<p>Cod Trefniadaeth Ysgolion</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:07, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jenny, am godi’r pwynt pwysig hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw seicoleg addysgol; dyna pam rydym yn cefnogi’r cyrsiau datblygiad proffesiynol ar gyfer seicoleg addysgol yma yng Nghaerdydd. Fel y gwyddoch, mae’r Gweinidog wedi datgan ei fwriad i gyflwyno’r Bil drafft cyn y Nadolig eleni. Mynegwyd safbwyntiau am rôl seicolegwyr addysg pan fu’r weinyddiaeth flaenorol yn ymgynghori ar y cod a’r Bil drafft yn 2015, ac mae’r materion hynny wedi cael eu trafod yn uniongyrchol wedyn â Chymdeithas y Seicolegwyr Addysg. Fel rwy’n dweud, rydym yn cydnabod y rôl bwysig iawn y mae seicolegwyr addysg yn ei chwarae yn y system anghenion addysgol arbennig ar hyn o bryd, ac rydym yn gryf o’r farn y bydd angen iddynt barhau i wneud hynny o dan ein Bil ADY arfaethedig. Mae datblygiad parhaus y Bil, y cod a’r rhaglen ehangach i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol wedi digwydd yn sgil y trafodaethau hynny sydd wedi digwydd ac a fydd yn parhau i ddigwydd rhwng y Gweinidog a’r proffesiwn.