7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:29, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am groesawu'r cynllun pum pwynt. Mae hwn yn gynllun sydd wedi ei ddyfeisio gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol ac o fewn y diwydiant ei hun. Mae'n cynnwys nifer o gamau a fydd yn ategu’r diwydiant yn y tymor byr wrth i ni edrych ar y cyfleoedd yn y tymor hir a gyflwynir drwy drosglwyddo pwerau ym Mil Cymru.

O ran cyllid, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y grant cymorth gwasanaethau bysus ers nifer o flynyddoedd bellach, ac rydym yn falch o fod yn gallu ei gynnal ar £25 miliwn eto'r flwyddyn nesaf. Yr her i lywodraeth leol yw sicrhau nad ydynt yn cwtogi’r adnoddau sydd ar gael yn eu hawdurdodau eu hunain i gefnogi, yn benodol, lwybrau gwledig nad ydynt yn fasnachol hyfyw.

Rydym hefyd yn darparu cyllid cyfalaf sy'n dod i tua £15 miliwn. O ran teithio rhatach, wrth gwrs, rydym yn rhoi cyfle i gannoedd o filoedd o bobl deithio’n ddi-dâl. Heb os nac oni bai, mae angen defnyddio tocynnau integredig—nes y bydd gennym y pwerau a fydd yn dod drwy Fil Cymru— i sbarduno trafnidiaeth integredig. Gwyddom, o brofiadau ar draws Cymru hyd yn hyn, y gall tocynnau integredig fod yn her i lawer o weithredwyr gwasanaethau bysus, ond nid yw'n her anorchfygol. O ran cyfleoedd, yn y dyfodol, ar gyfer tocynnau integredig, ysgrifennodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd at bob awdurdod lleol ynglŷn â chystadleuaeth, cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth mewn marchnadoedd bysus lleol, ac ailbwysleisiodd ei gefnogaeth i gynlluniau tocynnau amlweithredol da.

Mae'r Bil Gwasanaethau Bysus, yr wyf yn credu i’r Aelod ei grybwyll hefyd, yn berthnasol yn bennaf i Loegr yn unig. Ond mae'n cynnwys darpariaeth ddiddorol a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol ofyn i weithredwyr bysus farchnata a hysbysebu tocynnau amlweithredol yn glir ac yn gyson. Fy marn i yw y byddwn yn gweld, gyda thocynnau amlweithredwr yn cael eu cynnig, ddull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau bws. Wedi dweud hynny, mae Bil Cymru yn golygu y bydd rheoleiddio gwasanaethau bysus lleol yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Ynghyd â'n cymhwysedd deddfwriaethol presennol, byddwn yn gallu cyflwyno fframwaith ar gyfer gwasanaethau bysus a fydd yn galluogi rhwydwaith gwasanaeth gwell o lawer, ansawdd gwell, mwy o wasanaethau bysus rheolaidd a mwy o ddibynadwyedd a phrydlondeb. Wedi dweud hynny, hyd nes y bydd y pwerau hynny gyda ni a’n bod yn gallu dylunio’r fframwaith, mae gennym hefyd y safonau gwirfoddol o ran ansawdd bysus, y gellir eu defnyddio yn benodol i herio canfyddiadau.

Rwy’n gwybod bod yr hyn gododd yr Aelod ynghylch safbwyntiau eang ar gludiant bws yn cael eu dal gan lawer, ac maent yn rhwystr i nifer rhag defnyddio gwasanaethau bysus. O safbwynt y safon wirfoddol o ran ansawdd bysus Cymru, mae nifer o bwyntiau sydd angen eu cyflawni yn y safon er mwyn i gwmnïau bysus gymhwyso’n foddhaol. Maent yn cynnwys gweithredu cerbydau sy'n cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, a sicrhau bod gan gerbydau fleindiau cyrchfan gweithredol sydd yn hawdd eu gweld ac yn rhoi gwybod i’r teithwyr am y cyrchfan a’r prif fannau aros ar hyd y daith. Mae angen i fysus fod yn lân y tu mewn a'r tu allan, ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth cyntaf bob dydd. Mae'n rhaid i yrwyr wisgo iwnifform—mae'n ymddangos yn rhywbeth sylfaenol, ond dyma’r math o ddarpariaeth sy'n sicrhau bod pobl mewn gwirionedd yn parchu'r gwasanaeth bws ac yn ei ystyried o ansawdd uchel. Rhaid iddynt hefyd gael polisi o gyhoeddi cwynion gan deithwyr, a bydd disgwyl i gwmnïau bysus mwy o faint weithredu cyhoeddiadau gweledol am yr arosfan bws nesaf gydol y flwyddyn ar fysus mwy newydd.

Rwy’n meddwl bod y darpariaethau o fewn y safonau gwirfoddol hyn yn herio canfyddiadau, ond yn fy marn i mae angen i’r diwydiant wneud mwy gyda'i gilydd, yn benodol, i apelio at deithwyr iau. Cododd yr Aelod y cwestiwn a ellid cynnig tocynnau teithio rhatach i ofalwyr iau. Os yw gofalwr ifanc yn disgyn drwy fwlch y system deithio rhatach ar hyn o bryd, byddwn i'n fwy na pharod i ystyried cynnig cyfleoedd iddynt deithio ar gyfradd ostyngol neu am ddim. Wrth gwrs, byddai angen sicrhau bod y system yn gweithredu'n deg, yn rhannol oherwydd yr achosion cyfreithiol yn ymwneud â thwyll yn y gogledd sydd wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y teithiau ar y rhwydwaith bysus. Ond ni fyddwn yn amharod i ystyried unrhyw gyfleoedd y mae angen eu cyflwyno i ofalwyr allu cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, addysg, neu yn wir iddynt deithio yn ôl ac ymlaen rhwng y mannau gofal.