Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Mae’r ddau gwestiwn yn creu penbleth diddorol, rwy’n credu—y saga sydd wedi digwydd yn Hwlffordd, a chwestiwn Eluned Morgan. Ac mae’n dasg anodd, oherwydd yr hyn sy’n debygol o ddigwydd yn awr yn Sir Benfro yw ein bod yn debygol o gael rhai ysgolion 11 i 16 oed, rhai ysgolion â chweched dosbarth, a rhywfaint o ddarpariaeth mewn coleg addysg bellach, ond mewn darpariaeth chweched dosbarth ar wahân yn y coleg addysg bellach hwnnw. Ac mae’n ymddangos bod gennym ymagwedd dameidiog mewn cenedl fach o 3 miliwn o bobl, gan ganiatáu’r atebion lleol hyn sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos yn wych, ond a ydynt mewn gwirionedd yn sicrhau’r safonau addysgol uchaf? A dyna ble y daw Llywodraeth Cymru i mewn i bethau. Felly, a yw hi wedi gallu ffurfio barn eto ai dull campws ysgol, neu ddull coleg addysg bellach yw’r ffordd orau o ddarparu addysg ôl-16?