1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
5. Pa ddarpariaeth sydd wedi cael ei wneud ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yng nghod trefniadaeth ysgolion Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0035(EDU)
Diolch i chi, Mark. Mae ystyriaeth o anghenion y plant hyn yn rhedeg drwy’r cod statudol. Mae’r cod yn amlinellu ffactorau y dylid eu hystyried, ac y dylai cyrff perthnasol osod buddiannau dysgwyr uwchlaw pob buddiant arall, gan roi sylw arbennig i effaith cynigion ar gyfer ysgolion ar grwpiau o blant sy’n agored i niwed.
Diolch. Fel y dywedoch, mae’r cod yn nodi’r angen i roi sylw arbennig i effaith y cynigion ar gyfer cau ysgolion ar grwpiau agored i niwed, gan gynnwys plant sydd ag anghenion addysgol arbennig. Er hynny, yn ddiweddar fe benderfynoch gefnogi penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i gau Ysgol Uwchradd John Summers, sy’n darparu ar gyfer rhai o’r disgyblion mwyaf agored i niwed yn yr ardal, gan gymryd disgyblion o unedau cyfeirio disgyblion a phlant a waharddwyd o ysgolion uwchradd eraill na fyddent yn cael eu hanfon i ysgolion mwy o faint. Mae hanner y disgyblion yn byw mewn ardal sydd ymysg y 5 y cant uchaf o’r mynegai amddifadedd lluosog yng Nghymru, ac mae bron i draean o fewn categorïau gweithredu gan yr ysgol a gweithredu gan yr ysgol a mwy ac anghenion dysgu ychwanegol â datganiad, rhywbeth y methodd dogfen ymgynghori’r cyngor ei gydnabod. O ystyried bod Llywodraeth Cymru o dan y meini prawf arferol ar gyfer disgyblion, wedi gosod isafswm o 600 o ran niferoedd ysgolion yn ôl yr hyn a ddeallaf, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn fwy hyblyg o dan ei deddfwriaeth a’i chod presennol, lle y mae anghenion penodol yn codi, er mwyn galluogi ysgolion llai o faint i ddiwallu’r anghenion hynny yn y ffordd unigryw na all neb ond hwy ei wneud?
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw, Mark. Nid yw cau ysgol John Summers yn benderfyniad hawdd nac yn un a wneuthum ar chwarae bach, ond cymerais y cyngor a roddwyd ynglŷn â’r ffordd orau o wella canlyniadau addysgol i bob plentyn yn yr ardal benodol honno. Fe fyddwch yn gwybod yn fy nghytundeb blaengar gyda’r Prif Weinidog fod yna sôn yn benodol am yr angen i adolygu’r cod trefniadaeth ysgolion, yn enwedig mewn perthynas ag ysgolion llai o faint. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar fy ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion a sut y gellid ei ddiwygio a’i gryfhau, os oes angen, yn ddiweddarach y mis hwn.
Yr hyn rwy’n pryderu yn ei gylch yw hawliau teuluoedd i gael asesiad annibynnol o anghenion dysgu ychwanegol, yn annibynnol ar yr ysgol a’r awdurdod addysg lleol. Rwyf wedi cael nifer o etholwyr sy’n seicolegwyr addysg yn cysylltu â mi am absenoldeb rôl statudol i seicolegwyr addysg yn y Bil drafft, ac ni fu unrhyw rwymedigaeth statudol i deuluoedd allu cael mynediad at seicolegydd addysg yn y cod drafft ychwaith. Mae hynny’n golygu o bosibl mai dim ond teuluoedd sy’n gallu fforddio talu am seicolegydd addysg sy’n gallu cael mynediad at y gwasanaeth. O ystyried nifer yr achosion rwy’n eu cael lle nad yw anghenion arbennig pobl wedi cael eu nodi pan oeddent mewn addysg amser llawn, mae hynny’n peri cryn bryder i mi. Roeddwn yn meddwl tybed beth y gallwch ei wneud am y peth.
Diolch, Jenny, am godi’r pwynt pwysig hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw seicoleg addysgol; dyna pam rydym yn cefnogi’r cyrsiau datblygiad proffesiynol ar gyfer seicoleg addysgol yma yng Nghaerdydd. Fel y gwyddoch, mae’r Gweinidog wedi datgan ei fwriad i gyflwyno’r Bil drafft cyn y Nadolig eleni. Mynegwyd safbwyntiau am rôl seicolegwyr addysg pan fu’r weinyddiaeth flaenorol yn ymgynghori ar y cod a’r Bil drafft yn 2015, ac mae’r materion hynny wedi cael eu trafod yn uniongyrchol wedyn â Chymdeithas y Seicolegwyr Addysg. Fel rwy’n dweud, rydym yn cydnabod y rôl bwysig iawn y mae seicolegwyr addysg yn ei chwarae yn y system anghenion addysgol arbennig ar hyn o bryd, ac rydym yn gryf o’r farn y bydd angen iddynt barhau i wneud hynny o dan ein Bil ADY arfaethedig. Mae datblygiad parhaus y Bil, y cod a’r rhaglen ehangach i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol wedi digwydd yn sgil y trafodaethau hynny sydd wedi digwydd ac a fydd yn parhau i ddigwydd rhwng y Gweinidog a’r proffesiwn.
Yn amlwg, mae’r cod anghenion addysgol arbennig fel y mae ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn rhan o’r cod trefniadaeth ysgolion. Wrth ei ddarllen, roedd yn amlwg i mi ei fod yn dweud y dylid ateb anghenion plant, y dylid ceisio barn plant a’i hystyried a bod rôl rhieni yn hanfodol. Os awn â chi’n ôl at y ddadl a gawsom ar y Bil awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan gyfarfûm â phobl o fy rhanbarth, roedd yn amlwg iawn i mi nad oedd y rhieni na’r plant yn teimlo eu bod wedi cael eu hystyried yn llawer o’r trafodaethau hyn. Felly, pan ewch i siarad â sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, tybed a fyddwch yn edrych ar y cod hwn mewn perthynas â’i ddiwygio fel y gellir clywed rhieni a phlant yn fwy effeithiol, fel nad ydynt yn dod atom â straeon yn dweud nad yw rhai plant yn mynd i’r ysgol o gwbl ar hyn o bryd mewn gwirionedd, yn syml am nad yw’r ddarpariaeth yno ar eu cyfer.
Diolch i chi am y pwynt hynod o bwysig hwnnw, ac rwy’n siŵr fod y Gweinidog a fydd yn tywys y Bil drwy’r Cynulliad wedi clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud. A gaf fi ddweud fy mod innau hefyd wedi cyfarfod â grŵp awtistiaeth lleol yn ddiweddar? O gofio bod fy etholaeth yn ffinio â’ch rhanbarth, roedd llawer o’r bobl a ddaeth i’r cyfarfod yn dod o’ch rhanbarth mewn gwirionedd. Roeddwn yn bryderus iawn o glywed bod y rhieni hynny’n teimlo na allent ddechrau cael eu plant ar y llwybr asesu oni bai eu bod yn cael caniatâd i wneud hynny gan ysgol. A gaf fi ddweud nad dyna’r gwir? Nid dyna fel y mae. O ganlyniad i’r cyfarfod hwnnw rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ysgrifennu at awdurdod addysg lleol Castell-nedd Port Talbot—ac yn wir, rydym wedi cael yr adborth hwn gan awdurdod Sir Benfro yn ogystal—i’w gwneud yn gwbl glir i’r Awdurdod Addysg Lleol nad yw hynny’n wir, nad dyna’r unig lwybr cyfeirio i mewn, ac na ddylent fod yn dweud hynny wrth rieni. Rydym hefyd yn datblygu adnodd newydd i rieni a fydd yn esbonio’n glir iawn beth yw eu hawliau presennol a sut y gallant gael gafael ar gymorth i’w plant, a bydd hwnnw, rwy’n gobeithio, yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd.