Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch am y datganiad. Mi fyddai wedi bod yn beth da i gael datganiad—yn hytrach na thrwy’r wasg—i’r Cynulliad am rywbeth mor bwysig yn economaidd ac yn amgylcheddol. Rwy’n gosod i’r neilltu am heddiw y cwestiynau amgylcheddol a newid hinsawdd ynglŷn â thrydedd redfa yn Heathrow, a lleoliad honno yn Heathrow yn hytrach na rhywle arall, ac yn troi at beth yn union y mae’r Llywodraeth hon wedi negodi â Heathrow a Llywodraeth San Steffan a fydd o fudd i Gymru.
Rwy’n troi at y memorandwm sydd wedi’i drafod rhwng Heathrow a Llywodraeth yr Alban, sydd yn sôn, ymysg pethau eraill, am hyd at 16,000 o swyddi newydd yn yr Alban yn cael eu creu oherwydd Heathrow, £200 miliwn o wariant cyfalaf yn yr Alban ynglŷn â chynllunio ac adeiladu, £10 miliwn ar gyfer datblygu llwybrau hedfan newydd yn fewnol yn y Deyrnas Gyfunol a gostyngiad o £10 y pen ar gyfer taliadau glanio rhwng meysydd awyr yr Alban a Heathrow. Mae’r rhain i gyd yn edrych i fi fel pecyn o werth i Lywodraeth yr Alban, sydd yn cyfiawnhau, mae’n siŵr, Llywodraeth yr Alban yn dweud pam eu bod nhw’n cefnogi trydedd redfa yn Heathrow.
Beth yn union y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael allan o’i chefnogaeth, felly? O ystyried bod y Llywodraeth wedi methu hyd yn oed â sicrhau datganoli APD i ni yma yng Nghymru, ym mha ffordd fydd y datblygiad yma o help i deithwyr o Gymru?