6. 5. Datganiad: Y Rhaglen i Ddileu TB Buchol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:51, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Fel Simon Thomas a Paul Davies, rwy’n croesawu’r datganiad hwn heddiw. Ceir llawer ynddo y gallwn ni i gyd gytuno ag ef. Rwy'n cymeradwyo Ysgrifennydd y Cabinet yn arbennig am y gwaith mae hi’n ei wneud mewn cysylltiad â bioddiogelwch, ac mae hynny yn ddi-os wedi cael effaith sylweddol ar reoli lledaeniad y clefyd hwn. Nid wyf mor ffyddiog â hi ynghylch graddau ei llwyddiannau yn gyffredinol, hyd yn hyn. Mae'n wir y bu gostyngiad, yn y misoedd diwethaf, yn nifer y buchesi newydd yr effeithir arnynt, ond wedi dweud hynny mae llai o fuchesi i’w heffeithio. Felly, mae'r graddau y mae hyn yn enghraifft o lwyddiant y polisi yn ddadleuol. Yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw y cafodd bron i 10,000 o wartheg eu difa yn ystod y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf. Mae hynny’n gynnydd ar y cynnydd yn y flwyddyn flaenorol ac yn gynnydd ar y flwyddyn cyn hynny, a dim ond amser a ddengys am ba hyd y bydd y duedd hon yn parhau.

Rwy'n siŵr y bydd hi'n cytuno â mi, wrth ystyried y broblem gyfan hon o ran lles anifeiliaid, mae'n rhaid i ni ystyried lles moch daear yn ogystal â gwartheg, ac mae’n sicr yn greulon tuag at foch daear caniatáu i TB aros yn endemig o fewn y boblogaeth bywyd gwyllt. Felly, mae difa moch daear heintiedig yn beth da ar gyfer moch daear yn gyffredinol yn y tymor hir. Yn sicr, mae’n greulon cael polisi aneffeithiol sy'n arwain at haint mewn gwartheg, ac mae hefyd yn greulon caniatáu i foch daear heintio moch daear eraill. Rwy’n credu, yn hyn o beth hefyd, ei bod hi’n bwysig cydnabod, beth bynnag fo rhinweddau brechu, nad yw'n iachâd ar gyfer TB, gan nad yw'n ymdrin mewn gwirionedd â'r broblem mewn mochyn daear heintiedig. Y cyfan y mae’n ei wneud yw ei gwneud hi’n anoddach i’r moch daear hynny fod yn fectorau i eraill.

Nid oeddwn i’n cytuno â'r hyn a ddywedodd hi wrth ateb un o'r cwestiynau cynharach ynglŷn â’r ffaith nad oes dealltwriaeth lawn mewn gwirionedd o sut y mae'r clefyd yn cael ei drosglwyddo o anifail i anifail, fel pe bai rhywfaint o amheuaeth ynghylch y modd y trosglwyddir y clefyd gan fywyd gwyllt. Dywedodd Simon Thomas bod y clefyd hwn yn endemig yn y pridd mewn rhai ardaloedd. Wel, os yw'n endemig yn y pridd, mae hynny dim ond oherwydd carthion ac wrin moch daear ac anifeiliaid gwyllt eraill neu wartheg yr effeithir arnynt. Felly, bydd cael gwared ar y bywyd gwyllt heintiedig yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fodolaeth y clefyd hwn.

Mae'r profiad yn Iwerddon yn arbennig o addysgiadol, yn fy marn i, yn hyn o beth. Mae gostyngiad o 50 y cant a mwy wedi bod mewn TB ers i Iwerddon weithredu rhaglen ddifa. Felly, rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn-a chan ystyried y geiriau yn y datganiad yn arwynebol-fod hyn bellach yn rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i’w ystyried. Mae'r datganiad hwn i'w groesawu yn fawr iawn. Eto, os ydym ni’n ystyried y profiad yn Seland Newydd, mae hwnnw hefyd yn arbennig o addysgiadol, nid o ran moch daear ond o ran yr hyn sy'n cyfateb yn Seland Newydd, sef oposymiaid. Ym 1990 roedd y gyfradd haint yn Seland Newydd saith gwaith y gyfradd yn y DU, erbyn 1997 roedd yn fwy neu lai’n gyfartal, ac, yn 2011, roedd y gyfradd haint yn Seland Newydd 40 gwaith yn llai na’r gyfradd yn y DU, felly mae rheoli oposymiaid wedi mynd law yn llaw â rheoli TB. Felly, rwy’n credu y gallwn groesawu’r llygedyn o obaith a welwn yn y datganiad drwy weithredu’r polisi ar sail ranbarthol. Ac, mewn ardaloedd lle ceir nifer uchel o heintiau, os yw difa efallai am gael ei ddefnyddio fel mecanwaith i leihau cyfraddau heintiau, yna mae hynny i'w groesawu’n fawr iawn.

Clywsom gan Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn gynharach am y problemau yr ydym am fod yn eu hwynebu yn y blynyddoedd sydd i ddod yn ymwneud â dod o hyd i'r arian ar gyfer pob math o bethau yr ydym ni’n dymuno gwario arian arnynt. Mae'r rhaglen frechu wedi bod—rwy'n siwr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno—yn ffordd ddrud iawn o geisio ymdrin â TB. Gwyddom, yn 2015, fod £922,000 wedi’i wario er mwyn brechu 1,118 o foch daear. Mae hynny gyfwerth â £825 am bob mochyn daear ar gyfartaledd. Tybed a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi, nad yw hynny, o ran gwerth am arian, yn arbennig o dda, ac felly nid yn unig y mae difa yn debygol o fod yn ddull effeithiol o reoli’r clefyd, ond hefyd yn ddull sy'n rhoi’r gwerth gorau am arian i ni.