<p>Asesiadau Effaith Ieithyddol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:10, 2 Tachwedd 2016

Mae’r cod trefniadaeth ysgolion statudol yn ei gwneud yn ofynnol i nifer o ffactorau gwahanol gael eu hystyried gan gyrff perthnasol sy’n datblygu cynigion ar gyfer aildrefnu ysgolion, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Pan fydd cynigion yn effeithio ar ysgol sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, dylai awdurdodau lleol gynnal asesiad o’r effaith ar y Gymraeg.