<p>Diffyg Trysorlys ei Mawrhydi</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:54, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yn ychwanegol at ragolygon y Trysorlys a gafodd eu datgelu’n answyddogol ynglŷn â’r diffyg ariannol ac effaith gadael yr UE ar hynny, cafwyd nifer o adroddiadau hefyd ar effaith gadael yr undeb tollau Ewropeaidd a’r farchnad sengl hefyd—sydd oll yn faterion y disgwyliaf y byddant yn cael eu trafod yn y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Adael yr UE sy’n digwydd ddydd Llun yn ôl yr hyn a ddeallaf. Wrth gwrs, yng ngwasg yr Alban, mae hwnnw’n cael ei ddisgrifio fel gornest rhwng Sturgeon a May. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrth y Cynulliad pwy fydd yn cynrychioli Cymru yn y Cydbwyllgor Gweinidogion ar Adael yr UE a beth yw’r cynllun ar gyfer sicrhau nad yw llais Cymru yn cael ei foddi?