<p>Ysbyty Glan Clwyd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:13, 1 Tachwedd 2016

A ydych chi, Brif Weinidog, yn derbyn bod y gostyngiad yn nifer y gwlâu yn y gogledd yn cyfrannu at drafferthion gydag amserau aros? Rŷm ni wedi gweld colli gwlâu yn y Fflint, yn Llangollen, ym Mlaenau Ffestiniog—mae yna dros 400 yn llai o wlâu nawr yng ngogledd Cymru o’i gymharu â 2010. Does bosib eich bod chi’n derbyn bod hynny yn cyfrannu at y trafferthion.