Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Yn amlwg, mae’r cod anghenion addysgol arbennig fel y mae ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn rhan o’r cod trefniadaeth ysgolion. Wrth ei ddarllen, roedd yn amlwg i mi ei fod yn dweud y dylid ateb anghenion plant, y dylid ceisio barn plant a’i hystyried a bod rôl rhieni yn hanfodol. Os awn â chi’n ôl at y ddadl a gawsom ar y Bil awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan gyfarfûm â phobl o fy rhanbarth, roedd yn amlwg iawn i mi nad oedd y rhieni na’r plant yn teimlo eu bod wedi cael eu hystyried yn llawer o’r trafodaethau hyn. Felly, pan ewch i siarad â sefydliadau fel y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, tybed a fyddwch yn edrych ar y cod hwn mewn perthynas â’i ddiwygio fel y gellir clywed rhieni a phlant yn fwy effeithiol, fel nad ydynt yn dod atom â straeon yn dweud nad yw rhai plant yn mynd i’r ysgol o gwbl ar hyn o bryd mewn gwirionedd, yn syml am nad yw’r ddarpariaeth yno ar eu cyfer.