Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Yn erbyn targed Llywodraeth Cymru o 95 y cant, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer mis Medi yn dangos mai dim ond 72 y cant o gleifion damweiniau ac achosion brys gafodd eu gweld o fewn pedair awr ym Maelor Wrecsam a 69.7 y cant yn Ysbyty Glan Clwyd, wrth i 919 o bobl aros mwy na 12 awr yn y prif adrannau damweiniau ac achosion brys yn y gogledd. Ar ôl anwybyddu rhybuddion y byddai cau unedau mân anafiadau, diddymu gwelyau cymunedol y GIG a’r gyfran ostyngol o gyllideb GIG Cymru sy’n mynd i feddygfeydd teulu yn arwain at yr union ganlyniad hwn, a wnewch chi wrando nawr—yn astud—ar y pryderon hynny er mwyn rhoi sylw iddynt a lleihau'r galw hwn am y dulliau ataliol cymunedol hynny?