<p>Asesiadau Effaith Ieithyddol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 1 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:14, 1 Tachwedd 2016

Diolch i chi am eich ateb. Rŷch chi’n berffaith iawn—maen nhw yn allweddol fel rhan o’r broses. Fy ngofid i, serch hynny, yw ansawdd rhai o’r asesiadau impact ieithyddol yma. Maen nhw’n cael eu cynhyrchu yn aml iawn heb eu plismona yn iawn. Gallaf i bwyntio at enghreifftiau lle mae yna dystiolaeth amheus dros ben yn cael ei chyflwyno fel rhan o’r asesiadau yma ac wrth gwrs mae’r rheini wedyn jest yn cael eu derbyn, yn aml iawn, gan awdurdodau cynllunio, ac mae yna benderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail beth y byddwn i’n dadlau yw tystiolaeth wallus. Felly, beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod asesiadau’n cael eu heddlua a bod yr asesiadau hynny yn rhai o ansawdd sydd yn gosod cynsail teg ar gyfer penderfyniadau?