Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Nid wyf yn ystyried mai fy ngwaith i, na gwaith Llywodraeth Cymru yn wir, yw dweud wrth gymunedau unigol sut ysgolion ddylai fod yn y cymunedau hynny. Rwy’n credu mai awdurdodau addysg lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu, mewn ymgynghoriad â rhieni, athrawon, disgyblion, a’u poblogaethau lleol ynglŷn â’r mathau o ysgolion sy’n gweddu orau iddynt hwy. Gwyddom fod rhai o’n hysgolion sy’n perfformio orau yn ysgolion 11 i 16 oed. Gwyddom fod ysgolion eraill sydd â chweched dosbarth hefyd yn perfformio’n dda. Nid oes un ateb sy’n addas i bawb, hyd yn oed mewn cenedl fach, ac rwy’n credu ei bod yn egwyddor bwysig fod Llywodraeth Cymru yn pennu’r disgwyliadau sydd gennym ar gyfer pob ysgol, sef rhagoriaeth i bob disgybl a gwella safonau, ond o ran natur ysgolion unigol, mae’n well gadael i boblogaethau lleol benderfynu beth sy’n gweddu orau i’w cymunedau ac nid oes arnaf eisiau dweud wrth y cymunedau hynny beth i’w wneud o’r canol.