<p>Asesiadau Effaith Ieithyddol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:11, 2 Tachwedd 2016

Diolch i chi am eich ateb. Yn amlwg, mae yn ofynnol bod hyn yn digwydd, ond fy nghwestiwn i yw: pwy sy’n gwirio safon ac ansawdd a chywirdeb yr asesiadau yma? Oherwydd maen nhw’n sail i benderfyniadau pellgyrhaeddol. Nid oes dim byd i ddweud na allai unrhyw un ohonom ni fan hyn sefydlu cwmni a fyddai’n mynd ati i greu asesiadau o’r fath. Rwyf felly eisiau gwybod pwy sy’n heddlua y system, gan obeithio nad oes disgwyl i’r cyhoedd fod yn gwneud hynny, oherwydd yn amlwg mae angen elfen o arbenigedd er mwyn gwneud hynny yn effeithiol.