Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Na. Nid wyf yn gweld hynny achos y ffaith rŷm ni’n siarad am gymunedau lle nad oedd dim adran argyfwng a damweiniau yn y lle cyntaf. So, mae pobl yn mynd i’r adran hynny mewn ambiwlans, felly yr ysbyty yna maen nhw’n mynd i fynd i mewn iddi, felly dyna o le byddai’r pwysau yn dod. Serch hynny, wrth gwrs, rŷm ni’n gweld bod mwy nag wyth mas o 10 o bobl sydd yn mynd mewn i’r adrannau argyfwng a damweiniau yn gadael o fewn pedair awr.