Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Yr hyn rwy’n pryderu yn ei gylch yw hawliau teuluoedd i gael asesiad annibynnol o anghenion dysgu ychwanegol, yn annibynnol ar yr ysgol a’r awdurdod addysg lleol. Rwyf wedi cael nifer o etholwyr sy’n seicolegwyr addysg yn cysylltu â mi am absenoldeb rôl statudol i seicolegwyr addysg yn y Bil drafft, ac ni fu unrhyw rwymedigaeth statudol i deuluoedd allu cael mynediad at seicolegydd addysg yn y cod drafft ychwaith. Mae hynny’n golygu o bosibl mai dim ond teuluoedd sy’n gallu fforddio talu am seicolegydd addysg sy’n gallu cael mynediad at y gwasanaeth. O ystyried nifer yr achosion rwy’n eu cael lle nad yw anghenion arbennig pobl wedi cael eu nodi pan oeddent mewn addysg amser llawn, mae hynny’n peri cryn bryder i mi. Roeddwn yn meddwl tybed beth y gallwch ei wneud am y peth.