1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o reolau lobïo sy'n gymwys yn llywodraethau eraill y DU? OAQ(5)0238(FM)
Wel, mae'r comisiynydd safonau yn ymgymryd â gwaith cychwynnol, yn trafod gyda Seneddau eraill y DU eu trefniadau a sut y maen nhw’n gweithio yn ymarferol, ac rydym ni’n sefyll yn barod i ymateb yn gadarnhaol yng ngoleuni argymhellion y comisiynydd.
Iawn. Diolch, Brif Weinidog, am hynna. Roeddwn i yn y ddadl fer a gawsom ni ychydig cyn y toriad pan drafodwyd hyn, ac roeddwn i’n falch o glywed bod y comisiynydd safonau yn edrych ar hyn. A allaf i gael sicrwydd gennych chi, Brif Weinidog, os bydd Gerard Elias yn penderfynu bod angen gweithredu, y byddwch chi’n cymryd y camau priodol ac na fyddwch yn rhoi’r mater o’r neilltu?
Wel, mae'r comisiynydd wedi dweud o'r blaen, wrth gwrs, nad yw'n gweld bod hyn wedi bod yn broblem yn y gorffennol. Y pwyllgor safonau, wrth gwrs, fydd angen edrych ar hyn, a pha bynnag wersi sydd i’r Cynulliad, byddwn yn rhoi sylw iddynt fel Llywodraeth.
Mae sut y mae cwmnïau a sefydliadau’n ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a thryloywder y trefniadau hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ond mae eich gwefan eich hun yn datgan:
'Ein nod yw bod yn agored ac ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau'.
Gyda hyn mewn golwg, beth arall ydych chi'n feddwl y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, yn enwedig gyda'i hymgynghoriadau, i gyrraedd amrywiaeth ehangach a dyfnach o bobl, fel bod lleisiau sefydliadau sy’n gallu fforddio swyddogion cyfathrebu neu ddefnyddio cwmnïau materion cyhoeddus yn cael eu cydbwyso’n well gan leisiau â buddiant o'r boblogaeth yn gyffredinol?
Mae'n bwynt teg, ac un o'r pethau yr ydym ni’n ceisio ei wneud yw ymgynghori mor eang â phosibl, ar-lein, wrth gwrs, a thrwy ymgynghoriadau papur. Yn anochel, mae angen i wybodaeth gael ei dosbarthu mewn cymunedau gan rai unigolion o fewn cymunedau, ond, yn amlwg, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod ymgynghoriadau mor eang ag y gallant fod.
Brif Weinidog, ar 12 Gorffennaf, dywedasoch ar y cofnod
'nid oes gan lobïwyr fynediad at Weinidogion Cymru.'
A ydych chi’n ymwybodol bod llun o’ch Gweinidog cyllid ar Twitter, ar 27 Hydref, mewn digwyddiad gyda lobïwr masnachol? A ydych chi’n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, yfory, ar 2 Hydref, yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad lobïwr masnachol? Felly, efallai y gallwch chi esbonio i'r cyhoedd a’r Siambr hon y gwrthdaro rhwng yr hyn yr ydych chi’n ei ddweud yma, nad oes ganddyn nhw fynediad, a’r gwirionedd, gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod ganddyn nhw? A allwch chi esbonio’r gwrthddweud, os gwelwch yn dda?
Gallaf, yn rhwydd. Hynny yw, mae Gweinidogion yn siarad mewn digwyddiadau a drefnir gan sefydliadau, ond nid yw Gweinidogion yn cael cyfarfodydd ffurfiol gyda lobïwyr. Dyna ni; dyna yw realiti'r sefyllfa. Os yw’n dweud na ddylai unrhyw Weinidog fyth gyfarfod, naill ai'n ffurfiol nac yn anffurfiol, gydag unrhyw un sydd ag unrhyw gysylltiad o gwbl â chorff lobïo, mae hynny’n anymarferol, o ystyried maint Cymru. Mae'n anymarferol i aelodau ei blaid ei hun. Y peth olaf y byddwn yn ei awgrymu i Aelodau yn y Siambr hon fyddai dweud wrth Aelodau na ddylent fyth, o dan unrhyw amgylchiadau, gyfarfod ag unrhyw un sy'n gysylltiedig â chwmni lobïo. Yn amlwg, nid yw hynny'n ymarferol. Ond yr hyn nad ydym ni’n ei wneud yw cyfarfod yn ffurfiol â chwmnïau lobïo os byddant yn ceisio cael cyfarfodydd gyda Gweinidogion. Nid yw’r cyfarfodydd hynny byth yn digwydd ar sail ffurfiol.