– Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
Symudwn ymlaen yn awr at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig—Alun Davies.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael arwain y drafodaeth yma y prynhawn yma ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Rwyf eisiau dechrau, wrth gwrs, drwy ddweud gair o ddiolch wrth Meri a’i thîm, sydd wedi gweithio yn galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf yn arwain y gwaith. Yn aml iawn, mae rôl y comisiynydd yn rôl ddigon diddiolch, ac rwy’n awyddus iawn bod Aelodau’r prynhawn yma yn cael y cyfle i drafod gwaith y comisiynydd, ond hefyd i ddiolch i’r comisiynydd am y ffordd y mae wedi cyflwyno ei chyfrifoldebau.
Rydym ni’n ymwybodol, amser hwn y flwyddyn nesaf, fydd gennym ni strategaeth newydd tuag at 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd hynny yn galw am becyn uchelgeisiol o bolisïau a deddfwriaeth, a bydd y comisiynydd, wrth gwrs, yn rhan bwysig o beth bynnag a ddaw dros y misoedd a blynyddoedd nesaf.
Rydw i’n awyddus iawn ein bod ni’n ystyried adroddiad y comisiynydd mewn ffordd eang iawn ac yn edrych ar sut mae wedi cyflwyno’r gwaith. Yn amlwg, mae’r comisiynydd yn ffigwr adnabyddus i ni fan hyn, sy’n dod i bwyllgorau’r Cynulliad, sy’n rhan o drafodaethau ar y Gymraeg. Mae hefyd wedi ymateb i gwynion gan y cyhoedd er mwyn sicrhau bod unigolion yn gallu mynnu cyfiawnder yn eu defnydd o’r Gymraeg. Mae’r holl waith y mae’n ei wneud ar draws Cymru yn hollbwysig ar ran pob un ohonom ni sy’n defnyddio ac yn siarad y Gymraeg.
Ar ben hynny, mae’r comisiynydd wedi cyhoeddi adroddiad ei phum mlynedd gyntaf, sydd, ymhlith pethau eraill, yn adrodd ar ganlyniadau’r Cyfrifiad o safbwynt y Gymraeg. Mi fyddwn ni’n ystyried yr adroddiad wrth i ni lunio’r strategaeth newydd. O ddiddordeb hefyd yw’r adroddiad ‘Amser gosod y safon’, sy’n bortread o brofiadau pobl wrth geisio defnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus. Yn aml iawn, mae’r portread rydym ni’n ei weld yn rhywbeth mae lot fawr ohonom ni yn ei adnabod o’n profiad personol a phrofiad ein teuluoedd ni. Rydw i’n diolch i’r comisiynydd am y gwaith y mae wedi ei wneud yn creu darlun o ddarpariaeth anghyson ar draws y sector cyhoeddus, ac yn dangos pam fod angen y safonau arnom ni.
O ran y safonau, fel efallai dylem ni wedi’i ddisgwyl pan fo trefn newydd a heriol yn cael ei sefydlu, rydym ni’n gwybod bod yr adborth wedi bod yn gymysg hyd yn hyn. Serch hynny, yn ogystal â’r hawliau y mae’r safonau yn eu rhoi i ni fel defnyddwyr, mae pethau fel safonau llunio polisi yn dechrau dangos eu potensial. Mae’r ethos o gynllunio gweithlu er mwyn y dyfodol a sicrhau ein bod ni’n gallu ateb y galw am y Gymraeg, a gwasanaethau Cymraeg, wedi dechrau digwydd.
Rydw i’n credu bod angen rhagor o drafod gyda’r comisiynydd ar ambell i beth. Er enghraifft, mae sefydliadau sy’n dweud bod angen deall y safonau yn well, a bod angen cefnogaeth arnyn nhw wrth fynd i’r afael â rhai gofynion. Dyddiau cynnar ydy’r rheini, ond mae’n bwysig ein bod ni’n gweld y broses o greu safonau a chreu gwasanaethau yn y Gymraeg fel rhywbeth rydym ni’n gweithio gyda’n gilydd arni.
Rydym ni wedi cyflwyno pedwar set o reoliadau i wneud safonau yn gymwys i gyrff gwahanol. Mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a pharciau cenedlaethol eisoes yn cydymffurfio â safonau, ac mae’r comisiynydd wedi cyflwyno hysbysiadau i dros 50 arall o gyrff. Rydym ni newydd orffen ymgynghori ar reoliadau drafft i’r sector iechyd. Mi fyddaf i’n ystyried yr ymatebion yr ydym wedi eu gweld cyn gosod rheoliadau cyn y Cynulliad yn gynnar yn y flwyddyn nesaf. Fy mwriad i yw cyflwyno datganiad ysgrifenedig i Aelodau yn ystod yr wythnosau nesaf yn cynnig amserlen i chi ar gyfer cyflwyno rheoliadau pellach. Rydw i mawr yn gobeithio y gallem ni gael cytundeb ar sut yr ydym ni yn symud ymlaen o le rydym ni heddiw.
Mae Aelodau hefyd yn ymwybodol, yn ystod y cyfnod sydd i ddod, mi fyddem ni hefyd yn edrych eto ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 er mwyn gwella’r ddeddfwriaeth sydd gyda ni. Mae’n rhy gynnar eto i nodi manylion beth fydd hynny yn ei olygu: a ydym ni’n mynd i ddiwygio’r Mesur presennol neu greu Bil iaith newydd? Un peth sy’n sicr yw bod yr her o greu 1 miliwn o siaradwyr a 1 miliwn o ddefnyddwyr y Gymraeg yn galw am newid sylweddol, ac mae hynny’n wir ym mhob un maes polisi sy’n gysylltiedig â’r Gymraeg. Mae meddwl am gynllunio yn rhan mor bwysig o’r strategaeth ddrafft, oherwydd drwy gynllunio yr ydym ni’n cael sicrhau bod y sylfaeni yn eu lle. Felly, rydw i eisiau strategaeth ar gyfer y Gymraeg i ddod yn gyntaf, ac, ar sail y strategaeth, mi fyddem ni’n dod at drafod deddfu a pha fath o ddeddfwriaeth y bydd ei hangen arnom ni.
Ar hyn o bryd, rydym ni’n dechrau dod i ben â’r broses o ymgynghori ar y strategaeth a lansiom ni yn yr Eisteddfod. Rwy’n ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi bod yn rhan o’r broses o drafod ac sydd wedi ymateb i’r drafodaeth ac i’r ymgynghoriad. Rydym ni wedi gosod targed gydag uchelgais oherwydd rydym ni eisiau newid y ffordd rydym ni’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg. Rwy’n gobeithio y bydd pob un Aelod ym mhob un rhan o’r Siambr yn rhannu’r weledigaeth sydd gennym ni ac yn teimlo fel ein bod ni i gyd yn gallu cyfrannu at y weledigaeth mewn ffordd wahanol. Ond, rwy’n mawr obeithio y bydd y strategaeth, pan gaiff ei chyhoeddi yn y gwanwyn, yn un a fydd yn cael cefnogaeth ym mhob un rhan o’r Siambr yma.
Cyn i mi gau, a chyn i mi ddod â fy sylwadau cychwynnol i ben, Ddirprwy Lywydd, fe wnaf i edrych ar y gwelliannau sydd wedi cael eu gosod yn enw Rhun ap Iorwerth. Fe wnaf i ddweud ar y dechrau fy mod i a’r Llywodraeth yn bwriadu derbyn pob un o’r gwelliannau. Yn amlwg, rydym ni’n hapus iawn i dderbyn y gwelliant cyntaf ynglŷn â phwysigrwydd cynllunio’r gweithlu er mwyn darparu gwasanaethau Cymraeg. Mae cynllunio, a chynllunio’r gweithlu yn arbennig, yn rhan gwbl ganolog o’r strategaeth ddrafft ac yn rhan gwbl ganolog o’r gwaith rydym ni wedi bod yn ei arwain yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf. Mae’n wir ym maes gofal plant, mae’n wir ym maes addysg, mae’n wir am gyrff sy’n darparu gwasanaethau ac mae’n wir am fusnesau.
Dyna pam hefyd rwyf i’n fodlon derbyn yr ail welliant, sy’n ymwneud â gweithio gyda’r comisiynydd i gyflwyno strategaeth Cymraeg yn y gweithle. Mae’n bwysig cofio bod sawl corff a ariennir gan y Llywodraeth eisoes yn gweithio yn y maes, gan gynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sydd wedi nodi yn ei chynllun strategol y bydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r comisiynydd i ddatblygu strategaeth Cymraeg yn y gweithle. Ond, mae’r gwelliant hwn hefyd yn sôn am hyrwyddo hawliau pobl i dderbyn gwasanaethau Cymraeg. Mae hynny hefyd eisoes yn swyddogaeth i Gomisiynydd y Gymraeg, ond rwy’n hapus iawn i dderbyn y gwelliant.
Wrth droi at welliant 3, bydd ymateb swyddogol y Llywodraeth i adroddiad gweithgor y Gymraeg a llywodraeth leol yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Nid wyf eisiau dechrau breuddwydio na dechrau rhagweld beth fydd yn yr ymateb a fydd yn cael ei gyhoeddi. Ond, mae hi hefyd yn deg i ddweud bod y safonau sydd ar awdurdodau lleol eisoes yn rhoi dyletswydd statudol arnyn nhw i gynllunio’r gweithlu o safbwynt ieithyddol ac i ddarparu hyfforddiant addas ar hynny o beth.
Rwyf i wedi bod yn glir nad wyf i eisiau gwneud unrhyw ymrwymiadau penodol o safbwynt deddfwriaethol ar hyn o bryd, oherwydd rwyf eisiau i’r strategaeth derfynol liwio’r gwaith o ddatblygu hynny. Ond, rwy’n fodlon derbyn y gwelliant am ei fod yn rhan o’r pecyn ehangach o’r pethau a fydd angen eu hystyried er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu camu ymlaen o ddifri ar ran y Gymraeg yn y gweithle. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau’n derbyn ein bod ni’n derbyn y gwelliant ond hefyd yn gwneud hynny gan gydnabod y bydd rhaid trafod sut yn union rydym ni’n symud ymlaen yn y dyfodol.
Ddirprwy Lywydd, rwy’n credu bod yr adroddiad yn un da ac yn adroddiad sy’n un pwysig. Rwy’n gobeithio y bydd Aelodau â sylwadau i’w gwneud ar yr adroddiad, ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd Aelodau’n ymuno â minnau yn diolch i’r comisiynydd â’i thîm am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Sian.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.
Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl yma er mwyn trafod adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Hoffwn innau ddiolch i’r comisiynydd â’i thîm am eu gwaith yn ystod y flwyddyn.
Adroddiad sy’n edrych yn ôl ydyw hwn, a, phwysiced ydy hynny, roeddem ni’n awyddus i symud y drafodaeth ymlaen. Felly, dyna pam ddaru Plaid Cymru gyhoeddi nifer o welliannau ar gyfer y ddadl yma, yn seiliedig yn benodol ar yr angen i’r Llywodraeth weithredu ym maes polisi cynllunio’r gweithlu. Rwy’n falch iawn eich bod chi yn fodlon derbyn y gwelliannau hynny. Mae’n arwydd clir o’ch ymroddiad chi yn y maes yma. Er mwyn cynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, yn ogystal â nifer y siaradwyr, mae’n ofynnol i weithredu nifer o elfennau gwahanol, ac mi fydd addysg yn elfen greiddiol, os ydy’r Llywodraeth am gyflawni ei darged o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’r diffyg cynnydd ym maes addysg cyfrwng Cymraeg yn fater o bryder cynyddol, ac yn fater y bydd rhaid ei ystyried pan fydd y Llywodraeth yn gosod targedau penodol er mwyn cyflawni’r strategaeth.
Mae’r gwelliannau rydym ni wedi eu cyflwyno heddiw yn ymwneud â chynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau fod y ddarpariaeth ar gael i gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys addysg. Yn amlwg, mi fydd yn rhaid cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar fel man cychwyn i gyrraedd miliwn o siaradwyr. Ac mae yna nifer o gyfleon yn codi yn fuan iawn i wneud hynny—er enghraifft, ymestyn gofal plant am ddim i 30 awr, mae hynny’n cynnig cyfle, a diwygio hyfforddiant athrawon a diwygiadau Donaldson. Mae’r rheini i gyd yn cynnig cyfle i’r Gymraeg. Materion eraill y medrwn ni sbïo arnyn nhw ydy cymhelliant ariannol a hefyd ymestyn y cynllun sabothol i athrawon.
Mae’r adroddiad arall yr oeddech wedi sôn amdano fo, ‘Amser gosod y safon’, gan Gomisiynydd y Gymraeg, yn un pwysig hefyd, ac mae’r comisiynydd yn hwnnw yn dweud bod angen i sefydliadau newid gêr a darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da a fydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg i gynyddu eu defnydd o’r iaith yn eu bywydau pob dydd. Mae’r comisiynydd yn credu bod nifer o sefydliadau wedi cyrraedd rhyw fath o fan fflat o ran twf o ran gwasanaethau, tra bod eraill wedi cymryd camau sylweddol yn ôl o ran darparu gwasanaethau Cymraeg yn y blynyddoedd diwethaf.
Yn wir, mae’r adroddiad rydym ni’n ei drafod heddiw yn nodi bod hyd yn oed y Llywodraeth wedi methu â gweithredu rhai elfennau o’i pholisi iaith ei hun. Ym mis Mai y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddwyd adroddiad ymchwiliad statudol i weithrediad cynllun iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd yr ymchwiliad ar sail amheuon y comisiynydd ynghylch gofynion ieithyddol wrth recriwtio Comisiynydd Plant Cymru newydd, a’r ystyriaeth a roddwyd i gynllun iaith Gymraeg y Llywodraeth wrth ddiwygio’r fanyleb swydd wreiddiol. Fe ddaeth y comisiynydd i’r casgliad bod y Llywodraeth wedi methu â gweithredu dau gymal o’i chynllun iaith yn rhan o’r ymarferiad recriwtio, ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi, os ydy’r arweiniad i ddod o’r Llywodraeth, fod yn rhaid i bethau felly beidio â digwydd.
Rydym ni wedi trafod adroddiad y gweithgor ar yr iaith Gymraeg a llywodraeth leol, sef ‘Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog’ yn y Cynulliad yn barod, ac mae adrannau o’r adroddiad yma’n trafod yn benodol yr angen i’r Llywodraeth sicrhau bod dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny. Fel yr oeddech chi’n sôn, rydym ni’n dal i ddisgwyl canlyniad yr ymgynghoriad ar argymhellion y gweithgor yma, ond rwy’n falch eich bod chi wedi dweud heddiw bod hynny ar ei ffordd. Rhai pwyntiau y buasai Plaid Cymru yn hoffi gweld y Llywodraeth yn gweithredu arnyn nhw ydy’r rhain: mae angen darparu gwersi Cymraeg i staff drwy gynlluniau fel Cymraeg yn y gweithle; mae’n rhaid cynnwys gofynion ieithyddol mewn polisi recriwtio; mae angen cynnal awdit er mwyn gweld beth ydy’r bwlch sgiliau ieithyddol, yn arbennig mewn swyddi rheng-flaen; ac mae angen cynllunio gweithlu pwrpasol. Os ydy hawliau siaradwyr Cymraeg sydd wedi eu sefydlu drwy’r safonau am wreiddio, mae’n rhaid cynllunio gweithlu fydd yn gallu darparu’r gwasanaethau hynny yn gyflawn.
Felly, adroddiad i ddiolch amdano fo ydy hwn, ond mae’n adroddiad sydd yn tanlinellu’r problemau. Mae’r problemau’n hysbys ers tro, ac mae angen i’r Llywodraeth weithredu rŵan. Mae’r wybodaeth, y polisïau, a’r arbenigedd ar gael er mwyn sicrhau llwyddiant yn y maes yma, ac mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddangos yr awydd a’r arweiniad gwleidyddol i’w roi ar waith, ac rwy’n gwybod eich bod chi, fel y Gweinidog, yn ddiffuant yn eich ymroddiad tuag at y Gymraeg. Mae’r cynnydd bychan mewn arian i gynlluniau i gefnogi’r Gymraeg sydd wedi cael ei sicrhau gan Blaid Cymru yn y gyllideb yn gam i’r cyfeiriad iawn, ond yng ngeiriau Comisiynydd y Gymraeg—rwy’n mynd yn ôl at beth y dywedodd hi—rhaid newid gêr, a, buaswn i’n ychwanegu, a hynny ar frys. Felly, gobeithio y bydd pawb yn gallu cefnogi’r gwelliannau hyn er mwyn inni ganolbwyntio ar weithredu. Diolch.
A gaf i ddechrau gan ategu’r diolch mae’r Gweinidog a Sian Gwenllian wedi ymestyn i’r Comisiynydd am ei gwaith yn paratoi’r adroddiad yma? Rwy’n croesawu’r adroddiad ac yn croesawu’r cyfle i drafod yr adroddiad a chroesawu’r gwelliannau sydd wedi dod wrth Blaid Cymru hefyd.
Mae’r adroddiad wedi’i lunio o safbwynt y defnyddiwr, hynny yw, y person sy’n gofyn am y gwasanaeth, a dyna un o gryfderau’r adroddiad yn fy marn i—ei fod yn gweld gwasanaethau Cymraeg a’r ddarpariaeth Gymraeg o safbwynt y defnyddiwr y tu fas i’r sefydliad.
Fe wnes i ofyn i’r comisiynydd, pan ddaeth hi i roi tystiolaeth o flaen y pwyllgor yr wythnos diwethaf, a oedd hi wedi’i synnu gan unrhyw un o’r casgliadau neu’r canfyddiadau yn yr adroddiad, ac fe wnaeth hi ddweud nad oedd wedi synnu. Ond, o ddarllen yr adroddiad, mae’n amlwg bod gennym siwrnai bell i fynd i gyrraedd y man y byddem ni i gyd yn moyn bod ynddo. Er enghraifft, dim ond yn 21 y cant o dderbynfeydd oedd modd defnyddio’r Gymraeg; 37 y cant a oedd yn cael cynnig gwasanaeth heb ofyn ar y ffôn; o edrych ar wefannau, 19 y cant o wefannau a oedd yn hyrwyddo’r dewis iaith, yn Gymraeg neu yn Saesneg. Fe wnaeth hi ddenu sylw at wefannau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn benodol, gan sôn, ers iddyn nhw ddod o dan un wefan, sef gov.uk, fod safon y ddarpariaeth Gymraeg wedi dirywio’n sylweddol. Fe wnaeth hi ddweud nad rhyw arafu rŷm ni wedi ei weld, ond carlamu nôl o ran y darpariaeth sy’n deillio o San Steffan. Felly, mae angen inni edrych ar hynny yng nghyd-destun Bil Cymru, a byddwn i’n gofyn i’r Gweinidog hefyd i gysidro edrych ar y broblem yma a chyfathrebu gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, os ydy hynny’n addas i’w wneud, er mwyn symud y drafodaeth ymlaen a gweld beth allwn ni ei wneud yn sgil y Bil.
Beth sy’n bwysig ar sail yr adroddiad yma, rwy’n credu, yw beth sy’n digwydd nesaf, ac fe wnaethom ni drafod yn y pwyllgor hefyd y camau penodol sydd ar y gweill er mwyn deall y dadansoddiad a chymryd camau adeiladol ar ei sail e. Rwy’n deall bod gweithdai cyffredinol ar y gweill i drafod y canfyddiadau gyda’r sefydliadau sydd wedi bod yn destun i’r adroddiad a sefydliadau ehangach, ynghyd â darparu adborth penodol a llyfrgell o adnoddau er mwyn cefnogi sefydliadau a chyrff i wella’r ddarpariaeth. Ond byddwn i hefyd yn hoffi gweld gweithio law yn llaw gyda’r sefydliadau. Rwy’n credu bod angen chwyldro o fewn y sefydliadau yma i newid y diwylliant fel bod y sefydliadau a chyrff yn deall y pam a deall y sut , er mwyn inni allu symud ymlaen. Felly, byddwn i’n hoffi gweld golwg greadigol ar ffyrdd o gefnogi’r sefydliadau yma i wneud hynny, ynghyd â rheoleiddio.
Ond os oes angen cam mawr ymlaen o ran y diwylliant mewn rhai o’r cyrff yma, mae angen cam mawr ymlaen hefyd yn nhermau cynyddu’r galw am y gwasanaethau rŷm ni’n eu trafod heddiw. I ategu geiriau Sian Gwenllian yn sôn am ba mor bwysig yw’r gweithlu addysg, mae’n hanfodol i allu delifro’r amcanion yn strategaeth y Gymraeg, a hanfodol hefyd yw cynllunio’r gweithlu yn y maes yna’n benodol. Dyna pam mae’r strategaeth Gymraeg yn hollbwysig. Trwy gynyddu nifer y siaradwyr, rŷm ni’n mynd i gynyddu’r galw, a hynny sy’n sicrhau, yn fy marn i, trawsnewid yn y math o wasanaethau rŷm ni’n eu trafod heddiw.
Hoffwn ddweud diolch hefyd i’r comisiynydd am ei hadroddiad, a dechrau drwy ei llongyfarch am gadw o fewn ei chyllideb, yn arbed arian ar bron bob llinell ynddi. Roedd setliad ei swyddfa y llynedd yn arbennig o anodd ac mae wedi bod rhywbeth yn debyg eto eleni. Rwy’n edrych ymlaen at y manylion yn y gyllideb ddrafft.
Rydym yn croesawu effeithlonrwydd, wrth gwrs, ond mae’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi gorfod ffeindio £150,000 ychwanegol yn benodol i orfodi safonau, sef un o swyddogaethau craidd swyddfa'r comisiwn, yn awgrymu nad oes lot o waed ar ôl yn y garreg. Rydych chi’n iawn, Weinidog, i chwilio am arbedion, wrth gwrs, ond tybed a ydym ni wedi cyrraedd y pwynt lle bydd toriadau sylweddol pellach yn croesi'r llinell a chyfyngu ar waith y comisiynydd i bwynt lle y mae’n lleihau ei werth i lefel annerbyniol.
Wedi dweud hynny, wrth gwrs, cafodd y comisiynydd wybod ym mis Chwefror fod yr arian ychwanegol hwn ar y ffordd. Fe allai wedi bod yn ddefnyddiol—rwy’n cytuno â Jeremy Miles yma—yn yr adroddiad hwn, i roi syniad am sut y mae’r arian yn cael ei wario, fel, y flwyddyn nesaf, y gallwn ni edrych ar ei hadroddiad eleni i ddilyn sut y mae’r bwriadau’n datblygu.
Rwy’n siŵr y bydd y galw ar y comisiynydd yn tyfu. Gyda phob set o safonau, mae'n edrych fel y byddwn yn wynebu set newydd o apeliadau. Gyda phroses symlach, hyd yn oed, a nifer yr apeliadau yn gostwng wrth i ni symud ymlaen, bydd costau gorfodi yn parhau i fod yn her ar gyfer cyllidebau eleni a thu hwnt. Bydd targed tymor hir y Llywodraeth ar gyfer miliwn o siaradwyr yn gofyn am olwg tymor hir hefyd ar gyfer swyddfa'r comisiynydd.
Y llynedd, roeddwn yn gofyn lle’r oedd yr ail rownd o safonau. Y flwyddyn gynt, fe wnes i ofyn lle’r oedd y rownd gyntaf o safonau. Nid wyf yn gwybod beth yw ‘groundhog’ yn Gymraeg, ond nid oes syndod beth rwy’n gofyn eleni. Er fy mod i'n siŵr y byddwch chi’n dweud eich bod chi wedi canolbwyntio ar ddod â safonau wedi’u diwygio yn ôl, rydych chi wedi cael yr adroddiad ar ymchwiliad rownd tri o’r safonau ers mis Gorffennaf. Fe fyddai’n werth cael rhyw ddatganiad yn fuan ynglŷn â’r amserlen, rwy’n credu.
Ond, gall edrych yn ôl fod yn beth da weithiau, ac fe fyddai wedi bod yn ddiddorol i weld yn yr adroddiad hwn rhyw adlewyrchiad ar faterion a godwyd y llynedd a'r cynnydd yn y cyfamser. Mae’r Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ymddangos yn y ddau adroddiad, yn y bôn, am yr un cyfnod o ddylanwad. Ond, ni allaf weld dim byd newydd ar y cwestiwn dadleuol o addysg ôl-16. Mewn gwirionedd, ni allaf weld llawer o fanylion ar addysg o gwbl, o ystyried bod adolygiad Diamond yn bwnc mawr y llynedd. Dyna pam rŷm ni’n fodlon cefnogi’r gwelliannau i’r ddadl heddiw. Efallai y byddwn yn gweld mwy am hynny yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.
Unwaith eto, rwy’n cynnig diolch i'r comisiynydd am gwrdd â llefarwyr yn aml, ein cadw ni’n gyfredol a rhannu pryderon—proses ddwy ffordd, gyda llaw. Gall dylanwadu ar bolisi gael ei wneud mewn nifer o ffyrdd, wedi'r cyfan, ac mae siarad â phob plaid yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei hun ei ystyried, cyn cytuno ei chyllideb ddrafft. Mae'n debyg, er nad oes rhaid iddi fod, fod y comisiynydd yn fwy agored gyda’r Cynulliad na’r Llywodraeth.
Rydych chi, Weinidog, i fod yn deg, yn barod i drafod eich blaenoriaethau ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rwy’n gwerthfawrogi hynny. Mae'n debyg ein bod ni’n cytuno mai defnydd beunyddiol o'r iaith yw’r prif nod i ni fel cenedl. Mae ein prosiect ar gyfer y stryd fawr, Tipyn Bach, yn cyfrannu at yr un agenda. Mae'r iaith, mewn gwirionedd, yn byw y tu fas i glwydi'r ysgol, ond bydd yr holl uchelgais dros ddyfodol y Gymraeg mewn addysg yn cyfrif am ychydig oni bai bod y rhai sydd wedi’u siomi ganddi yn y gorffennol yn rhan o wneud yr iaith yn fyw nawr.
Rwy'n falch o weld yr adroddiad yn cyfeirio'n benodol at y ddiplomyddiaeth feddal, os cawn ni ddweud, y mae’r comisiynydd yn ei defnyddio i helpu i greu meddylfryd newydd, a fydd yn angenrheidiol yn y gweithle a’r gweithlu. Mae ei angen o hyd, yn amlwg—nid oes neb eisiau gweld cwyn tebyg i’r un yn erbyn cyngor Abertawe eto.
Dyna pam roeddwn i’n falch, hefyd, o weld cyfeiriad at y fframwaith rheoleiddio, pwerau adran 4 i gynghori, a phethau fel y seminarau, nodau ansawdd ac amrywiaeth o gynlluniau hybu’r Gymraeg. Mae llawer o bethau da ar y wefan am sut i gael ymgysylltu cefnogol â chlybiau, cymdeithasau a chymdeithas sifil yn gyffredinol. Beth nad wyf i’n siŵr amdano yw sut y mae sefydliadau o'r fath yn cael eu denu at y wefan yn y lle cyntaf—rhywbeth, efallai, y gallai unrhyw sefydliad sydd â dyletswydd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ei ystyried, gan gynnwys y Llywodraeth. Diolch yn fawr.
Ategaf bopeth y mae Suzy Davies newydd ei ddweud ac rwyf yn croesawu'r adroddiad hwn. Hoffwn hefyd, mewn gwirionedd, ganmol y Gweinidog am ei frwdfrydedd a'i weledigaeth wrth wneud ei waith a'r cyfraniad y mae wedi’i wneud i'n pwyllgor. Nid wyf yn tybio y byddwn i'n gallu dweud hynny wrth lawer o Weinidogion yn y Llywodraeth hon, ond rwyf am dalu’r deyrnged honno yn ddiffuant iddo.
Mae adroddiad comisiynydd y Gymraeg wedi’i osod yn erbyn y cefndir na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, ac y dylai unigolyn yng Nghymru allu byw ei fywyd drwy gyfrwng y Gymraeg os yw’n dewis gwneud hynny. Ni ddylai ymdrech fod yn ofynnol i allu gwneud hynny. Dyna'r cefndir i'r adroddiad hwn. Fel y mae’r comisiynydd yn ei ddweud, mae cynnydd wedi'i wneud, ac yn sicr mae Cymru heddiw yn wahanol iawn i’r hyn yr oedd 50 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n tyfu i fyny ac yn yr ysgol. Ond mae hi'n dweud nad yw’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg yn gwneud unrhyw gynnydd pellach, a bod perfformiad wedi cyrraedd man gwastad ers peth amser. Wel, ni ddylai pobl sy'n siarad Cymraeg orfod dyfalbarhau i ddefnyddio eu hiaith frodorol, a dyna, rwyf yn credu, yw barn unedig y Cynulliad hwn.
Yr hyn sy'n siomedig am yr enghreifftiau y mae hi'n eu rhoi yn ei hadroddiad yw nad yw’n ymddangos y cedwir at y nod cyffredinol ar draws y sector cyhoeddus. Cyfeiriodd Jeremy Miles at hyn yn rhan o’i araith, ond mae hyd yn oed darparu arwyddion i ddweud bod gwasanaeth Cymraeg ar gael yn annigonol. Nid oes unrhyw arwyddion Iaith Gwaith mewn 71 y cant o’r derbynfeydd sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn y cynghorau sir—76 y cant—a hyd yn oed yn waeth wedyn yn y gwasanaeth iechyd, lle mai 78 y cant yw’r ffigur. Credaf mai mater o barch yw hyn, mewn gwirionedd—y dylem fod yn gallu darparu ar gyfer awydd naturiol pobl i siarad Cymraeg—ac mae'n codi cywilydd personol arnaf i fy mod yn teimlo na allaf siarad Cymraeg yn ddigon da fel bod y rhai a fyddai’n dymuno siarad â mi yn Gymraeg yn gallu gwneud hynny. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n gwneud fy ngorau i’w unioni, a dros y cyfnod y byddaf yn cael aros yn y lle hwn, rwyf yn gobeithio y byddaf yn gallu cyrraedd perffeithrwydd, o leiaf yn yr agwedd hon ar fywyd os nad mewn unrhyw agwedd arall.
Felly, mae'n rhywbeth y mae fy mhlaid yn ei groesawu, ac rydym ninnau’n cefnogi gwelliannau Plaid Cymru i'r cynnig hwn y prynhawn yma hefyd. Dylai'r defnydd o Gymraeg gael ei gweld nid yn unig fel mater o ddewis, yng ngeiriau y cynnig gweithredol, ond fel cwestiwn o angen, oherwydd mai iaith yw pedigri cenedl, ac unwaith y caiff ei cholli, wrth gwrs, ni ellir fyth ei hadennill yn llawn, fel yr ydym wedi gweld yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fel Cernyw, lle mae'r iaith wedi ei cholli.
Mae llawer i'w wneud—dyna'r wers yr ydym yn ei thynnu o'r adroddiad hwn. Mae hyd yn oed materion fel cael at y Gymraeg ar y rhyngrwyd, a byddech yn meddwl y byddai hynny’n eithaf syml i'w ddarparu, yn annigonol iawn. Dim ond 24 y cant o ffurflenni Saesneg, mae'n debyg, sydd ar gael yn Gymraeg, a hyd yn oed o ran gohebiaeth gydag adrannau'r Llywodraeth a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, mae'n debyg nad yw 26 y cant o lythyrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg yn cael unrhyw ateb o gwbl, sydd yn fy marn i yn rhyfedd iawn, ac yn y gwasanaeth iechyd nid yw 35 y cant o lythyrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg yn cael unrhyw ateb o gwbl, ac mae hynny mewn gwirionedd yn warthus yn fy marn i.
Y peth arall i mi ei nodi gyda chryn ddiddordeb yn yr adroddiad yw barn y comisiynydd mai camargraff yw hawlio bod yn rhaid i rywun fod yn gallu siarad Cymraeg i weithio yn y sector cyhoeddus. Mae hi'n dweud bod nifer sylweddol o sefydliadau yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru, y mae angen iddynt sicrhau eu bod yn cynnwys y Gymraeg fel ffactor wrth gynllunio eu gweithlu, ac mae'n rhaid iddynt fynd ati o ddifrif i gynyddu eu gallu ieithyddol er mwyn gallu bodloni anghenion cymdeithas ddwyieithog. Dyna uchelgais arall, unwaith eto, yr wyf yn ei gymeradwyo’n llwyr. Rydym ni yn UKIP yn cael ein hadnabod yn anghywir o bryd i'w gilydd fel parti Saesneg, ond rydym yn llwyr gefnogi’r uchelgais y dylai Cymru fod yn genedl gwbl ddwyieithog. Byddai'n rhyfedd iawn i blaid genedlaetholaidd fel ni beidio â bod â’r farn honno, ac rwy'n falch bod hwn yn gyfle i bob un ohonom ar draws y Siambr i ddod at ein gilydd a chytuno ar yr hyn y mae'n rhaid ei wneud.
Felly, â hynny, rwyf am ddweud ein bod yn cefnogi canfyddiadau adroddiad y comisiynydd, ac yn ei llongyfarch ar ei gwaith. Er gwaethaf yr hyn y mae Suzy Davies yn ei ddweud, mae yna amheuon y mae’n rhaid i ni gyfaddef eu bod yn bodoli, ac mae'n rhaid i ni i gyd wneud yn well. Gadewch i ni obeithio y flwyddyn nesaf byddwn yn gallu dweud ein bod wedi gwneud yn well.
Diolch. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i'r ddadl. Alun Davies.
Rwyf wedi bod yn gobeithio gwneud yn well y flwyddyn nesaf trwy rhan fwyaf fy mywyd i, ond rwy’n falch iawn ein bod ni wedi taro nodyn o gytundeb yn hwyr y prynhawn dydd Mawrth yma wrth drafod yr adroddiad yma. Rwy’n croesawu ac rwy’n ddiolchgar i bob un Aelod sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth.
Fel rydym wedi gweld sawl gwaith yn y gorffennol, mae’r drafodaeth yma wedi cytuno ar yr egwyddor ond hefyd wedi cael gweledigaeth glir a hirdymor. Nid yn aml iawn rydych yn gweld Sian Gwenllian yn gofyn i’r Llywodraeth newid gêr ond Jeremy Miles yn mynnu chwyldro. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni yn cyd-fynd ag uchelgais y ddau mewn ffyrdd gwahanol. Rwy’n tueddu i gytuno gydag un o gyfraniadau pwysig Suzy Davies, pan roedd hi’n sôn am broses symlach ar gyfer y safonau. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod hyrwyddo’r Gymraeg a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn rhywbeth sy’n digwydd yn naturiol, ac sy’n digwydd heb rywfaint o’r biwrocratiaeth yr ydym efallai wedi ei greu gyda’r Mesur presennol. Dyna un o’r pethau y byddaf yn ei ystyried pan mae’n dod i edrych ar ba fath o ddeddfwriaeth fydd ei angen arnom ni.
Wrth gloi y drafodaeth heddiw, a gaf i ddweud hyn? Rwy’n cytuno gyda beth roedd Sian Gwenllian yn ddweud amboutu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, addysg ar ôl 16 ac hefyd sut rydym yn cynllunio gweithlu ar gyfer delifro a darparu y math o wasanaeth rydym eisiau eu gweld yn y dyfodol. Dyna’r pwrpas, wrth gwrs, o gael strategaeth hirdymor. Nid yw’n ddigonol ac nid yw’n bosibl i gynllunio gweithlu ar gyfer y dyfodol mewn dwy flynedd neu bum mlynedd. Mae’n rhaid i ni edrych ar yr hirdymor ac edrych ar beth rydym yn gallu ei wneud ar gyfer y dyfodol, a dyna bwrpas a phwynt y drafodaeth rydym wedi trio ei chynnal ac wedi trio ei harwain yn ystod y misoedd nesaf—er mwyn creu strategaeth a fydd yn ein helpu ni i greu miliwn o siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd sy’n dod.
A phan fydd Jeremy Miles yn sôn bod yr adroddiad yn edrych drwy lygad y defnyddwyr, mae hynny’n bwysig—mae’n gwbl bwysig. Mae pob un ohonom ni yn y fan hyn sydd yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddefnyddwyr gwasanaethau Cymraeg lle bynnag rydym yn byw, ac rydym yn gwybod ein bod ni’n cael ein rhwystro rhag defnyddio ein hiaith ni yn y gwasanaethau cyhoeddus rydym eisiau eu gweld mewn rhannau gwahanol o Gymru. Ac rwy’n derbyn y pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau ei chyfrifoldebau hefyd, ac hefyd rôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yn aml iawn, rydym yn meddwl oherwydd bod gennym ni y sefydliad yma a sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru, nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddim cyfrifoldebau bellach dros y Gymraeg. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig, fel mae’n digwydd, bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Gweinidogion yn San Steffan yn Llundain yn derbyn eu cyfrifoldebau nhw ar gyfer y Gymraeg. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig bod hynny yn cael ei gydnabod.
Wrth gloi, a gaf i jest ddweud hyn? Mae yna gonsensws fan hyn ac rwy’n gobeithio ei fod yn gonsensws byw. Rwy’n derbyn beth mae Neil Hamilton wedi ei ddweud amboutu beth sydd gennym ni i’w wneud ar gyfer y dyfodol, ond rwyf hefyd yn derbyn beth mae wedi ei ddweud amboutu y fath o ‘commitment’ mae ef a’i blaid ef yn fodlon ei wneud dros sicrhau dyfodol y Gymraeg fel ein hiaith genedlaethol ni. Ond a gaf i ddweud hyn? Mae’n bwysig bod y consensws sydd gennym ni yn gonsensws byw, yn gonsensws sy’n herio a chonsensws sydd yn gyrru y weledigaeth. Rwy’n gobeithio, os felly, y byddwn ni wedi llwyddo i wneud rhywbeth hynod o sbesial, a rhywbeth hanesyddol ar gyfer Cymru ac ar gyfer y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly caiff y gwelliant ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw derbyn gwelliant 2. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Iawn, felly, caiff y gwelliant hwnnw ei dderbyn hefyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cynnig yw derbyn gwelliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, caiff gwelliant 3 ei dderbyn.
Y cynnig yw derbyn y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6117 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2015-16, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud er mwyn hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
2. Yn nodi pwysigrwydd cynllunio’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg fel agwedd ganolog o ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno strategaeth genedlaethol Cymraeg yn y gweithle er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o hawliau i dderbyn gwasanaethau drwy’r Gymraeg.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn gweithredu argymhelliad 4 yn adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol: Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, i roi dyletswydd statudol i awdurdodau lleol, gan gynnwys yn eu swyddogaeth fel awdurdodau addysg lleol, i gynllunio gweithlu o safbwynt sgiliau ieithyddol, ac i baratoi hyfforddiant addas i gwrdd â’r anghenion hynny.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig fel y'i diwygiwyd wedi ei dderbyn.
Dyna ddiwedd busnes heddiw. Diolch yn fawr iawn.