Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod ac fel bob amser mae’n huawdl yn ei amcanestyniad o'r ffigurau y mae’n eu defnyddio. A gaf i awgrymu ei fod yn cymryd golwg arall ar y ddogfen sydd ganddo? Yn wir, nid ydym wedi gwrthod y ddogfen mewn unrhyw ffordd. Gadewch inni roi rhai ffeithiau i'r Aelod sydd newydd wneud cyfraniad.
Darparodd adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ‘Future Need and Demand for Housing in Wales', amcangyfrifon yn ddiweddar o anghenion tai a'r galw ar hyn o bryd a’r galw a ragwelir ar gyfer Cymru rhwng 2011 ac 2031. Yn seiliedig ar amcanestyniadau swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y twf yn nifer yr aelwydydd—y prif amcanestyniad—roedd yr adroddiad yn amcangyfrif bod angen tua 174,000 o eiddo ychwanegol yng Nghymru rhwng 2011 a 2031, ac y byddai 100,000 yn sector y farchnad a tua 70,000 yn y sector cymdeithasol. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod hefyd yn gallu gwneud y fathemateg yn hynny o beth, ond mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd o tua 8,700 o anheddau y flwyddyn yn ystod y cyfnod, a byddai 3,500 yn dai sector cymdeithasol. Mae ein hymrwymiad i 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn gwbl gywir ac nid dyma'r unig ffigur—nid dyma’r unig ffigur y byddwn yn ei ddefnyddio. Y ffigur o 20,000 yw ein hymrwymiad, ac mae yn uchelgeisiol. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gydnabod, er ein bod yn meddwl bod 10,000 yn uchelgeisiol yng nghyfnod olaf y Llywodraeth, bod cyflawni 11,500 mewn gwirionedd yn beth cadarnhaol iawn, ac roedd hynny dim ond oherwydd y gwaith a wnaethom gyda'n partneriaid. Rwy’n cymryd rhan o’r clod, ond rhan yn unig, oherwydd mewn gwirionedd pobl fel Cartrefi Cymunedol Cymru a'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn dechrau datblygu eiddo yw'r bobl ar lawr gwlad sy’n cyflawni atebion o ran cartrefi yn ein cymunedau ledled Cymru.
Rwy'n siŵr bod yr Aelod, yn y bôn, yn croesawu'r ffaith ein bod yn dyblu'r targed o ran ein hamcanestyniadau tai fforddiadwy. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon ar y dryswch ffigurau y mae’n ei ragamcanu yn parhau dros fisoedd lawer, rwy’n disgwyl—ni fyddwn yn disgwyl ddim llai gan yr Aelod—ond ni chymeraf unrhyw bregeth am adeiladu tai neu amddiffyn tai cymdeithasol yn unrhyw le yn y DU gan y Blaid Geidwadol, gyda'r parch mwyaf. Mae’r ffaith ein bod ni ar fin deddfu ar gyfer diddymu’r hawl i brynu yn brawf o’r ffaith ein bod ni’n gwerthfawrogi ein stoc yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi diogelu tai yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn gofyn i'r Aelod fyfyrio arno o safbwynt ei blaid ei hun. Y ffaith yw, lle'r ydym yn adeiladu cartrefi, byddwn yn eu diogelu—ac nid adeiladu un, fel yn Lloegr, a gwerthu saith i'r sector preifat. Nid y hynny’n gynaliadwy, ac mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru yn rhywbeth gwahanol iawn. Dylem fod yn falch iawn o'n camau gweithredu wrth adeiladu tai yma.