Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 18 Hydref 2016.
Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma er mwyn trafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Hoffwn innau ddiolch i’r comisiynydd â’i thîm am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.
Adroddiad sy’n edrych yn ôl ydyw hwn, a, phwysiced ydy hynny, roeddem ni’n awyddus i symud y drafodaeth ymlaen. Felly, dyna pam ddaru Plaid Cymru gyhoeddi nifer o welliannau ar gyfer y ddadl yma, yn seiliedig yn benodol ar yr angen i’r Llywodraeth weithredu ym maes polisi cynllunio’r gweithlu. Rwy’n falch iawn eich bod chi yn fodlon derbyn y gwelliannau hynny. Mae’n arwydd clir o’ch ymroddiad chi yn y maes yma. Er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, yn ogystal â nifer y siaradwyr, mae’n ofynnol i weithredu nifer o elfennau gwahanol, ac mi fydd addysg yn elfen greiddiol, os ydy’r Llywodraeth am gyflawni ei darged o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r diffyg cynnydd ym maes addysg cyfrwng Cymraeg yn fater o bryder cynyddol, ac yn fater y bydd rhaid ei ystyried pan fydd y Llywodraeth yn gosod targedau penodol er mwyn cyflawni’r strategaeth.
Mae’r gwelliannau rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw yn ymwneud â chynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau fod y ddarpariaeth ar gael i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys addysg. Yn amlwg, mi fydd yn rhaid cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar fel man cychwyn i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Ac mae yna nifer o gyfleon yn codi yn fuan iawn i wneud hynny—er enghraifft, ymestyn gofal plant am ddim i 30 awr, mae hynny’n cynnig cyfle, a diwygio hyfforddiant athrawon a diwygiadau Donaldson. Mae’r rheini i gyd yn cynnig cyfle i’r Gymraeg. Materion eraill y medrwn ni sbïo arnyn nhw ydy cymhelliant ariannol a hefyd ymestyn y cynllun sabothol i athrawon.
Mae’r adroddiad arall yr oeddech wedi sôn amdano fo, ‘Amser gosod y safon’, gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn un pwysig hefyd, ac mae’r comisiynydd yn hwnnw yn dweud bod angen i sefydliadau newid gêr a darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da a fydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gynyddu eu defnydd o’r iaith yn eu bywydau pob dydd. Mae’r comisiynydd yn credu bod nifer o sefydliadau wedi cyrraedd rhyw fath o fan fflat o ran twf o ran gwasanaethau, tra bod eraill wedi cymryd camau sylweddol yn ôl o ran darparu gwasanaethau Cymraeg yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn wir, mae’r adroddiad rydym ni’n ei drafod heddiw yn nodi bod hyd yn oed y Llywodraeth wedi methu â gweithredu rhai elfennau o’i pholisi iaith ei hun. Ym mis Mai y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad statudol i weithrediad cynllun iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd yr ymchwiliad ar sail amheuon y comisiynydd ynghylch gofynion ieithyddol wrth recriwtio Comisiynydd Plant Cymru newydd, a’r ystyriaeth a roddwyd i gynllun iaith Gymraeg y Llywodraeth wrth ddiwygio’r fanyleb swydd wreiddiol. Fe ddaeth y comisiynydd i’r casgliad bod y Llywodraeth wedi methu â gweithredu dau gymal o’i chynllun iaith yn rhan o’r ymarferiad recriwtio, ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi, os ydy’r arweiniad i ddod o’r Llywodraeth, fod yn rhaid i bethau felly beidio â digwydd.
Rydym ni wedi trafod adroddiad y gweithgor ar yr iaith Gymraeg a llywodraeth leol, sef ‘Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog’ yn y Cynulliad yn barod, ac mae adrannau o’r adroddiad yma’n trafod yn benodol yr angen i’r Llywodraeth sicrhau bod dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny. Fel yr oeddech chi’n sôn, rydym ni’n dal i ddisgwyl canlyniad yr ymgynghoriad ar argymhellion y gweithgor yma, ond rwy’n falch eich bod chi wedi dweud heddiw bod hynny ar ei ffordd. Rhai pwyntiau y buasai Plaid Cymru yn hoffi gweld y Llywodraeth yn gweithredu arnyn nhw ydy’r rhain: mae angen darparu gwersi Cymraeg i staff drwy gynlluniau fel Cymraeg yn y gweithle; mae’n rhaid cynnwys gofynion ieithyddol mewn polisi recriwtio; mae angen cynnal awdit er mwyn gweld beth ydy’r bwlch sgiliau ieithyddol, yn arbennig mewn swyddi rheng-flaen; ac mae angen cynllunio gweithlu pwrpasol. Os ydy hawliau siaradwyr Cymraeg sydd wedi eu sefydlu drwy’r safonau am wreiddio, mae’n rhaid cynllunio gweithlu fydd yn gallu darparu’r gwasanaethau hynny yn gyflawn.
Felly, adroddiad i ddiolch amdano fo ydy hwn, ond mae’n adroddiad sydd yn tanlinellu’r problemau. Mae’r problemau’n hysbys ers tro, ac mae angen i’r Llywodraeth weithredu rŵan. Mae’r wybodaeth, y polisïau, a’r arbenigedd ar gael er mwyn sicrhau llwyddiant yn y maes yma, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos yr awydd a’r arweiniad gwleidyddol i’w roi ar waith, ac rwy’n gwybod eich bod chi, fel y Gweinidog, yn ddiffuant yn eich ymroddiad tuag at y Gymraeg. Mae’r cynnydd bychan mewn arian i gynlluniau i gefnogi’r Gymraeg sydd wedi cael ei sicrhau gan Blaid Cymru yn y gyllideb yn gam i’r cyfeiriad iawn, ond yng ngeiriau Comisiynydd y Gymraeg—rwy’n mynd yn ôl at beth y dywedodd hi—rhaid newid gêr, a, buaswn i’n ychwanegu, a hynny ar frys. Felly, gobeithio y bydd pawb yn gallu cefnogi’r gwelliannau hyn er mwyn inni ganolbwyntio ar weithredu. Diolch.