Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 18 Hydref 2016.
Hoffwn ddweud diolch hefyd i’r comisiynydd am ei hadroddiad, a dechrau drwy ei llongyfarch am gadw o fewn ei chyllideb, yn arbed arian ar bron bob llinell ynddi. Roedd setliad ei swyddfa y llynedd yn arbennig o anodd ac mae wedi bod rhywbeth yn debyg eto eleni. Rwy’n edrych ymlaen at y manylion yn y gyllideb ddrafft.
Rydym yn croesawu effeithlonrwydd, wrth gwrs, ond mae’r ffaith bod y Prif Weinidog wedi gorfod ffeindio £150,000 ychwanegol yn benodol i orfodi safonau, sef un o swyddogaethau craidd swyddfa'r comisiwn, yn awgrymu nad oes lot o waed ar ôl yn y garreg. Rydych chi’n iawn, Weinidog, i chwilio am arbedion, wrth gwrs, ond tybed a ydym ni wedi cyrraedd y pwynt lle bydd toriadau sylweddol pellach yn croesi'r llinell a chyfyngu ar waith y comisiynydd i bwynt lle y mae’n lleihau ei werth i lefel annerbyniol.
Wedi dweud hynny, wrth gwrs, cafodd y comisiynydd wybod ym mis Chwefror fod yr arian ychwanegol hwn ar y ffordd. Fe allai wedi bod yn ddefnyddiol—rwy’n cytuno â Jeremy Miles yma—yn yr adroddiad hwn, i roi syniad am sut y mae’r arian yn cael ei wario, fel, y flwyddyn nesaf, y gallwn ni edrych ar ei hadroddiad eleni i ddilyn sut y mae’r bwriadau’n datblygu.
Rwy’n siŵr y bydd y galw ar y comisiynydd yn tyfu. Gyda phob set o safonau, mae'n edrych fel y byddwn yn wynebu set newydd o apeliadau. Gyda phroses symlach, hyd yn oed, a nifer yr apeliadau yn gostwng wrth i ni symud ymlaen, bydd costau gorfodi yn parhau i fod yn her ar gyfer cyllidebau eleni a thu hwnt. Bydd targed tymor hir y Llywodraeth ar gyfer miliwn o siaradwyr yn gofyn am olwg tymor hir hefyd ar gyfer swyddfa'r comisiynydd.
Y llynedd, roeddwn yn gofyn lle’r oedd yr ail rownd o safonau. Y flwyddyn gynt, fe wnes i ofyn lle’r oedd y rownd gyntaf o safonau. Nid wyf yn gwybod beth yw ‘groundhog’ yn Gymraeg, ond nid oes syndod beth rwy’n gofyn eleni. Er fy mod i'n siŵr y byddwch chi’n dweud eich bod chi wedi canolbwyntio ar ddod â safonau wedi’u diwygio yn ôl, rydych chi wedi cael yr adroddiad ar ymchwiliad rownd tri o’r safonau ers mis Gorffennaf. Fe fyddai’n werth cael rhyw ddatganiad yn fuan ynglŷn â’r amserlen, rwy’n credu.
Ond, gall edrych yn ôl fod yn beth da weithiau, ac fe fyddai wedi bod yn ddiddorol i weld yn yr adroddiad hwn rhyw adlewyrchiad ar faterion a godwyd y llynedd a'r cynnydd yn y cyfamser. Mae’r Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a chynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn ymddangos yn y ddau adroddiad, yn y bôn, am yr un cyfnod o ddylanwad. Ond, ni allaf weld dim byd newydd ar y cwestiwn dadleuol o addysg ôl-16. Mewn gwirionedd, ni allaf weld llawer o fanylion ar addysg o gwbl, o ystyried bod adolygiad Diamond yn bwnc mawr y llynedd. Dyna pam rŷm ni’n fodlon cefnogi’r gwelliannau i’r ddadl heddiw. Efallai y byddwn yn gweld mwy am hynny yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf.
Unwaith eto, rwy’n cynnig diolch i'r comisiynydd am gwrdd â llefarwyr yn aml, ein cadw ni’n gyfredol a rhannu pryderon—proses ddwy ffordd, gyda llaw. Gall dylanwadu ar bolisi gael ei wneud mewn nifer o ffyrdd, wedi'r cyfan, ac mae siarad â phob plaid yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei hun ei ystyried, cyn cytuno ei chyllideb ddrafft. Mae'n debyg, er nad oes rhaid iddi fod, fod y comisiynydd yn fwy agored gyda’r Cynulliad na’r Llywodraeth.
Rydych chi, Weinidog, i fod yn deg, yn barod i drafod eich blaenoriaethau ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rwy’n gwerthfawrogi hynny. Mae'n debyg ein bod ni’n cytuno mai defnydd beunyddiol o'r iaith yw’r prif nod i ni fel cenedl. Mae ein prosiect ar gyfer y stryd fawr, Tipyn Bach, yn cyfrannu at yr un agenda. Mae'r iaith, mewn gwirionedd, yn byw y tu fas i glwydi'r ysgol, ond bydd yr holl uchelgais dros ddyfodol y Gymraeg mewn addysg yn cyfrif am ychydig oni bai bod y rhai sydd wedi’u siomi ganddi yn y gorffennol yn rhan o wneud yr iaith yn fyw nawr.
Rwy'n falch o weld yr adroddiad yn cyfeirio'n benodol at y ddiplomyddiaeth feddal, os cawn ni ddweud, y mae’r comisiynydd yn ei defnyddio i helpu i greu meddylfryd newydd, a fydd yn angenrheidiol yn y gweithle a’r gweithlu. Mae ei angen o hyd, yn amlwg—nid oes neb eisiau gweld cwyn tebyg i’r un yn erbyn cyngor Abertawe eto.
Dyna pam roeddwn i’n falch, hefyd, o weld cyfeiriad at y fframwaith rheoleiddio, pwerau adran 4 i gynghori, a phethau fel y seminarau, nodau ansawdd ac amrywiaeth o gynlluniau hybu’r Gymraeg. Mae llawer o bethau da ar y wefan am sut i gael ymgysylltu cefnogol â chlybiau, cymdeithasau a chymdeithas sifil yn gyffredinol. Beth nad wyf i’n siŵr amdano yw sut y mae sefydliadau o'r fath yn cael eu denu at y wefan yn y lle cyntaf—rhywbeth, efallai, y gallai unrhyw sefydliad sydd â dyletswydd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ei ystyried, gan gynnwys y Llywodraeth. Diolch yn fawr.