1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd? OAQ(5)00230(FM)
Gwnaf. Rydym ni’n disgwyl i'r bwrdd iechyd barhau i wella mynediad at wasanaethau, gan gynnwys, wrth gwrs, lleihau amseroedd aros ar draws yr ystod lawn o wasanaethau.
A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol i rywun sy'n dioddef poen pen-glin cronig orfod aros 10 mis i weld meddyg ymgynghorol, a beth mae'r Prif Weinidog yn bwriadu ei wneud am y peth?
Roedd hi'n amlwg yn cyfeirio at etholwr sydd wedi cysylltu â hi. Mae'n anodd gwneud sylwadau ar achos unigol, ond, os yw'r etholwr yn dymuno, trwyddi hi, cyfeirio sefyllfa’r etholwr ataf i, byddaf wrth gwrs yn edrych arno ac yn ysgrifennu yn ôl ati.
Yn erbyn targed Llywodraeth Cymru o 95 y cant, mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gyfer mis Medi yn dangos mai dim ond 72 y cant o gleifion damweiniau ac achosion brys gafodd eu gweld o fewn pedair awr ym Maelor Wrecsam a 69.7 y cant yn Ysbyty Glan Clwyd, wrth i 919 o bobl aros mwy na 12 awr yn y prif adrannau damweiniau ac achosion brys yn y gogledd. Ar ôl anwybyddu rhybuddion y byddai cau unedau mân anafiadau, diddymu gwelyau cymunedol y GIG a’r gyfran ostyngol o gyllideb GIG Cymru sy’n mynd i feddygfeydd teulu yn arwain at yr union ganlyniad hwn, a wnewch chi wrando nawr—yn astud—ar y pryderon hynny er mwyn rhoi sylw iddynt a lleihau'r galw hwn am y dulliau ataliol cymunedol hynny?
Mae hyn yn dod gan gynrychiolydd plaid Jeremy Hunt. Gallaf ddweud wrtho fod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd yn profi bod y rhan fwyaf o gleifion, bron i wyth o bob 10, yn cael eu gweld, eu trin, eu derbyn neu eu rhyddhau yn gyflym iawn ac o fewn pedair awr iddynt gyrraedd er gwaethaf, mewn gwirionedd, cynnydd mewn presenoldeb pobl oedrannus ag anghenion cymhleth a chleifion dibyniaeth uchel. Er bod cyrraedd y targed wedi bod yn anodd—mae cymaint â hynny’n wir—er hynny, gwelsom welliant o ran y targed pedair awr ym mis Medi.
A ydych chi, Brif Weinidog, yn derbyn bod y gostyngiad yn nifer y gwlâu yn y gogledd yn cyfrannu at drafferthion gydag amserau aros? Rŷm ni wedi gweld colli gwlâu yn y Fflint, yn Llangollen, ym Mlaenau Ffestiniog—mae yna dros 400 yn llai o wlâu nawr yng ngogledd Cymru o’i gymharu â 2010. Does bosib eich bod chi’n derbyn bod hynny yn cyfrannu at y trafferthion.
Na. Nid wyf yn gweld hynny achos y ffaith rŷm ni’n siarad am gymunedau lle nad oedd dim adran argyfwng a damweiniau yn y lle cyntaf. So, mae pobl yn mynd i’r adran hynny mewn ambiwlans, felly yr ysbyty yna maen nhw’n mynd i fynd i mewn iddi, felly dyna o le byddai’r pwysau yn dod. Serch hynny, wrth gwrs, rŷm ni’n gweld bod mwy nag wyth mas o 10 o bobl sydd yn mynd mewn i’r adrannau argyfwng a damweiniau yn gadael o fewn pedair awr.