8. 7. Adroddiad Blynyddol 2015-16 Comisiynydd y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:10, 18 Hydref 2016

A gaf i ddechrau gan ategu’r diolch mae’r Gweinidog a Sian Gwenllian wedi ymestyn i’r Comisiynydd am ei gwaith yn paratoi’r adroddiad yma? Rwy’n croesawu’r adroddiad ac yn croesawu’r cyfle i drafod yr adroddiad a chroesawu’r gwelliannau sydd wedi dod wrth Blaid Cymru hefyd.

Mae’r adroddiad wedi’i lunio o safbwynt y defnyddiwr, hynny yw, y person sy’n gofyn am y gwasanaeth, a dyna un o gryfderau’r adroddiad yn fy marn i—ei fod yn gweld gwasanaethau Cymraeg a’r ddarpariaeth Gymraeg o safbwynt y defnyddiwr y tu fas i’r sefydliad.

Fe wnes i ofyn i’r comisiynydd, pan ddaeth hi i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor yr wythnos diwethaf, a oedd hi wedi’i synnu gan unrhyw un o’r casgliadau neu’r canfyddiadau yn yr adroddiad, ac fe wnaeth hi ddweud nad oedd wedi synnu. Ond, o ddarllen yr adroddiad, mae’n amlwg bod gennym siwrnai bell i fynd i gyrraedd y man y byddem ni i gyd yn moyn bod ynddo. Er enghraifft, dim ond yn 21 y cant o dderbynfeydd oedd modd defnyddio’r Gymraeg; 37 y cant a oedd yn cael cynnig gwasanaeth heb ofyn ar y ffôn; o edrych ar wefannau, 19 y cant o wefannau a oedd yn hyrwyddo’r dewis iaith, yn Gymraeg neu yn Saesneg. Fe wnaeth hi ddenu sylw at wefannau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn benodol, gan sôn, ers iddyn nhw ddod o dan un wefan, sef gov.uk, fod safon y ddarpariaeth Gymraeg wedi dirywio’n sylweddol. Fe wnaeth hi ddweud nad rhyw arafu rŷm ni wedi ei weld, ond carlamu nôl o ran y darpariaeth sy’n deillio o San Steffan. Felly, mae angen inni edrych ar hynny yng nghyd-destun Bil Cymru, a byddwn i’n gofyn i’r Gweinidog hefyd i gysidro edrych ar y broblem yma a chyfathrebu gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, os ydy hynny’n addas i’w wneud, er mwyn symud y drafodaeth ymlaen a gweld beth allwn ni ei wneud yn sgil y Bil.

Beth sy’n bwysig ar sail yr adroddiad yma, rwy’n credu, yw beth sy’n digwydd nesaf, ac fe wnaethom ni drafod yn y pwyllgor hefyd y camau penodol sydd ar y gweill er mwyn deall y dadansoddiad a chymryd camau adeiladol ar ei sail e. Rwy’n deall bod gweithdai cyffredinol ar y gweill i drafod y canfyddiadau gyda’r sefydliadau sydd wedi bod yn destun i’r adroddiad a sefydliadau ehangach, ynghyd â darparu adborth penodol a llyfrgell o adnoddau er mwyn cefnogi sefydliadau a chyrff i wella’r ddarpariaeth. Ond byddwn i hefyd yn hoffi gweld gweithio law yn llaw gyda’r sefydliadau. Rwy’n credu bod angen chwyldro o fewn y sefydliadau yma i newid y diwylliant fel bod y sefydliadau a chyrff yn deall y pam a deall y sut , er mwyn inni allu symud ymlaen. Felly, byddwn i’n hoffi gweld golwg greadigol ar ffyrdd o gefnogi’r sefydliadau yma i wneud hynny, ynghyd â rheoleiddio.

Ond os oes angen cam mawr ymlaen o ran y diwylliant mewn rhai o’r cyrff yma, mae angen cam mawr ymlaen hefyd yn nhermau cynyddu’r galw am y gwasanaethau rŷm ni’n eu trafod heddiw. I ategu geiriau Sian Gwenllian yn sôn am ba mor bwysig yw’r gweithlu addysg, mae’n hanfodol i allu delifro’r amcanion yn strategaeth y Gymraeg, a hanfodol hefyd yw cynllunio’r gweithlu yn y maes yna’n benodol. Dyna pam mae’r strategaeth Gymraeg yn hollbwysig. Trwy gynyddu nifer y siaradwyr, rŷm ni’n mynd i gynyddu’r galw, a hynny sy’n sicrhau, yn fy marn i, trawsnewid yn y math o wasanaethau rŷm ni’n eu trafod heddiw.