Part of the debate – Senedd Cymru am 6:19 pm ar 18 Hydref 2016.
Ategaf bopeth y mae Suzy Davies newydd ei ddweud ac rwyf yn croesawu'r adroddiad hwn. Hoffwn hefyd, mewn gwirionedd, ganmol y Gweinidog am ei frwdfrydedd a'i weledigaeth wrth wneud ei waith a'r cyfraniad y mae wedi’i wneud i'n pwyllgor. Nid wyf yn tybio y byddwn i'n gallu dweud hynny wrth lawer o Weinidogion yn y Llywodraeth hon, ond rwyf am dalu’r deyrnged honno yn ddiffuant iddo.
Mae adroddiad comisiynydd y Gymraeg wedi’i osod yn erbyn y cefndir na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, ac y dylai unigolyn yng Nghymru allu byw ei fywyd drwy gyfrwng y Gymraeg os yw’n dewis gwneud hynny. Ni ddylai ymdrech fod yn ofynnol i allu gwneud hynny. Dyna'r cefndir i'r adroddiad hwn. Fel y mae’r comisiynydd yn ei ddweud, mae cynnydd wedi'i wneud, ac yn sicr mae Cymru heddiw yn wahanol iawn i’r hyn yr oedd 50 mlynedd yn ôl pan oeddwn i’n tyfu i fyny ac yn yr ysgol. Ond mae hi'n dweud nad yw’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg yn gwneud unrhyw gynnydd pellach, a bod perfformiad wedi cyrraedd man gwastad ers peth amser. Wel, ni ddylai pobl sy'n siarad Cymraeg orfod dyfalbarhau i ddefnyddio eu hiaith frodorol, a dyna, rwyf yn credu, yw barn unedig y Cynulliad hwn.
Yr hyn sy'n siomedig am yr enghreifftiau y mae hi'n eu rhoi yn ei hadroddiad yw nad yw’n ymddangos y cedwir at y nod cyffredinol ar draws y sector cyhoeddus. Cyfeiriodd Jeremy Miles at hyn yn rhan o’i araith, ond mae hyd yn oed darparu arwyddion i ddweud bod gwasanaeth Cymraeg ar gael yn annigonol. Nid oes unrhyw arwyddion Iaith Gwaith mewn 71 y cant o’r derbynfeydd sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth yn y cynghorau sir—76 y cant—a hyd yn oed yn waeth wedyn yn y gwasanaeth iechyd, lle mai 78 y cant yw’r ffigur. Credaf mai mater o barch yw hyn, mewn gwirionedd—y dylem fod yn gallu darparu ar gyfer awydd naturiol pobl i siarad Cymraeg—ac mae'n codi cywilydd personol arnaf i fy mod yn teimlo na allaf siarad Cymraeg yn ddigon da fel bod y rhai a fyddai’n dymuno siarad â mi yn Gymraeg yn gallu gwneud hynny. Mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n gwneud fy ngorau i’w unioni, a dros y cyfnod y byddaf yn cael aros yn y lle hwn, rwyf yn gobeithio y byddaf yn gallu cyrraedd perffeithrwydd, o leiaf yn yr agwedd hon ar fywyd os nad mewn unrhyw agwedd arall.
Felly, mae'n rhywbeth y mae fy mhlaid yn ei groesawu, ac rydym ninnau’n cefnogi gwelliannau Plaid Cymru i'r cynnig hwn y prynhawn yma hefyd. Dylai'r defnydd o Gymraeg gael ei gweld nid yn unig fel mater o ddewis, yng ngeiriau y cynnig gweithredol, ond fel cwestiwn o angen, oherwydd mai iaith yw pedigri cenedl, ac unwaith y caiff ei cholli, wrth gwrs, ni ellir fyth ei hadennill yn llawn, fel yr ydym wedi gweld yn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, fel Cernyw, lle mae'r iaith wedi ei cholli.
Mae llawer i'w wneud—dyna'r wers yr ydym yn ei thynnu o'r adroddiad hwn. Mae hyd yn oed materion fel cael at y Gymraeg ar y rhyngrwyd, a byddech yn meddwl y byddai hynny’n eithaf syml i'w ddarparu, yn annigonol iawn. Dim ond 24 y cant o ffurflenni Saesneg, mae'n debyg, sydd ar gael yn Gymraeg, a hyd yn oed o ran gohebiaeth gydag adrannau'r Llywodraeth a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus, mae'n debyg nad yw 26 y cant o lythyrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg yn cael unrhyw ateb o gwbl, sydd yn fy marn i yn rhyfedd iawn, ac yn y gwasanaeth iechyd nid yw 35 y cant o lythyrau a ysgrifennwyd yn Gymraeg yn cael unrhyw ateb o gwbl, ac mae hynny mewn gwirionedd yn warthus yn fy marn i.
Y peth arall i mi ei nodi gyda chryn ddiddordeb yn yr adroddiad yw barn y comisiynydd mai camargraff yw hawlio bod yn rhaid i rywun fod yn gallu siarad Cymraeg i weithio yn y sector cyhoeddus. Mae hi'n dweud bod nifer sylweddol o sefydliadau yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru, y mae angen iddynt sicrhau eu bod yn cynnwys y Gymraeg fel ffactor wrth gynllunio eu gweithlu, ac mae'n rhaid iddynt fynd ati o ddifrif i gynyddu eu gallu ieithyddol er mwyn gallu bodloni anghenion cymdeithas ddwyieithog. Dyna uchelgais arall, unwaith eto, yr wyf yn ei gymeradwyo’n llwyr. Rydym ni yn UKIP yn cael ein hadnabod yn anghywir o bryd i'w gilydd fel parti Saesneg, ond rydym yn llwyr gefnogi’r uchelgais y dylai Cymru fod yn genedl gwbl ddwyieithog. Byddai'n rhyfedd iawn i blaid genedlaetholaidd fel ni beidio â bod â’r farn honno, ac rwy'n falch bod hwn yn gyfle i bob un ohonom ar draws y Siambr i ddod at ein gilydd a chytuno ar yr hyn y mae'n rhaid ei wneud.
Felly, â hynny, rwyf am ddweud ein bod yn cefnogi canfyddiadau adroddiad y comisiynydd, ac yn ei llongyfarch ar ei gwaith. Er gwaethaf yr hyn y mae Suzy Davies yn ei ddweud, mae yna amheuon y mae’n rhaid i ni gyfaddef eu bod yn bodoli, ac mae'n rhaid i ni i gyd wneud yn well. Gadewch i ni obeithio y flwyddyn nesaf byddwn yn gallu dweud ein bod wedi gwneud yn well.