Part of the debate – Senedd Cymru am 4:44 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Weinidog, hoffwn groesawu eich datganiad heddiw, ac rwyf yn gwerthfawrogi'r ymarferiad ymgynghori yr ydych wedi ei gynnal gyda'r holl bleidiau yma. Rwy’n cytuno ei bod yn amser cael dadl aeddfed ar y gwasanaeth iechyd gwladol a'r model gofal cymdeithasol sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, credaf fod angen i mi roi ar gofnod y ffaith fy mod wedi mynegi pryderon ynghylch maint y cylch gwaith. Rwy’n credu ei bod yn ddiddorol bod Rhun ap Iorwerth, y gwn ei fod wedi datblygu llawer o hyn gyda chi, wedi cyfeirio at hynny fel un o’i bryderon ef. Byddwn wedi meddwl y byddech wedi trafod hynny o'r blaen, ond byddwn hefyd yn hoffi gweld cyfres glir a thynn iawn o gylchoedd gwaith gan gadeirydd newydd y panel hwn wrth symud ymlaen, oherwydd bod edrych ar y model iechyd a gofal cymdeithasol cyfan sydd gennym yma yng Nghymru yn friff mor fawr. Dywedasoch yn eich datganiad eich bod yn caniatáu tua blwyddyn ar gyfer yr ymchwiliad hwn. Rwy'n pryderu os bydd y cylch gwaith yn rhy fawr, y byddwn yn gweld gormod o lithro. Dywedasoch ychydig yn gynharach, wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, y gallech ragweld y gallai lithro ychydig ond na fyddech yn hoffi ei weld yn mynd ymlaen am nifer o flynyddoedd neu ragor o flynyddoedd. A siarad yn blaen, rwyf yn credu y gallai hyd yn oed dwy flynedd fod yn rhy hir. Felly, a fyddwch yn gallu rhoi syniad o faint o amser ac ymdrech y mae aelodau'r panel yn gallu eu neilltuo i'r ymchwiliad hwn, a faint o waith y byddwch yn disgwyl iddo gael ei wneud o ran ymchwilio a dadansoddi gan eu staff cymorth priodol?
Hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwn yn falch pe gallech roi cyfarwyddyd clir a diamwys, y gall byrddau iechyd wrando arno heddiw, nad yw'r ymchwiliad hwn yn fan aros i fesurau tactegol eraill y mae angen i ni fwrw ymlaen â nhw, boed hynny’n gynaliadwyedd y gweithlu, pwysau'r gaeaf, adeiladu ysbytai newydd, y gwn eich bod yn mynd i’w trafod yn nes ymlaen. O fy mhrofiad i ym maes addysg, pan fyddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi amrywiol ymchwiliadau cwmpasu mawr, rwy’n gwybod y byddai rhai yn defnyddio hynny, mewn rhai mannau, i roi'r gorau i’r holl waith arall ac ni hoffwn weld hynny'n digwydd yn y GIG oherwydd bod gennym faterion tactegol y mae angen inni fynd i'r afael â nhw’n gyson.
Byddwch yn gwybod fy mod i’n awyddus iawn i'r panel beidio â chynnwys yr un hen wynebau, ac rwyf wedi trafod gyda chi'n bersonol yn fanwl iawn fy marn i am y rhai nad ydynt ar y panel. Nid wyf yn credu y byddai'n gwbl briodol gwyntyllu’r pryderon a’r sylwadau hynny’n gyhoeddus, ond rwyf eisiau dweud fy mod i'n hynod o falch o weld cynrychiolwyr y sector o sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Nuffield, Cronfa'r Brenin a'r Sefydliad Iechyd, yr wyf yn credu y byddant yn cynnig didueddrwydd, arferion gorau, gobeithio, a thystiolaeth o brofiad meincnodi i chi. Fel y gwyddoch, rwyf wedi codi gyda chi fy mhryderon bod y panel yn canolbwyntio gormod ar iechyd ac y byddai’r adolygiad cyfan yn digwydd drwy brism y gwasanaeth iechyd. Felly roeddwn yn awyddus iawn, iawn i groesawu Keith Moultrie—ac rwyf yn diolch ichi am y penodiad hwnnw; rwyf yn credu y bydd yn ychwanegu atom—a chlywed llais ymarferydd megis yr Athro Rafferty. Ac, wrth gwrs, rydych yn ymwybodol iawn o’r awydd cryf iawn sydd gennyf i weld rhywun ar y panel hwnnw sydd â phrofiad busnes ac sy’n meddu ar ddealltwriaeth gorfforaethol helaeth o heriau a materion personél enfawr a logisteg a rheoli logisteg. Rwyf i, hefyd, yn croesawu'r Dr Ruth Hussey i'r gadair. A hoffwn ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ai’r cadeirydd, Dr Hussey, fydd y person a fydd yn rhoi ar waith y strwythur a fydd yn galluogi’r panel hwn i gysylltu ag Aelodau'r Cynulliad, yn enwedig aelodau o'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, neu a ydych chi'n gweld chi eich hun yn rhoi ar waith y math hwnnw o strwythur? Oherwydd fy mod yn credu, pan fyddwn wedi trafod hyn, rydym wedi siarad am sut y gallwn gael rhywfaint o ymgysylltu trawsbleidiol gwleidyddol yn cyfrannu i’r panel o ddydd i ddydd, neu o wythnos i wythnos neu o fis i fis wrth i'r panel ddatblygu ei safbwyntiau.
Fy mhwynt olaf: rwyf eisiau codi hyn eto, a gwn fod Rhun ap Iorwerth hefyd wedi codi hyn, sef y sylw a lithrodd i'r datganiad am y tîm adolygu yn manteisio ar y gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yng Nghymru gan wahanol sefydliadau ymchwil mawr. Mae hyn yn ffordd newydd o feddwl. Un o'r gwarantau mawr oedd y byddai'r panel adolygu yn edrych o'r newydd, na fyddent yn ailddyfeisio'r olwyn, ond y byddent yn cyfeirio—a defnyddiaf y gair hwnnw’n glir—at y gwaith a wnaed eisoes gan sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Nuffield, Cronfa'r Brenin, y Sefydliad Iechyd, ac ati. Hoffwn gael eich sicrwydd llwyr eu bod yn mynd i edrych ar hyn gyda golwg glir, oherwydd, fel y gwn i ac y gwyddoch chi, mae eisoes llawer o waith ymchwil yn y parth cyhoeddus y gellir dadlau ei fod wedi dod o safbwynt penodol a allai roi canlyniadau nad oes yr un ohonom yn gwbl gyfforddus â nhw. Byddai ailgylchu’r rheini a’u cyflwyno fel set o argymhellion yn rhoi hyn a minnau mewn sefyllfa anghyfforddus iawn. Hoffwn gredu y bydd y panel mawreddog hwn o unigolion deallus iawn â phrofiad eang yn edrych o ddifrif ar hyn gydag eglurder a phwyslais i greu darlun a fyddai'n wirioneddol addas ar gyfer cynfas a fyddai'n wirioneddol addas i Gymru yn y dyfodol, fel y gallwn ddangos ar y cynfas hwnnw y strwythur ar gyfer ein gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd sydd i ddod.