– Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Hydref 2016.
Diolch yn fawr iawn.
Symudwn ymlaen at eitem 4, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar flaenraglen waith y pwyllgor sy’n cynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain. Galwaf ar John Griffiths i gynnig y datganiad. John.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle a roddir i gadeiryddion pwyllgorau wneud datganiadau i’r Siambr. Mae’n gyfle y dylid ei groesawu, Ddirprwy Lywydd, er mwyn codi proffil materion sy’n bwysig i’r cyhoedd yng Nghymru.
Rwyf fi ac aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi ystyried yn ofalus y blaenoriaethau yr hoffem ganolbwyntio arnynt yn ystod pumed tymor y Cynulliad hwn, ac roedd yr Aelodau’n unfryd yn eu cred fod yn rhaid i waith y pwyllgor: wynebu tuag allan, drwy ymgysylltu’n ddidwyll â chymunedau ym mhob rhan o Gymru, ac mewn ffyrdd newydd ac arloesol; ymrwymo i ganolbwyntio ar atebion drwy ddod â gwybodaeth a phrofiad arbenigol at ei gilydd er mwyn darparu atebion i awdurdodau cyhoeddus allu mynd i’r afael â rhai o anghydraddoldebau mwyaf Cymru; ac ymrwymo i graffu’n effeithiol ar Lywodraeth Cymru, gyda golwg ar wella polisi cyhoeddus a deddfwriaeth yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r pwyllgor yn cyflawni gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Rwy’n fodlon â chynnydd y gwaith hwn a gobeithiaf y bydd yn cyfrannu at weithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus. Bydd ein gallu i edrych eto ar benderfyniadau allweddol gan Lywodraeth Cymru o ran deddfwriaeth a pholisi, a dadansoddi eu cynnydd yn feirniadol, yn rôl allweddol i’n pwyllgor. Yn y flwyddyn newydd, mae’r pwyllgor yn bwriadu canolbwyntio’n drylwyr ar drechu tlodi ac adolygu cynnydd ymyriadau, megis Cymunedau yn Gyntaf, hyd yn hyn. Gobeithiaf gyflwyno diweddariadau pellach i’r Siambr hon yn gynnar yn 2017.
Bydd ymchwiliad nesaf y pwyllgor yn canolbwyntio ar un o faterion pwysicaf y byd. Y llynedd, roedd un o bob 113 o bobl naill ai’n ffoadur, wedi’i ddadleoli’n fewnol, neu’n ceisio lloches. At ei gilydd, mae mwy o bobl heddiw wedi’u dadleoli o’u hanfodd na phoblogaethau’r Deyrnas Unedig, Ffrainc neu’r Eidal. Yn 2016, gyda’r gwrthdaro yn Syria yn dwysáu ac ansicrwydd enfawr yng ngwledydd y rhan honno o’r byd, erbyn hyn mae mwy o bobl wedi’u dadleoli yn y byd nag ar unrhyw adeg arall yn ein hanes. Mae miliynau wedi marw, teuluoedd wedi’u chwalu gan wrthdaro a phlant wedi’u gadael heb rieni. Mae’r cylch newyddion cyson o luniau a straeon am bobl yn dianc rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac a gwledydd eraill yn hynod drallodus. Mae’n sefyllfa sydd wedi peri cryn boendod i mi a sawl un arall yn y Siambr hon, fe wn.
Ddirprwy Lywydd, rwyf am i’r Cynulliad hwn wneud cyfraniad bach ond arwyddocaol i’r broblem fyd-eang hon. Yn gynharach y mis hwn, penderfynodd Llywodraeth Ffrainc gau gwersyll y Jyngl yn Calais, lle mae oddeutu 7,000 o bobl yn byw ar hyn o bryd. Mae Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, yn hollol iawn, wedi croesawu hyn, gan fod disgwyl y bydd llety a chymorth mwy addas yn cael eu darparu. Ond y gwir amdani yw y gall 700 o blant ar eu pen eu hunain sy’n byw yn y Jyngl, a llu o bobl eraill, gael eu gadael yn agored i fasnachu pobl a chamdriniaeth.
Bydd gan ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sy’n dod i’r Deyrnas Unedig anghenion penodol ar gyfer setlo yn eu bywydau newydd a dod yn rhan lawn o’n cymunedau. Er mai Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb pennaf dros adsefydlu’r bobl hyn, rwy’n ymwybodol fod yna ymyriadau a chymorth allweddol o hyd y gall Llywodraeth Cymru eu darparu.
Yng Nghymru, mae yna 112 o bobl yma ar hyn o bryd o dan gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed. Mae yna 862 yn yr Alban, ac mae 155 wedi’u hadsefydlu yng Ngogledd Iwerddon. Er mwyn sicrhau bod pobl a ddadleolwyd yn cael cefnogaeth effeithiol yng Nghymru, bydd ymchwiliad y pwyllgor yn edrych ar y meysydd lle y gallwn wneud pethau’n wahanol ac yn well.
Bydd gan y pwyllgor ddiddordeb arbennig yng nghyflymder ac effeithiolrwydd dull Llywodraeth Cymru o adsefydlu ffoaduriaid drwy gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed; effeithiolrwydd cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn enwedig mewn perthynas â chyllid, atebolrwydd, cymorth iechyd meddwl, eiriolaeth, y ddarpariaeth dai, mynediad at hawliau, amddiffyn plant, ac amddifadrwydd; a sut y mae plant ar eu pen eu hunain yn cael eu cynorthwyo, yn enwedig gan fod Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dweud bod y cynllun cyflawni ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn anwybyddu’r angen am eiriolaeth annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc y tu hwnt i ddyletswyddau sy’n ofynnol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Bydd y pwyllgor hefyd yn edrych ar ba mor dda y mae strategaeth cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru yn helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yng nghymunedau Cymru. Bydd y pwyllgor yn siarad â theuluoedd sydd wedi eu hadsefydlu yng Nghymru yn ddiweddar ac yn archwilio arferion da yn y DU ac yn rhyngwladol.
Ddirprwy Lywydd, caf fy nghalonogi gan alwad y Prif Weinidog gyda’r trydydd sector ar Lywodraeth y DU i weithredu ar frys i helpu ffoaduriaid sy’n blant. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod Llywodraeth Ffrainc ar fin cau gwersyll y Jyngl yn Calais.
I gloi, gobeithiaf y bydd yr ymchwiliad hwn yn arwain at wella profiadau i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain yng Nghymru. Rwyf am i’r cenedlaethau o bobl sydd wedi’u dadleoli fod yn falch o alw Cymru’n gartref iddynt.
Mae’n bleser gen i siarad fel aelod o’r pwyllgor. Rwy’n croesawu’r darn pwysig o waith y bydd y pwyllgor yn ei wneud ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sydd yn ceisio lloches. Mae gennym ni bron 3,000 o bobl yng Nghymru yn chwilio am loches, sydd yn cynrychioli 0.1 y cant o’r boblogaeth—ffigwr bychan iawn ond carfan bwysig a bregus sy’n haeddu ein cefnogaeth lawn ni.
Mi fydd yn bwysig i’r ymchwiliad gan y pwyllgor ddarganfod nifer o faterion, ac rydych chi wedi cyfeirio at rai ohonyn nhw, ond, i mi, mi wnaf i restru rhai pethau pwysig. Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig inni ddarganfod beth ydy’r ymateb Cymreig i argyfwng ffoaduriaid Syria. Mae hi’n sefyllfa sydd yn amrywio o un rhan o Gymru i’r llall. Er enghraifft, a ydy’r ffigurau adleoli ffoaduriaid yn deg ac a ydy awdurdodau lleol yn cymryd eu cyfran deg? Mae hynny’n amlwg angen sylw. Bydd angen inni hefyd ystyried pa mor dda y mae’r awdurdodau lleol yn ei wneud i gyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod. Mae rhywun yn clywed am wahaniaeth enfawr rhwng beth gafodd ei gytuno a beth sy’n cael ei ddarparu. Felly, rydym ni, yn ystod ein hymchwiliad, angen deall sut y mae Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol wedi medru ymateb i’r argyfwng hyd yn hyn, a hefyd pa mor gyflym y maen nhw’n mynd i fedru ymateb i adleoli ffoaduriaid yn y dyfodol.
Rwy’n gobeithio y gallwn ni edrych ar sut mae’r gwaith yma yn cael ei fonitro, ac felly mi fydd angen i’r pwyllgor ystyried pa mor effeithiol mae’r tasglu ffoaduriaid Syria wedi bod wrth gefnogi ymdrechion adleoli. Mi fydd yn bwysig hefyd, rwy’n meddwl, i ni ffeindio sut mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar bolisi adleoli gan y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar ymarfer da, beth sydd wedi mynd yn dda, ond hefyd i wybod beth sydd ddim yn gweithio.
Rydym ni hefyd angen edrych ar ymateb y gwasanaethau cyhoeddus i adleoli ffoaduriaid a’r rhai sy’n chwilio am loches. A ydy’r ymateb wedi ei gydlynu yn ddigon da, ac a oes yna ddigon o gydlyniant yn yr ymateb rhwng gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaeth iechyd, y cyflenwyr tai, addysg ac yn y blaen? Mae hynny’n rhan bwysig o’n gwaith ni, rwy’n meddwl.
Hefyd, mae eisiau ystyried sut mae polisi a deddfwriaeth ddiweddar yn medru bwydo mewn i adleoli ffoaduriaid a’r rhai sy’n chwilio am loches, ac yn benodol efallai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’i chyfrifoldebau.
Rwy’n deall nad oes gan Gymru wasanaeth cefnogaeth eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n ffoi neu sydd ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn rhywbeth rydw i’n credu y dylai’r ymchwiliad yma ei ystyried hefyd.
Dyna luchio nifer o awgrymiadau i ni i’w trafod yn fanylach, ond rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith pwysig yma yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolch.
Diolch yn fawr, Sian. A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i’r Aelod am ei hymrwymiad i’r gwaith hwn, a gwn fod ganddi ddiddordeb mawr ynddo? Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni edrych i weld pa mor gydgysylltiedig yw’r gwasanaethau yng Nghymru, a sut y gellir sicrhau eu bod yn gydgysylltiedig ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sy’n dod i Gymru, ac yn wir, sut y gall deddfwriaeth newydd fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ein helpu i gyflawni’r cydgysylltiad hwnnw yn ogystal â gwelliannau cyffredinol i’r gwasanaethau.
Rwy’n cydnabod y pwyntiau ynglŷn ag eiriolaeth. Fel y soniais yn fy araith, mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi tynnu sylw at hynny fel maes sydd angen ei archwilio.
Credaf ei bod yn amlwg o ymarfer ymgynghori’r haf a gynhaliwyd gan y pwyllgor fod cefnogaeth sylweddol yng Nghymru i’r gwaith hwn a bod angen i’n pwyllgor ei gyflawni. Felly, edrychaf ymlaen at lefel uchel o ddiddordeb a chyfraniad parhaus gan yr holl sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb. A bydd yn bwysig ein bod yn edrych y tu hwnt i’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, ar y darlun yn Ewrop, a gwneud pwyntiau priodol, ond wrth gwrs, bydd ein prif ffocws ar rôl Llywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol yn wir, fel y crybwyllodd yr Aelod, gan eu bod yn hollol hanfodol o ran y pwerau a’r cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i Gymru a all wneud gwahaniaeth i brofiad y grwpiau agored i niwed hyn.
Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwyf mewn sefyllfa ryfedd gan mai dyma’r tro cyntaf, ers i mi fod yn y Cynulliad, i mi beidio â bod yn aelod o’r pwyllgor hwn neu ei ragflaenwyr cyfatebol, er bod llawer o’r materion rydych yn eu nodi wedi bod yn destun gwaith gan y pwyllgorau blaenorol hynny. Gobeithiaf, felly, y byddwch—ac rwy’n siŵr y byddwch yn cadarnhau eich bod—yn edrych ar waith etifeddol y pwyllgor diwethaf yn arbennig, ond hefyd ar beth o waith etifeddol pwyllgorau rhagflaenol a ddygwyd ymlaen ac sy’n berthnasol i’r gwaith rydych yn ei wneud.
Fe ddywedoch eich bod wedi canolbwyntio eisoes ers peth amser ar waith craffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Gobeithiaf y byddwch, neu byddwn yn eich annog, i gynnwys yn rhan o hynny—rwy’n siŵr y byddwch yn cadarnhau eich bod wedi gwneud hynny—y mater a achosodd beth tensiwn ar y diwedd, fel y cofiwch, sef yr angen hanfodol am addysg ar berthnasoedd iach. Cawsom addewid y byddai camau i fynd i’r afael â hynny yn y rheoliadau a’r codau, a’r strategaeth ganlynol. Roedd peth pryder, yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar drais yn erbyn menywod a phlant, nad oedd hynny, efallai, wedi cael ei drin yn ddigon trylwyr. Yn yr un modd, nodwyd pryderon yno gan nifer o arbenigwyr, gan gynnwys y cynghorydd cenedlaethol, fod y strategaeth genedlaethol ddrafft ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol hyd at 2020-21 wedi achosi pryder o ran nifer o faterion, yn enwedig yr angen i fabwysiadu diffiniad a gydnabyddir yn rhyngwladol o drais yn erbyn menywod. Felly, byddai’n cael ei werthfawrogi, yn sicr gan y bobl sy’n mynychu’r grŵp trawsbleidiol, pe bai’r pwyllgor yn gwrando ar eu tystiolaeth gydunol yn hynny o beth.
Rydych yn cyfeirio at ganolbwyntio’n helaeth ar raglenni i drechu tlodi. Efallai y gallech gadarnhau pa un a ydych nid yn unig yn edrych ar yr etifeddiaeth ond yn bwrw ymlaen â chyfres o ymchwiliadau roedd y pwyllgor blaenorol wrthi’n eu cyflawni ond heb eu cwblhau—credaf ein bod wedi cyrraedd cam 2 o broses dri cham—a pha un a ydych yn mynd i fwrw ymlaen â hynny ar yr un sail ai peidio.
Croesawaf y ffaith y bydd eich ymchwiliad nesaf yn canolbwyntio ar ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain. Rydych yn cyfeirio at y 112 o bobl sydd yma o dan gynllun Llywodraeth y DU i adleoli pobl o Syria sy’n agored i niwed, o gymharu â 862 yn yr Alban a 155 yng Ngogledd Iwerddon. Ymddengys bod y ddwy genedl arall, hyd yn hyn, wedi cymryd cyfran fwy o’r boblogaeth yr effeithir arni. Gobeithio y byddwch yn edrych ar hynny. Ond o ran y ffigurau hynny, a allech roi sylwadau hefyd ar y ffigurau a roddwyd i mi gan Oxfam Cymru yr wythnos diwethaf sy’n nodi bod rhaglen adsefydlu ffoaduriaid Syria eisoes wedi dod â 257 o bobl i Gymru, gyda disgwyl i 103 arall gyrraedd cyn diwedd y flwyddyn hon, a 21 o’r 22 awdurdod lleol eisoes wedi derbyn rhai pobl o’r rhaglen honno?
Erbyn diwedd 2015, bydd 65.3 miliwn o bobl ledled y byd wedi cael eu gorfodi i ddadleoli o ganlyniad i erledigaeth, gwrthdaro, trais neu ymyriadau â hawliau dynol, a chyfran fechan ohonynt wedi ceisio lloches yng Nghymru. Mewn gwirionedd, byddaf yn cynnal ac yn noddi digwyddiad Lloches yn y Senedd gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru ar 7 Rhagfyr, pan fydd modd i’r Aelodau gyfarfod â cheiswyr lloches a ffoaduriaid o bob rhan o Gymru. Felly, nid oes gennyf gywilydd fy mod yn hysbysebu hynny yn awr, ac rwy’n annog yr Aelodau i ddod draw i gyfarfod, dysgu a chlywed am brofiadau pobl o lygad y ffynnon, a’r rôl y mae Cymru wedi ei chwarae ac y gall ei chwarae yn y dyfodol.
Yn amlwg, cyfeiriwyd at y gwersyll yn Calais y rhoddwyd yr enw erchyll ‘Jyngl’ arno a’r ffaith ei fod yn cau. Mae Comisiynydd Plant Lloegr wedi dweud yn flaenorol y bydd oddeutu 300 o blant o’r gwersyll, o wledydd fel Syria ac Afghanistan, yn dod i’r DU. Gwyddom, yr wythnos diwethaf, fod rhai o swyddogion Prydain a Ffrainc wedi dechrau cofrestru plant ar eu pen eu hunain yn y gwersyll sy’n gobeithio ymuno â pherthnasau ym Mhrydain. A oes gennych unrhyw syniad a yw’r ffigurau hynny’n gywir, neu a allwch geisio darganfod yr union nifer? Os yw’n 300, neu’n fwy, pa gyfran a ddaw i Gymru?
Yn yr un modd, mae’r Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, wedi dweud bod Llywodraeth y DU, a dyfynnaf, yn ‘symud yn gyflym’. Mae hi am i gymaint o blant â phosibl ddod i’r DU cyn bod y gwersyll yn cau. Ond mae’r elusen Safe Passage UK, sy’n gweithio gyda Llywodraeth y DU, yn dweud nad yw wedi gweld unrhyw gynlluniau gweithredol hyd yn hyn i nodi sut y bydd y plant yn cael eu trosglwyddo. Unwaith eto, a allwch edrych ar y cynlluniau gweithredol wrth iddynt ddatblygu, nid yn unig gyda Llywodraeth y DU, ond gyda Llywodraeth Cymru, o ran y setliad yma? Ni ddywedaf lawer mwy, heblaw gofyn—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Dowch i ben, Mark, os gwelwch yn dda.
Iawn. Mae’r cwestiwn olaf, felly, yn ymwneud â—. Rwy’n siŵr y gallwch gadarnhau y byddwch yn cadw golwg ar y cyflawniad anghymesur yng Nghymru hyd yn hyn. Rwyf wedi cynrychioli pobl gyda nifer o gynghorau, ac mae’r ymagwedd wedi bod yn wahanol, ond yn bennaf oll, y pwyntiau allweddol a nodwyd, er enghraifft, yn Wrecsam—sydd eisoes wedi cytuno i dderbyn—yw’r angen am gymorth iaith, ac yn Sir y Fflint, am gymorth llawn gydag iaith a’r cwricwlwm, gan gefnogi’r broses o integreiddio teuluoedd i’r cymunedau lleol, yn ogystal â’r materion yn y pen blaen ynglŷn â phethau fel tai ac iechyd. Unwaith eto, gobeithiaf y gallwch gadarnhau y byddwch yn edrych ar y rheini. Diolch.
A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gyfraniad i’r datganiad hwn a’i gwestiynau? Yn wir, fel pwyllgor, byddwn yn edrych ar adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor blaenorol, ac rydym wedi gwneud hynny’n barod, ond byddwn yn sicr yn edrych arno mewn perthynas â’r materion y soniodd yr Aelod amdanynt. O ran Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, rydym wedi bod, heddiw mewn gwirionedd, yn gwneud gwaith craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn wir, ar y cynghorydd cenedlaethol, ac roedd llawer o’n cwestiynau’n canolbwyntio ar berthnasoedd iach a sut y cawn y cynnig addysg ysgol yn iawn. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Kirsty Williams ac wedi cael ymateb yn hynny o beth, a byddwn yn mynd ar drywydd hynny. Mae llawer o hyn, wrth gwrs, yn ymwneud â Donaldson ac adolygiad y cwricwlwm, a lle addysg perthnasoedd iach yn hynny, a pha un a yw ar sail statudol ai peidio, ac yn gyson ledled Cymru o ran ansawdd ac argaeledd. Felly, rwy’n siŵr y bydd y materion hynny’n ymddangos yn adroddiad ein pwyllgor. Hefyd, fe grybwyllwyd pwysigrwydd cael diffiniadau a gydnabyddir yn rhyngwladol, a gwn fod hynny’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ystyried yn ofalus iawn o ran y strategaeth genedlaethol a pholisi cyffredinol.
A gaf fi ddweud hefyd, o ran ymchwiliadau blaenorol yn ymwneud â thlodi, fod rhywfaint o fusnes anorffenedig yn wir, yn enwedig, rwy’n meddwl, o ran y ffaith fod y pwyllgor wedi dynodi budd-daliadau lles a thlodi mewn gwaith fel meysydd a allai arwain yn ddefnyddiol at waith yn y dyfodol? Felly, yn amlwg, bydd y pwyllgor, wrth fwrw ymlaen ag ymholiadau pellach a rhagor o waith ar dlodi, yn edrych ar y busnes anorffenedig hwnnw, fel petai, yn ogystal â’r gwaith cyffredinol y mae’n dymuno ei wneud ar dlodi, ac rwy’n siŵr y bydd gwaith blaenorol y pwyllgor yn llywio’r gwaith hwnnw.
O ran niferoedd, boed yn ffoaduriaid o Syria a chynllun diweddaraf Llywodraeth y DU, neu’n wir, y sefyllfa yn Calais, credaf y bydd y pwyllgor yn awyddus iawn i gael syniad mor gywir â phosibl o’r ffigurau hynny, a bydd hynny’n rhan o waith y pwyllgor.
Yn olaf, wrth ystyried yr ymchwiliad hwn yn y pwyllgor y bore yma, fe wnaethom ystyried digwyddiad Cyngor Ffoaduriaid Cymru ar 7 Rhagfyr, a chredaf ein bod yn cytuno y bydd hwnnw’n gyfle defnyddiol i’r pwyllgor ymgysylltu â’r rhai sy’n bresennol ynglŷn â’r gwaith hwn.
A gaf fi ddiolch i chi, John, am eich datganiad, a chroesawu’n gynnes iawn y gwaith y byddwch yn ei wneud ar gefnogi ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain? Mae awdurdod lleol Torfaen wedi bod yn cyflawni’n well na’r disgwyl o ran derbyn ffoaduriaid o Syria, ac rwy’n falch iawn o hanes blaenorol y cyngor hwnnw, a hefyd yn falch iawn fod y cyngor, ddoe, wedi cytuno’n unfrydol i gyflwyno papur i’r cabinet i ddod yn un o’r awdurdodau cyntaf yng Nghymru i dderbyn plant ar eu pen eu hunain. Felly, credaf fod hynny’n rhywbeth y gallwn oll fod yn falch ohono a’i ganmol.
Amlygwyd eisoes, fodd bynnag, fod awdurdodau lleol yn amrywio o ran eu hymwneud â’r cynlluniau hyn, ac roeddwn am ofyn sut rydych yn gweld rôl y pwyllgor o ran pwyso ar Lywodraeth Cymru ac ar awdurdodau lleol, i wella ymgysylltiad â’r cynlluniau hynny ledled Cymru. Roeddwn yn arbennig o falch o weld y cyfeiriad at eiriolaeth yn eich datganiad hefyd. Bydd y pwyllgor plant yn cynnal ymchwiliad byr ar eiriolaeth, gan fod rhai materion rydym yn dal i boeni yn eu cylch mewn perthynas â chyflawni ledled Cymru, a chredaf y byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r ddau bwyllgor gydweithredu ar hynny.
Fe gyfeirioch at Cymunedau yn Gyntaf; eto, rwy’n falch iawn y byddwch yn edrych ar Cymunedau yn Gyntaf. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud, pan wnaeth y Gweinidog ei gyhoeddiad yn ddiweddar, fod ein hanes yn Nhorfaen o ran cyflawniad Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn wych, gan gynnwys o ran y math o allbynnau pendant fel cyflogadwyedd. Tybed a allech ddweud ychydig yn rhagor wrthym ynglŷn â sut rydych yn bwriadu craffu ar benderfyniad y Llywodraeth i ddirwyn Cymunedau yn Gyntaf i ben. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r rhannau ardderchog o’r rhaglen honno yn y dyfodol, ac rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am ei sicrwydd ynglŷn â hynny yn gynharach. Hoffwn wybod hefyd sut rydych yn bwriadu ymgysylltu ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynglŷn â’r ymgynghoriad. Rydym yn dal i ddisgwyl am fanylion yr ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allanol a mewnol, a hoffwn wybod beth fydd cyfraniad y pwyllgor yn hynny o beth.
Diolch yn fawr iawn i Lynne Neagle am ei chroeso cynnes i’r gwaith hwn a’i chefnogaeth iddo. Byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda’r pwyllgor plant, Lynne, ar eiriolaeth yn arbennig. Credaf fod llawer mwy o feddwl ac ystyriaeth, yn y Cynulliad hwn, ynglŷn â sut y gall y pwyllgorau weithio gyda’i gilydd yn gyffredinol, ac efallai y gallai hyn fod yn enghraifft bwysig o sut y gallwn gyflawni hynny. Cytunaf yn llwyr ein bod angen i awdurdodau lleol yng Nghymru ddangos y math iawn o ymrwymiad i ddeall yr achos moesol enfawr, i chwarae eu rhan yn derbyn plant ar eu pen eu hunain, yn ogystal, wrth gwrs, â ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Felly, pan osodir esiampl dda, megis yn Nhorfaen, mae hynny’n rhywbeth y gobeithiaf y bydd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru yn ei nodi. Mae’n braf clywed am y papur cabinet sy’n cael ei gyflwyno hefyd.
Credaf mai’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn ein gwaith yw dweud yn glir pa awdurdodau lleol sy’n camu i’r adwy, fel petai, a thrwy wneud hynny, credaf y bydd yn rhoi cryn bwysau ar awdurdodau lleol eraill nad ydynt yn dangos ymrwymiad a gweithredu cyffelyb. Credaf mai gweithredu, yn amlwg, yw’r peth pwysig, gan fod yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cytuno i chwarae rhan yn derbyn pobl o dan y cynlluniau amrywiol, ond nid ydym wedi gweld llawer o weithredu hyd yn hyn. Felly, mae angen mwy o gyflymder, a nifer fwy o oedolion a phlant yn elwa ar yr ymrwymiad llafar a roddodd yr awdurdodau lleol.
O ran Cymunedau yn Gyntaf, bydd hwnnw’n fater i’r pwyllgor, yn amlwg, ond credaf y byddwn yn ceisio craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet pan fydd y datganiad yn cael ei wneud yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn dilyn yr ymgynghoriad, a hefyd, cyn hynny, o ran ein gwaith yn craffu ar y gyllideb, ac yn enwedig, fel y dywedwch, y prosiectau pwysicaf—y cynnydd gwirioneddol a wnaed drwy Cymunedau yn Gyntaf—sut y bydd y meysydd gweithgaredd hynny’n cael eu cynnal a’u cefnogi yn y dyfodol. Credaf mai profiad cyffredinol y rhan fwyaf o’r Aelodau o Cymunedau yn Gyntaf yw ei fod wedi bod yn amrywiol ac yn anghyson, ond do, mae wedi gweithio’n arbennig o dda mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae yna waith arbennig o werthfawr sydd angen ei gadw. Felly, credaf mai dyna fydd ein ffocws.
Nid wyf yn aelod o’r pwyllgor, ond mae gennyf ddiddordeb mawr yn y mater hwn a hoffwn eich llongyfarch am ymgymryd â’r ymchwiliad penodol hwn, gan fy mod yn credu ei fod yn hanfodol bwysig. Yn amlwg, oherwydd yr holl newyddion diweddar ynglŷn â phlant ar eu pen eu hunain yn cyrraedd y DU, credaf fod hwnnw’n un o’r materion sydd ar flaen ein meddyliau.
Roeddwn yn siomedig iawn y bore yma—efallai fod Aelodau eraill wedi’i glywed, ar y rhaglen ar Radio 4, a oedd yn cynnwys dadl ynglŷn ag a yw’r plant ar eu pennau eu hunain sy’n cyrraedd dros 18 oed ai peidio, ac roedd sôn am sganiau deintyddol a sganiau esgyrn i geisio canfod a ydynt yn blant ai peidio. Roedd yn ymddangos i mi ein bod yn ymwybodol fod y bobl ifanc sy’n cyrraedd wedi dioddef trawma, a’n bod yn gwybod eu bod wedi colli eu teuluoedd ac ymddengys i mi fod hyn yn ffordd ofnadwy o gychwyn y drafodaeth ynglŷn â’r bobl hyn yn cyrraedd yma. Felly, roeddwn i’n meddwl tybed a oedd y pwyllgor yn mynd i edrych ar rai o’r agweddau sy’n bodoli—a oes unrhyw ffordd o edrych ar agweddau pobl at ffoaduriaid. Oherwydd, am wn i, pan fyddwch yn meddwl am ffoadur sy’n blentyn, bydd pobl yn meddwl am blentyn ifanc, a gwyddom fod y rhan fwyaf ohonynt yn eu harddegau—yn fechgyn yn eu harddegau. Parodd hynny gryn sioc i mi, felly gobeithiaf y bydd y pwyllgor yn ystyried hynny. Gan gofio y bydd llawer o’r plant a’r bobl ifanc hyn wedi dioddef trawma, byddant angen mynediad at wasanaeth cwnsela a thriniaeth ar gyfer straen wedi trawma, a gobeithiaf y bydd y pwyllgor yn edrych ar hynny hefyd.
Ddoe, roeddwn gyda’r rhaglen Radio Wales a’r BBC World Service yn y Pierhead—credaf fod eraill yno hefyd—a gwnaed pwynt gan un o’r siaradwyr a ddaeth o Syria chwe blynedd yn ôl nad yw pobl sy’n dod o Syria, ei gydwladwyr, yn bobl heb sgiliau ar y cyfan. At ei gilydd, maent yn feddygon, athrawon, penseiri a pheirianwyr—dyna’r proffesiynau a restrwyd ganddo—ac maent yn awyddus iawn i weithio, oherwydd pan na fyddwch yn gweithio, yn aml iawn rydych yn colli eich hunan-barch ac yn colli’r teimlad eich bod yn cyfrannu at y gymuned. Dywedodd hefyd, os ydych yn gweithio mewn cymuned a bod y gymuned honno’n cynnig cyfeillgarwch i chi, fe fyddwch yn ffyddlon i’r gymuned honno yn y dyfodol, oherwydd yr hyn y mae wedi ei wneud i chi.
Felly, o ran y cynllun i adsefydlu pobl o Syria, roeddwn i’n meddwl tybed a allai’r pwyllgor ystyried pa gyfleoedd i weithio a fyddai ar gael, gan y gwyddom, o dan y cynllun i adsefydlu pobl sy’n agored i niwed, y bydd ffoaduriaid yn cael caniatâd i weithio am bum mlynedd, ond nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches eraill yn y DU. Dros y blynyddoedd, rwyf fi, fel pawb arall yma, wedi cyfarfod â nifer fawr o geiswyr lloches sydd—wel, heb ystyr i’w bywydau gan nad ydynt yn gallu gweithio. Felly, credaf y bydd llawer o’r bobl a ddaw yma o dan gynllun Syria yn cael llawer o sylw a chymorth, ond tybed a fyddai modd i’r pwyllgor gofio hefyd fod yna geiswyr lloches eraill yma heb y math o gefnogaeth y bydd cynllun Syria yn ei chynnig, cynllun rwy’n ei gymeradwyo, a’n bod yn dymuno gwneud popeth a allwn i’w helpu. Ond mae pobl eraill yno hefyd, ac mae yna bobl amddifad sy’n geiswyr lloches ac sy’n chwilio am swyddi yn y wlad hon ac sydd ar y strydoedd yng Nghaerdydd. Cafwyd noson o gysgu ar y stryd y penwythnos diwethaf i nodi’r ffaith fod pobl ddigartref ac anghenus ar y strydoedd yng Nghaerdydd.
I gloi, y pwynt olaf rwyf am ei wneud yw hwn: gwn ein bod yn siarad am yr adnoddau sydd angen eu rhoi i’r cymunedau i helpu ffoaduriaid i setlo ac integreiddio, a chredaf hynny’n gryf iawn—mae angen i ni wneud hynny—ond credaf hefyd fod yn rhaid i ni gydnabod cryfderau’r teuluoedd hynny. Rwy’n meddwl yn benodol am ysgolion, oherwydd yn Ysgol Uwchradd Cathays yn fy etholaeth i, lle y ceir llawer o blant sy’n ceisio lloches ac ymfudwyr economaidd, fel rydym yn eu galw, mae 63 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad ac mae yno blant o lawer o gymunedau gwahanol, gan gynnwys cymunedau Somalïaidd, Tsiecaidd, Slofacaidd, Roma, Bangladeshaidd, Pacistanaidd—gallwch barhau i restru o ble y maent yn dod. Mae’r holl staff a’r ysgol yn dweud eu bod yn dod ag egni anferthol i’r ysgol, eu bod yn wirioneddol gyfoethogi’r ysgol, a bod y rhieni yn awyddus iawn i’r plant lwyddo gan fod llawer ohonynt wedi mynd i lawer o drafferth i gyrraedd y wlad hon, a chredaf, yn rhan o’ch adroddiad, y byddai’n dda gweld peth o’r cyfoeth enfawr sydd wedi dod i’r wlad hon.
Diolch yn fawr i Julie Morgan am ei syniadau ynglŷn â’r math o waith y gallai’r pwyllgor ei gyflawni fel rhan o’r ymchwiliad hwn. Mae’n wirioneddol ddefnyddiol cael y syniadau hynny’n cael eu cyflwyno heddiw fel rhan o’r datganiad hwn. Rwy’n siŵr y bydd gan y pwyllgor gryn ddiddordeb mewn edrych ar yr holl feysydd gwaith hynny.
A gaf fi ddweud fy mod innau, hefyd, wedi clywed peth o’r ddadl heddiw o ran sut rydych yn canfod oedran y bobl ifanc a ddaw yma o dan rai o’r cynlluniau adsefydlu hyn? Gwn fod gan lawer o bobl yn y proffesiwn meddygol bryderon difrifol ynglŷn â moeseg feddygol cynnal sganiau, er enghraifft, a allai arwain at ganlyniadau iechyd posibl pan nad oes rheswm meddygol dros gyflawni’r driniaeth honno. Felly, credaf fod yna rai materion difrifol, ac wrth gwrs, o ran urddas pobl, credaf y byddai gan lawer ohonom farn gref ynglŷn â’r hyn a ddylai ddigwydd a’r hyn na ddylai ddigwydd. Felly, rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor yn ystyried y materion cyfredol hyn. Mae’n ymwneud ag agweddau, onid yw? Os ydym am roi’r croeso cynnes a ddylai gael ei gynnig yng Nghymru i geiswyr lloches, ffoaduriaid a phlant ar eu pen eu hunain, yna mae angen i ni gyfleu’r negeseuon cywir a cheisio creu’r awyrgylch cywir yng Nghymru ac yn ein cymunedau. I ryw raddau, credaf ein bod yn gobeithio y bydd y cyfryngau’n rhoi sylw cyfrifol, ac yn anffodus, nid yw hynny bob amser yn wir, o bell ffordd.
Byddwn yn gwneud gwaith ar gydlyniant cymunedol ac yn edrych ar sut y gallwn integreiddio pobl mor effeithiol â phosibl. Credaf ei fod yn ymwneud ag agweddau a negeseuon, a’r awyrgylch sy’n bodoli. Felly, credaf y bydd y rheini’n faterion diddorol i’r pwyllgor edrych arnynt. Cytunaf yn llwyr fod llawer o bobl eraill, nid pobl o Syria yn unig, yn dod â sgiliau, cymwysterau proffesiynol a phrofiad gwerthfawr iawn gyda hwy, a byddant yn werthfawr iawn yng Nghymru, a gallant lenwi rhai bylchau pwysig o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus a niferoedd digonol o weithwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol i gyflawni’r swyddi hynny. Felly, unwaith eto, credaf y bydd hynny’n rhan sylweddol o’r gwaith hwn.
Fel y dywedodd yr Aelod—dyna yw fy mhrofiad innau hefyd yng Nghasnewydd, fel ardal amlethnig—mae ysgolion â llawer o blant o amrywiaeth o gymunedau amrywiol yn dod â llawer o egni i’r ysgol, llawer o ymrwymiad i addysg, a chryn awydd i lwyddo i’r ysgolion hynny, er eu lles hwy, ond hefyd er lles y disgyblion eraill a’r ysgol gyfan.
Diolch. Mae gennyf dri siaradwr arall, ond credaf ei fod yn bwnc y mae gan bobl ddiddordeb ynddo. Felly, os gallant addo i mi y gallant fod yn gryno, gallwn glywed gan bawb. Felly, Gareth Bennett.
Diolch. Diolch, Gadeirydd, am eich datganiad. Dylid croesawu’r ffaith fod y pwyllgor yn edrych yn ofalus ar fater ffoaduriaid. Mae’n anochel, fodd bynnag, y bydd llawer o’r gwaith yn ymwneud â chlywed gan grwpiau sy’n ymwneud â ffoaduriaid, grwpiau sy’n ceisio rhoi cymorth iddynt integreiddio yn y gymdeithas yn gyffredinol, grwpiau sy’n darparu gwasanaethau i ffoaduriaid, ac mae rhai o’r grwpiau hyn hefyd yn galw arnom i dderbyn rhagor o ffoaduriaid.
Fel y dywedoch, Gadeirydd, mae angen i ni wynebu tuag allan, ac wrth ystyried ffoaduriaid, mae angen i ni ystyried eu heffaith ar y gymuned ehangach. Mae angen i ni ystyried effaith debygol cost ac adnoddau ar gyfer adsefydlu ffoaduriaid yma yng Nghymru. Sut y bydd yn effeithio ar gynghorau lleol yn ariannol? Sut y bydd yn effeithio ar y rhestr dai? Sut y bydd yn effeithio ar y gwasanaethau iechyd ac addysg? Felly, yn ogystal â chlywed manylion gan ddarparwyr y gwasanaethau ffoaduriaid yng Nghymru, mae’n rhaid i’r Cynulliad hefyd—ar yr un pryd, yn fy marn i—ystyried y goblygiadau ehangach hyn.
Diolch i Gareth Bennett am ei gyfraniad. Bydd y pwyllgor yn ystyried y materion cymunedol ehangach sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol, fel y dywedais yn fy ateb i Julie Morgan. Yn fy natganiad, nodais y bydd hynny’n rhan sylweddol o waith y pwyllgor. Mae angen i ni glywed gan bobl y tu hwnt i’r grwpiau sy’n darparu’r gwasanaethau ac sydd â rôl benodol yn helpu i adsefydlu a chefnogi ceiswyr lloches, ffoaduriaid a phlant ar eu pen eu hunain. Wrth gwrs, mae cyllid yn bwysig. Mae yna lawer o faterion sy’n codi ynglŷn â lefel y cyllid y mae Llywodraeth y DU yn ei darparu i awdurdodau lleol, er enghraifft, a chredaf fod hynny wedi bod yn rhan bwysig o’r wybodaeth y mae awdurdodau lleol wedi gofyn amdani cyn cymryd rhan yn y cynlluniau amrywiol. Felly, credaf y bydd yr holl faterion hynny’n arwyddocaol i waith y pwyllgor wrth gyflawni’r ymchwiliad hwn.
Diolch am eich datganiad, John. Rwyf wedi cael fy nrysu ychydig gan ffigurau Mark Isherwood yn gynharach, ond yn eich araith fe sonioch fod 112 o ffoaduriaid o Syria wedi’u hadsefydlu yng Nghymru, sy’n golygu nad ymddengys fod y ffigur hwnnw wedi newid ers mis Awst, os yw hynny’n dal yn wir, ac mae’n dal i olygu nad yw 13 o’r cynghorau wedi adsefydlu unrhyw ffoaduriaid o Syria o gwbl. Byddwn yn sicr yn hoffi gwybod a fydd eich ymchwiliad i hyn yn ceisio canfod y rheswm pam, ar ôl dwy flynedd a hanner, fod 13 chyngor heb dderbyn neb hyd yn hyn. Ar ôl dweud hynny, llongyfarchiadau i Dorfaen. Mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot hefyd wedi adsefydlu niferoedd bach o ffoaduriaid o Syria. A fydd eich ymholiad yn asesu ansawdd y cymorth a’r canlyniadau i ffoaduriaid sydd wedi’u hadsefydlu yma? Dywedodd y Prif Weinidog bythefnos yn ôl y byddai’n siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn bersonol ynglŷn â’r cynlluniau newydd ar gyfer adsefydlu plant. Roeddwn yn meddwl tybed a yw’r Prif Weinidog yn debygol o gael gwahoddiad i ddychwelyd i roi tystiolaeth uniongyrchol yn sgil y trafodaethau hynny.
Ar fater gwahanol: iaith. Mewn gwirionedd, rwy’n difaru troi’n llwfr rhag cynnig y gwelliant hwn yn awr, ond pa un a yw ieithoedd yn rhai o gymunedau Cymru—ac nid wyf yn cyfeirio at yr iaith Gymraeg yn awr—yn dal i gyfrannu’n helaeth at ynysu grwpiau penodol o bobl, gan gynnwys menywod yn arbennig a phobl hŷn a allai fod wedi symud i gymunedau heb ddod i gysylltiad ag ieithoedd ac eithrio’r rhai y maent yn eu siarad eu hunain; pa un a oes unrhyw waith y gellid ei wneud yn hynny o beth i ganfod faint o rwystr y gall iaith fod i integreiddio. Mae’n ddrwg gennyf; mae’n debyg eich bod yn gwybod i ble rwy’n mynd gyda hynny.
Yna, yn drydydd ac yn hollol wahanol, tybed a fyddai’n bosibl i’r pwyllgor ystyried adolygu effeithiolrwydd codi ymwybyddiaeth anabledd yng Nghymru ar draws pob sector, nid y sector cyhoeddus yn unig, gan bennu, o bosibl, pwy’n union a ddylai ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros hynny. Hoffwn gynnwys ymwybyddiaeth awtistiaeth ac ymwybyddiaeth dementia hefyd. Rwy’n sylweddoli bod hynny’n wahanol i ymwybyddiaeth anabledd, ond rydym yn siarad am hyn yn aml ac roeddwn yn tybio a allwn, ar ryw adeg, gael adroddiad ar hyn gan y Cynulliad, yn hytrach na ffigurau’r Llywodraeth, i ddangos pa mor dda y mae hynny’n mynd rhagddo. Diolch.
Diolch i’r Aelod unwaith eto am nifer o syniadau a allai helpu i lywio gwaith y pwyllgor ac ychwanegu gwerth at waith y pwyllgor. Mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth anabledd, cawsom ymarfer dros yr haf i ofyn i sefydliadau yng Nghymru am syniadau ar gyfer ein blaenraglen waith. Nid oedd hwnnw’n un arbennig o amlwg, ond rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor, wrth symud ymlaen dros dymor y Cynulliad hwn, yn ystyried y materion hynny, ynghyd â llawer o faterion eraill.
O ran niferoedd, gobeithiaf y gallwn ddarparu mwy o gywirdeb ynglŷn â niferoedd. Bydd rhai’n haws nag eraill. Credaf nad yw peth o’r wybodaeth ar gael yn hawdd. Yn amlwg, os bydd pobl yn cael statws ffoadur, cânt deithio o Gymru i rannau eraill o’r DU neu ymhellach, a gall fod yn eithaf anodd olrhain hynny, ond credaf y bydd yn haws o ran ceiswyr lloches sy’n rhan o drefniadau lletya penodol, ac o ran plant ar eu pen eu hunain hefyd.
Gydag awdurdodau lleol, fel y dywedais yn gynharach, drwy waith y pwyllgor, gobeithio y gellir rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol sydd wedi bod yn llai parod i helpu i adsefydlu ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain. Gobeithio y gwelwn fwy o ymrwymiad, ond yn bwysicach, gobeithio y gwelwn fwy yn cael ei wneud gan y rhai sydd wedi bod yn gymharol amharod hyd yn hyn.
Ydy, mae’n ymwneud ag ansawdd y cymorth a’r gwasanaethau, a byddwn yn edrych yn ofalus iawn ar hynny. O ran iaith, credaf fod cynlluniau megis darparu Saesneg fel ail iaith yn bwysig tu hwnt, a byddem eisiau edrych i weld faint o’r ddarpariaeth sydd ar gael ledled Cymru, a pha un a yw’n ddigonol i ateb y galw, a chynaliadwyedd y gwasanaethau hyn yn ystod y cyfnod anodd hwn yn ariannol.
Mater i’r pwyllgor wrth i ni fwrw ymlaen fydd pa un a fyddwn yn galw ar y Prif Weinidog i roi tystiolaeth ai peidio. Rydym yn ystyried tystion ar hyn o bryd.
Diolch. Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, Gadeirydd, am eich datganiad. Heb ymestyn y ddadl yn ormodol, dymunaf ganolbwyntio’n benodol ar yr adroddiad y byddwn yn ei gynhyrchu maes o law ar geiswyr lloches, ffoaduriaid, ac yn benodol, ar blant ar eu pen eu hunain. Wrth i ni fynd drwy gamau’r adroddiad, hoffwn i ni ystyried y plant rydym wedi’u gweld o adroddiad gofal ECPAT, sy’n canolbwyntio’n benodol ar blant sy’n ceisio lloches a osodir mewn gofal am eu bod yn blant ar eu pen eu hunain, ac sy’n mynd ar goll wedyn o’r ddarpariaeth ofal am nad ydynt wedi cael gofal yn y ffordd y dylent fod wedi’i gael, efallai, ac am nad oedd rhai o’r camau arferol sy’n gysylltiedig â phlant ar eu pen eu hunain wedi cael eu hystyried.
Rwyf am fod yn eithaf penodol a dweud ei bod yn aml iawn yn wir—a gobeithiaf na fydd hyn byth yn wir yng Nghymru—fod plant sydd ar eu pen eu hunain yn cael eu masnachu. Maent yn cael eu masnachu am nad yw pobl wedi deall eu bod o dan bwysau eithriadol, a bod llawer ohonynt wedi cyrraedd lle y maent, yn y lle cyntaf un, am eu bod wedi cael eu masnachu yn y lle cyntaf un. Felly, mae angen i ni fod yn ymwybodol iawn o hynny.
Gan barhau â’r un thema, a byddai’n werth i ni archwilio hyn, mae Bil atal caethwasiaeth newydd y DU ar y ffordd. Gallem yn sicr edrych ar brosiectau treialu yng Nghymru pan fyddwn yn edrych ar rôl gwarcheidwaid masnachu mewn plant, a gall unrhyw beth y gallwn ei ddysgu o hynny fod yn ddefnyddiol i weithio ar y trywydd hwnnw yn hyn o beth.
Mae’n rhaid i mi ddweud—ac nid wyf yn disgwyl sylwadau, ond mae’n rhaid i mi ei ddweud—fod deffro y bore yma a chlywed David Davies, Aelod Seneddol Mynwy, yn awgrymu’r hyn a awgrymodd y bore yma ynglŷn â gwirio unigolion mewn modd ymwthiol a phersonol iawn, wedi fy mrawychu, ac roeddwn am gofnodi hynny.
Diolch yn fawr i Joyce Watson am ei safbwyntiau a’i sylwadau. Dywedais yn gynharach, mewn gwirionedd, fy mod yn cytuno’n gryf â’r teimladau sy’n mynegi pryder mawr ynglŷn â sylwadau David Davies ar wiriadau oedran a’r modd o’u cynnal. Mae’n anurddasol iawn, ac fel y dywedais, mae’n codi nifer o bryderon ynglŷn â moeseg feddygol, yn ogystal â llawer o bryderon eraill. O ran y system ofal a’r adroddiad, credaf y bydd honno’n agwedd ddiddorol ar y gwaith y gallai’r pwyllgor ei gyflawni oherwydd, yn amlwg, mae’r plant hyn yn agored iawn i niwed ac yn galw am gryn dipyn o ffocws a chanolbwyntio ar ran y pwyllgor.
Rydym yn clywed yn awr, yn Calais, fel rhan o’r broses o ddymchwel y safle hwnnw, ei bod yn gwbl bosibl—mae wedi bod yn wir yn y gorffennol mewn gwirionedd—fod llawer o blant yn diflannu ac yn mynd ar goll. Mae yna bryderon difrifol ynglŷn â masnachu, a chamfanteisio yn gyffredinol, o ran y plant hynny. Gorau po gyntaf y bydd gwledydd yn cytuno i dderbyn y plant hynny, a gorau po gyntaf y gallant setlo mewn amgylchiadau diogel. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor yn awyddus i roi sylw gofalus i sut y gall Cymru chwarae ei rhan yn y posibilrwydd mwy cadarnhaol hwnnw i’r plant hyn, yn hytrach na’r peryglon sy’n amlwg yn eu hwynebu. Unwaith eto, gyda’r Bil atal caethwasiaeth a’r gwarcheidwaid masnachu mewn plant, credaf y gall hynny hefyd fod yn rhan sylweddol o waith y pwyllgor.
Diolch yn fawr, Gadeirydd.