<p>Addysg Uwchradd yn Sir Benfro</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:32, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y sylw hwnnw. Mae rhai o’n hysgolion mwyaf llwyddiannus yn ysgolion 11 i 16 oed, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw astudiaeth gynhwysfawr sy’n edrych ar ganlyniadau cymharol ysgolion sy’n cynnig cwricwlwm 11 i 16 oed, neu 11 i 18 oed. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw bod awdurdodau lleol yn ystyried nodweddion unigryw yr ardal lle y maent yn darparu addysg. Rydym yn gweld amrywiaeth eang o ysgolion, fel y dywedais, yn gweithio ar draws 11 i 16 oed, 11 i 18 oed, ac yn gynyddol, gwelwn ysgolion pob oed yn cael eu datblygu, lle y caiff plant eu haddysgu drwy gydol eu taith addysgol ar un safle penodol. Cefais y pleser mawr yn ddiweddar o ymuno â’r Llywydd i agor ysgol o’r fath yn Llandysul. Bydd yn ddiddorol gallu cymharu canlyniadau’r modelau gwahanol hyn, fel y gallwn ddysgu beth sy’n gweithio orau. Ond bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol wneud y penderfyniad sy’n iawn ar gyfer eu poblogaeth leol.