Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 19 Hydref 2016.
Mae’n bleser gen i siarad fel aelod o’r pwyllgor. Rwy’n croesawu’r darn pwysig o waith y bydd y pwyllgor yn ei wneud ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sydd yn ceisio lloches. Mae gennym ni bron 3,000 o bobl yng Nghymru yn chwilio am loches, sydd yn cynrychioli 0.1 y cant o’r boblogaeth—ffigwr bychan iawn ond carfan bwysig a bregus sy’n haeddu ein cefnogaeth lawn ni.
Mi fydd yn bwysig i’r ymchwiliad gan y pwyllgor ddarganfod nifer o faterion, ac rydych chi wedi cyfeirio at rai ohonyn nhw, ond, i mi, mi wnaf i restru rhai pethau pwysig. Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni ddarganfod beth ydy’r ymateb Cymreig i argyfwng ffoaduriaid Syria. Mae hi’n sefyllfa sydd yn amrywio o un rhan o Gymru i’r llall. Er enghraifft, a ydy’r ffigurau adleoli ffoaduriaid yn deg ac a ydy awdurdodau lleol yn cymryd eu cyfran deg? Mae hynny’n amlwg angen sylw. Bydd angen inni hefyd ystyried pa mor dda y mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud i gyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod. Mae rhywun yn clywed am wahaniaeth enfawr rhwng beth gafodd ei gytuno a beth sy’n cael ei ddarparu. Felly, rydym ni, yn ystod ein hymchwiliad, angen deall sut y mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol wedi medru ymateb i’r argyfwng hyd yn hyn, a hefyd pa mor gyflym y maen nhw’n mynd i fedru ymateb i adleoli ffoaduriaid yn y dyfodol.
Rwy’n gobeithio y gallwn ni edrych ar sut mae’r gwaith yma yn cael ei fonitro, ac felly mi fydd angen i’r pwyllgor ystyried pa mor effeithiol mae’r tasglu ffoaduriaid Syria wedi bod wrth gefnogi ymdrechion adleoli. Mi fydd yn bwysig hefyd, rwy’n meddwl, i ni ffeindio sut mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar bolisi adleoli gan y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar ymarfer da, beth sydd wedi mynd yn dda, ond hefyd i wybod beth sydd ddim yn gweithio.
Rydym ni hefyd angen edrych ar ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i adleoli ffoaduriaid a’r rhai sy’n chwilio am loches. A ydy’r ymateb wedi ei gydlynu yn ddigon da, ac a oes yna ddigon o gydlyniant yn yr ymateb rhwng gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd, y cyflenwyr tai, addysg ac yn y blaen? Mae hynny’n rhan bwysig o’n gwaith ni, rwy’n meddwl.
Hefyd, mae eisiau ystyried sut mae polisi a deddfwriaeth ddiweddar yn medru bwydo mewn i adleoli ffoaduriaid a’r rhai sy’n chwilio am loches, ac yn benodol efallai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i chyfrifoldebau.
Rwy’n deall nad oes gan Gymru wasanaeth cefnogaeth eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n ffoi neu sydd ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn rhywbeth rydw i’n credu y dylai’r ymchwiliad yma ei ystyried hefyd.
Dyna luchio nifer o awgrymiadau i ni i’w trafod yn fanylach, ond rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith pwysig yma yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.