Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Diolch am y pwyntiau a'r cwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn werth ein hatgoffa ein hunain nad yw’r ddau safle presennol yn Nevill Hall ac yn y Gwent yn uniongyrchol agos at gysylltiadau rhwydwaith rheilffyrdd. Wrth ddylunio a chyflwyno system gofal iechyd y dyfodol, wrth gwrs, mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig, felly byddwn yn disgwyl y byddai mynediad i i'r safle hwn drwy drafnidiaeth gyhoeddus wrth iddo gael ei ddatblygu. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig cydnabod, i lawer o bobl sy'n mynychu, yn enwedig ar gyfer gofal brys, bod llawer o bobl allan yna sy’n gyrru eu hunain, maent yn tueddu i beidio â mynd ar fws os ydynt mewn argyfwng, ond hefyd mynediad i wasanaethau brys eraill. Ond, bydd y cynllun trafnidiaeth yn amlwg yn rhan o'r hyn y mae angen i'r bwrdd iechyd a'i bartneriaid ei ystyried wrth gyflwyno'r ysbyty yn llwyddiannus.
Mae hefyd yn werth ystyried eich pwynt am gaffael, oherwydd yn amlwg mewn prosiect cyfalaf o'r maint hwn, rydym yn disgwyl gweld manteision gwirioneddol yn dod o’r gwariant hwnnw yn y cyfnod adeiladu. Os ydych chi wedi gweld, er enghraifft, raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddwch wedi gweld enillion sylweddol yn sgil caffael pob un o'r safleoedd hynny. Rwyf wedi gweld â’m llygaid fy hun y nifer o brentisiaid lleol sydd wedi manteisio ar y gwaith adeiladu hefyd, ac rwy’n disgwyl i hynny fod yn wir eto. Gyda buddsoddiad o £350 miliwn, rwyf yn sicr yn disgwyl gweld cynnydd go iawn yn sgil caffael ac adeiladu’r safle, ac nid dim ond ei weithredu.
Mae hynny'n dod â mi at eich pwynt am y gweithlu, ac ni ddylech synnu fy nghlywed yn dweud y dylai darparu’r safle newydd hwn, mewn gwirionedd, helpu i recriwtio a chadw gweithlu. Mae wedi bod yn thema gyson iawn ymhlith aelodau staff bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, ond hefyd byrddau iechyd cyfagos hefyd, os na allwn ad-drefnu rhannau o'r ffordd y mae'r ystâd gyfalaf yn gweithio a'r ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaethau hynny, rydym yn annhebygol o allu recriwtio yn llwyddiannus yn awr ac yn y dyfodol. Felly, mae hon yn broses ailfodelu bwysig iawn mewn sawl ffordd. Dylai recriwtio elwa'n gadarnhaol ar wneud y penderfyniad hwn am sut y bydd y dyfodol yn edrych. A phan fydd yn weithredol ac y gall pobl weld cyfleuster pwrpasol gyda modelau gofal sy'n briodol ar gyfer y presennol a’r dyfodol, dylai hynny olygu bod pobl o bob gradd a phob proffesiwn yn fwy tebygol o fod eisiau gweithio yn y sector hwn. Nid yw yn ymwneud â’r ysbyty yn unig, wrth gwrs. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae hyn yn rhan o'r system gofal iechyd gyfan: sut y mae’r maes gofal sylfaenol yn gweithio yn fwy effeithiol gyda'i gilydd, sut y mae gofal yn mynd allan i'r gymuned, gan symud i ffwrdd o ysbytai, yn ogystal â'r hyn y mae angen o ddifrif iddo ddigwydd mewn canolfan arbenigol yn cael ei ddarparu mewn canolfan wirioneddol arbenigol sy'n addas at ei diben.