Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Yn gyntaf, wrth gwrs, os yw’r asesiadau’n rhan o’r cynllun datblygu, mae’r arolygydd yn gallu mynegi barn a sicrhau bod y cynllun yn iawn ynglŷn â’r iaith. Yn ail, wrth gwrs, os oes unrhyw broblem yn codi gydag asesiad lle bydd y cyngor yn derbyn yr asesiad er y gwallau sydd yn yr asesiad, mae yna gyfle i Weinidogion ystyried a ddylai’r cais gael ei alw i mewn i’r Llywodraeth.