Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Mae hyn yn dod gan gynrychiolydd plaid Jeremy Hunt. Gallaf ddweud wrtho fod y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd yn profi bod y rhan fwyaf o gleifion, bron i wyth o bob 10, yn cael eu gweld, eu trin, eu derbyn neu eu rhyddhau yn gyflym iawn ac o fewn pedair awr iddynt gyrraedd er gwaethaf, mewn gwirionedd, cynnydd mewn presenoldeb pobl oedrannus ag anghenion cymhleth a chleifion dibyniaeth uchel. Er bod cyrraedd y targed wedi bod yn anodd—mae cymaint â hynny’n wir—er hynny, gwelsom welliant o ran y targed pedair awr ym mis Medi.