4. 4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor gan gynnwys Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Phlant ar eu Pen eu Hunain

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:41, 19 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle a roddir i gadeiryddion pwyllgorau wneud datganiadau i’r Siambr. Mae’n gyfle y dylid ei groesawu, Ddirprwy Lywydd, er mwyn codi proffil materion sy’n bwysig i’r cyhoedd yng Nghymru.

Rwyf fi ac aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi ystyried yn ofalus y blaenoriaethau yr hoffem ganolbwyntio arnynt yn ystod pumed tymor y Cynulliad hwn, ac roedd yr Aelodau’n unfryd yn eu cred fod yn rhaid i waith y pwyllgor: wynebu tuag allan, drwy ymgysylltu’n ddidwyll â chymunedau ym mhob rhan o Gymru, ac mewn ffyrdd newydd ac arloesol; ymrwymo i ganolbwyntio ar atebion drwy ddod â gwybodaeth a phrofiad arbenigol at ei gilydd er mwyn darparu atebion i awdurdodau cyhoeddus allu mynd i’r afael â rhai o anghydraddoldebau mwyaf Cymru; ac ymrwymo i graffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru, gyda golwg ar wella polisi cyhoeddus a deddfwriaeth yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae’r pwyllgor yn cyflawni gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Rwy’n fodlon â chynnydd y gwaith hwn a gobeithiaf y bydd yn cyfrannu at weithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus. Bydd ein gallu i edrych eto ar benderfyniadau allweddol gan Lywodraeth Cymru o ran deddfwriaeth a pholisi, a dadansoddi eu cynnydd yn feirniadol, yn rôl allweddol i’n pwyllgor. Yn y flwyddyn newydd, mae’r pwyllgor yn bwriadu canolbwyntio’n drylwyr ar drechu tlodi ac adolygu cynnydd ymyriadau, megis Cymunedau yn Gyntaf, hyd yn hyn. Gobeithiaf gyflwyno diweddariadau pellach i’r Siambr hon yn gynnar yn 2017.

Bydd ymchwiliad nesaf y pwyllgor yn canolbwyntio ar un o faterion pwysicaf y byd. Y llynedd, roedd un o bob 113 o bobl naill ai’n ffoadur, wedi’i ddadleoli’n fewnol, neu’n ceisio lloches. At ei gilydd, mae mwy o bobl heddiw wedi’u dadleoli o’u hanfodd na phoblogaethau’r Deyrnas Unedig, Ffrainc neu’r Eidal. Yn 2016, gyda’r gwrthdaro yn Syria yn dwysáu ac ansicrwydd enfawr yng ngwledydd y rhan honno o’r byd, erbyn hyn mae mwy o bobl wedi’u dadleoli yn y byd nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes. Mae miliynau wedi marw, teuluoedd wedi’u chwalu gan wrthdaro a phlant wedi’u gadael heb rieni. Mae’r cylch newyddion cyson o luniau a straeon am bobl yn dianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac a gwledydd eraill yn hynod drallodus. Mae’n sefyllfa sydd wedi peri cryn boendod i mi a sawl un arall yn y Siambr hon, fe wn.

Ddirprwy Lywydd, rwyf am i’r Cynulliad hwn wneud cyfraniad bach ond arwyddocaol i’r broblem fyd-eang hon. Yn gynharach y mis hwn, penderfynodd Llywodraeth Ffrainc gau gwersyll y Jyngl yn Calais, lle mae oddeutu 7,000 o bobl yn byw ar hyn o bryd. Mae Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, yn hollol iawn, wedi croesawu hyn, gan fod disgwyl y bydd llety a chymorth mwy addas yn cael eu darparu. Ond y gwir amdani yw y gall 700 o blant ar eu pen eu hunain sy’n byw yn y Jyngl, a llu o bobl eraill, gael eu gadael yn agored i fasnachu pobl a chamdriniaeth.

Bydd gan ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sy’n dod i’r Deyrnas Unedig anghenion penodol ar gyfer setlo yn eu bywydau newydd a dod yn rhan lawn o’n cymunedau. Er mai Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb pennaf dros adsefydlu’r bobl hyn, rwy’n ymwybodol fod yna ymyriadau a chymorth allweddol o hyd y gall Llywodraeth Cymru eu darparu.

Yng Nghymru, mae yna 112 o bobl yma ar hyn o bryd o dan gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed. Mae yna 862 yn yr Alban, ac mae 155 wedi’u hadsefydlu yng Ngogledd Iwerddon. Er mwyn sicrhau bod pobl a ddadleolwyd yn cael cefnogaeth effeithiol yng Nghymru, bydd ymchwiliad y pwyllgor yn edrych ar y meysydd lle y gallwn wneud pethau’n wahanol ac yn well.

Bydd gan y pwyllgor ddiddordeb arbennig yng nghyflymder ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru o adsefydlu ffoaduriaid drwy gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed; effeithiolrwydd cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig mewn perthynas â chyllid, atebolrwydd, cymorth iechyd meddwl, eiriolaeth, y ddarpariaeth dai, mynediad at hawliau, amddiffyn plant, ac amddifadrwydd; a sut y mae plant ar eu pen eu hunain yn cael eu cynorthwyo, yn enwedig gan fod Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dweud bod y cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn anwybyddu’r angen am eiriolaeth annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc y tu hwnt i ddyletswyddau sy’n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Bydd y pwyllgor hefyd yn edrych ar ba mor dda y mae strategaeth cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yng nghymunedau Cymru. Bydd y pwyllgor yn siarad â theuluoedd sydd wedi eu hadsefydlu yng Nghymru yn ddiweddar ac yn archwilio arferion da yn y DU ac yn rhyngwladol.

Ddirprwy Lywydd, caf fy nghalonogi gan alwad y Prif Weinidog gyda’r trydydd sector ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i helpu ffoaduriaid sy’n blant. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod Llywodraeth Ffrainc ar fin cau gwersyll y Jyngl yn Calais.

I gloi, gobeithiaf y bydd yr ymchwiliad hwn yn arwain at wella profiadau i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain yng Nghymru. Rwyf am i’r cenedlaethau o bobl sydd wedi’u dadleoli fod yn falch o alw Cymru’n gartref iddynt.