Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 1 Tachwedd 2016.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a diolch iddo hefyd am ddod i Gwmbrân ddoe, i'r clinig cwympo, i wneud y cyhoeddiad? Rydych yn gywir iawn i nodi ei bod yn gyfle gwych i weld y mathau o wasanaethau sy'n cael eu cyflwyno ar lefel y gymuned wrth i’r gwasanaethau iechyd a chymdeithasol weithio gyda'i gilydd. Ond roeddwn wrth fy modd eich bod yn gallu gwneud y cyhoeddiad hwnnw ddoe. Mae'n newyddion hynod dda, nid yn unig ar gyfer Torfaen, ond ar gyfer Gwent gyfan ac ar gyfer y de. Rwy'n credu y bydd yn cynnig darpariaeth gofal iechyd o'r radd flaenaf i’r holl gymunedau y mae’n eu gwasanaethu, ond mae hefyd yn darparu sylfaen ar gyfer sicrhau ein bod yn parhau i recriwtio staff o'r ansawdd uchaf i weithio yn yr ysbyty. Felly, y croeso cynhesaf posibl iawn gennyf i i’ch datganiad a'r cyhoeddiad ddoe.
Rwyf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau. Ategaf yr hyn y mae Rhun ap Iorwerth wedi’i ddweud am bwysigrwydd caffael, a byddwn yn ddiolchgar pe bai modd i chi roi sicrwydd y byddwch yn cadw llygad barcud ar y materion caffael, fel y gallwn sicrhau, lle bo modd, bod busnesau lleol yn wir elwa ar yr hyn sydd yn fuddsoddiad cyfalaf enfawr yn yr ardal leol. Rydym yn gwybod bod y prosiect wedi llithro o'i amserlen wreiddiol ac rydych yn gwbl ymwybodol o'r rhwystredigaethau sydd wedi bodoli o gwmpas hynny. A gaf i ofyn am eich sicrwydd y byddwch yn cadw llygad barcud ar unrhyw lithro posibl pellach, yn enwedig o ran y ffaith y gallai achosi anawsterau yn awr gyda chontractwyr a oedd wedi eu cytuno, ac ati? Felly, a fyddwch yn cadw llygad barcud ar hyn er mwyn sicrhau bod hyn bellach yn cael ei yrru ymlaen ar fyrder ac nad ydym yn gweld unrhyw lithro pellach yn hyn?
O ran trafnidiaeth, mae’r materion hynny wedi eu codi heddiw, ond, wrth gwrs, roedd astudiaeth helaeth iawn o'r fynedfa i'r safle a chafwyd mai’r safle hwn oedd yr un gorau posibl ar gyfer Gwent a de Powys gyfan. Ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni hefyd gadw llygad ar y materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig, wrth gwrs, ar gyfer y bobl sy'n ymweld â'r ysbyty fel cleifion, ond ar gyfer ymwelwyr. Gwn fod gan y bwrdd iechyd hanes da iawn o hwyluso materion mynediad, felly a gaf i ofyn am eich sicrwydd ar hynny hefyd? Ond, y croeso cynhesaf posibl gennyf i ac, wrth gwrs, gydnabyddiaeth bod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn parhau i wneud buddsoddiad enfawr mewn gwasanaethau cyhoeddus ar adeg o galedi mawr a phwysau enfawr. Diolch.