n credu ei bod hi’n bwysig iawn ein bod ni’n ystyried yr offer sydd ar gael inni. Cofiwch mai ymgynghoriad yw hwn a byddaf yn sicr yn ystyried yr holl ymatebion a fydd yn dod i law cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Rwyf wedi dweud wrth swyddogion fy mod yn awyddus iddo fod yn gyflym iawn, felly bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 10 Ionawr, ac rwy’n dymuno i’r rhaglen newydd fod ar waith yn sicr erbyn dechrau'r flwyddyn ariannol, felly byddwn yn ymateb i'r ymgynghoriad yn y gwanwyn.

Gwnaethoch chi gyfeirio at y prawf croen yr ydym yn ei gynnal, ac er fy mod yn cydnabod mai hwn yw'r unig brawf sy'n cael ei gydnabod gan y ddeddfwriaeth Ewropeaidd berthnasol, cadarnhaodd amcangyfrif diweddar o berfformiad prawf croen cymharol ym Mhrydain Fawr fod ganddo gywirdeb o 99.98 y cant. Felly, dim ond un anifail ym mhob 5,000 sy’n debygol o roi canlyniad positif anghywir. Mae'r prawf wedi’i ddefnyddio ledled y byd mewn rhaglenni dileu TB llwyddiannus iawn.

Gwnaethoch chi gyfeirio at fonitro yng Ngogledd Iwerddon. Yr hyn a ddywedais oedd y bûm yn edrych ar y cynllun peilot dros yr haf. Rwyf hefyd wedi bod yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Awstralia ac yn Seland Newydd. Datganwyd nad oes TB yn Awstralia TB erbyn hyn, a dyna yw fy uchelgais i ar gyfer Cymru. Rwy'n credu mai’r dull rhanbarthol yw’r hyn sy’n bwysig iawn yn hyn o beth, oherwydd, os ydym yn edrych ar yr ardaloedd y’u hystyriwyd gennym yn ardaloedd a chanddynt nifer isel, canolradd ac uchel o achosion, mae hynny wedi bod yn seiliedig ar epidemioleg. Bydd dulliau gweithredu gwahanol ym mhob un. O ystyried y gogledd-orllewin, sy’n ardal TB isel, rwy’n credu o ddifrif, os yw rhai o'r mesurau yr ydym yn ymgynghori arnynt yn cael eu gweithredu wedyn, y gallai honno fod yr ardal heb TB gyntaf yng Nghymru, ac mae gennym ganiatâd i wneud hynny o fewn y ddeddfwriaeth Ewropeaidd—mae caniatâd i aelod wladwriaeth neu ran o aelod wladwriaeth wneud hynny. Felly, os ydym ni’n ystyried y meini prawf ynghylch hynny, gallai’r ardal honno o bosibl fod yr ardal gyntaf, ac rwy’n credu y byddai hynny'n neges gadarnhaol iawn i’w lledaenu.

Felly, y flaenoriaeth ar gyfer-. Gwnaethoch chi ofyn am y gwahanol ddulliau y byddwn yn eu dilyn yn y gwahanol ardaloedd, felly’r flaenoriaeth ar gyfer yr ardal honno yw atal y clefyd rhag cael ei gyflwyno drwy symud gwartheg na wyddys eu bod wedi’u heintio, er mwyn cadw nifer yr achosion yn isel ac wedyn dod yn ardal heb TB. Felly, byddwn yn gwarchod yr ardal honno, ac, oherwydd bod ychydig iawn, os o gwbl, o glefyd endemig yn yr ardal honno, ni fydd angen profion cyn symud ddim mwy er mwyn symud anifeiliaid o'r ardal honno. Byddaf yn parhau i wneud yn siŵr bod buchesi yn cael eu profi’n flynyddol er mwyn sicrhau ein bod yn dal y clefyd cyn gynted â phosibl. Fel y dywedais, ni cheir cymaint â hynny o achosion cydnabyddedig o’r clefyd ymysg bywyd gwyllt yn yr ardal honno.

Mewn cysylltiad â’r ardaloedd TB canolradd, rydym yn rhagweld eto, os bydd y sefyllfa'n gwella o ran clefyd yn y ddwy ardal hynny, mae'n debygol y byddai’r ardal TB isel yn tyfu i gwmpasu’r ardaloedd hynny. Eto, byddwn yn profi buchesau yn flynyddol i sicrhau ein bod yn dal y clefyd cyn gynted â phosibl, ond mae angen i ni warchod yr ardaloedd hynny rhag i’r clefyd gael ei gyflwyno drwy symudiadau gwartheg o'r ardaloedd sydd ag achosion uwch o TB-rwy'n credu bod hynny wirioneddol yn bwysig-ac ymdrin yn well â lefel y clefyd sydd yno eisoes. Mae hefyd yn bwysig ein bod yn atal y clefyd rhag ymsefydlu yn y boblogaeth moch daear yno. Eto, ychydig iawn o dystiolaeth a geir o heintiau TB mewn bywyd gwyllt yno. Dim ond un mochyn daear wedi marw â TB a ganfuwyd yn y ddwy ardal ganolradd.

Mewn cysylltiad â'r ardaloedd TB uchel, rydym yn mynd i gynnal profion ar fuchesi cyfan yn amlach yno, a hynny bob chwe mis er mwyn ceisio dod o hyd i'r haint yn gynharach. Eto, os oes nifer uchel o achosion rheolaidd yn digwydd dro ar ôl tro, mae hynny naill ai’n awgrymu cyfradd ail-heintio uchel neu haint sy'n parhau i fodoli yn y fuches hyd yn oed ar ôl datgan bod ganddi statws heb TB, oherwydd rwy’n credu bod hynny wedi bod yn digwydd hefyd. Ymddengys bod lledaeniad lleol yn ffactor arwyddocaol. Felly, unwaith eto, rydym wedi cynnal ein harolwg o foch daear marw, ac, er bod rhaid i ni fod yn ofalus sut yr ydym yn dehongli’r canlyniadau hynny, mae hynny wedi cadarnhau presenoldeb TB yn y boblogaeth moch daear yn yr ardaloedd hynny.