– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Eitem nesaf ein hagenda ni yw’r eitem newydd ar ddatganiadau 90 eiliad. A gaf i atgoffa Aelodau taw datganiadau 90 eiliad yw’r rhain, nid 90 munud? Felly, fe fyddaf i’n disgwyl i bob datganiad ddod i ben o fewn 90 eiliad. Mae’r anrhydedd o gyflwyno’r datganiad 90 eiliad cyntaf yn mynd i Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle hwn i drafod a dathlu gwaith haearn abaty Nedd, a diolch am yr ychwanegiad newydd hwn yn y Siambr.
Mae’r gwaith haearn heddiw yn safle dadfeiliedig, ond fel llawer o safleoedd diwydiannol yng Nghymru, roeddent yn arfer bod yn fan lle y bu cryn arloesi, o’r mwyndoddi copr cynharaf, ac yn fwy diweddar, lle y sefydlwyd gwaith haearn a oedd yn hanfodol yn strategol i economi Cymru. Allforiwyd ei gynnyrch i India, ac roedd yn fan pwysig o ran cyflogaeth i bobl Castell-nedd a thu hwnt. Yn ei anterth yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, golygai fod Castell-nedd yn dref â chysylltiadau byd-eang.
Mae arnom ddyled i gyfeillion y gwaith haearn am gynnal ymwybyddiaeth o’r safle, ac yn ddiweddar i ddarlith gyhoeddus yn y dref gan yr Athro Huw Bowen o Brifysgol Abertawe, a oedd yn olrhain y gwaith o adfer dyfodol i’r safle fel man archwilio a menter, lle y gall ein treftadaeth fod yn ganllaw i’n dyfodol. Ni ddylai ysbryd yr arloesedd a ymgorfforir yn y gwaith haearn aros yn rhan o’n hanes. Dylai lle a oedd yn allforio’r peiriannau ager cynharaf o gwmpas Ewrop ddeffro dychymyg plant ysgol a’n helpu ni oll i godi ein golygon wrth i ni adeiladu economi ein gwlad ar gyfer y dyfodol. Felly, ein tasg yw troi’r enghraifft werthfawr hon o dreftadaeth economaidd Cymru yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o arloeswyr mewn Castell-nedd fodern a Chymru fodern.
John Griffiths—curwch hynny.
Diolch, Lywydd. Mae’r wythnos hon yn nodi 177 mlynedd ers gwrthryfel y Siartwyr a’r orymdaith i Gasnewydd a alwai am ddiwygio gwleidyddol a democrataidd. Ar 4 Tachwedd 1839, saethwyd a lladdwyd dros 20 o Siartwyr. Gorweddant mewn beddau anhysbys yn eglwys gadeiriol Sant Gwynllyw. Rhoddwyd eu harweinwyr, John Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar brawf yn Neuadd y Sir Trefynwy, ac fe’u cafwyd yn euog o uchel frad a’u dedfrydu i gael eu crogi, eu diberfeddu a’u chwarteru, ond newidiwyd y ddedfryd yn ddiweddarach i alltudiaeth am oes i’r byd newydd. Heddiw, gelwir Casnewydd yn ddinas democratiaeth a chaiff y digwyddiadau pwysig hyn eu coffáu bob blwyddyn. Ddydd Gwener, bydd plant o ysgolion lleol, gan gynnwys ysgol gynradd Maendy yn fy etholaeth, yn ail-greu’r digwyddiadau. Bydd Jayne Bryant a minnau yn eglwys gadeiriol Sant Gwynllyw am y coffâd, a bydd confensiwn Siartaidd a digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal.
Lywydd, Siartiaeth oedd y mudiad torfol dosbarth gweithiol cyntaf a gwrthryfel Casnewydd oedd y gwrthryfel arfog mawr olaf yn erbyn awdurdod ym Mhrydain. O chwe phwynt y siarter, seneddau blynyddol yw’r unig bwynt nas gweithredwyd. Etifeddiaeth y Siartwyr yw’r bleidlais gyffredinol rydym yn ei mwynhau hyd heddiw.
Caroline Jones.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddefnyddio’r 90 eiliad i dynnu sylw at y gwaith ardderchog sy’n cael ei wneud gan Ganolfan Hunangymorth Sandville yn Nhon Cynffig yn fy rhanbarth i. Sefydlwyd Canolfan Hunangymorth Sandville ym 1983 ac mae’n elusen sy’n agored i bawb sy’n dioddef o broblemau iechyd, gan gynnig cymorth mewn awyrgylch hamddenol a hapus iawn. Maent yn darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan roi gofal cymdeithasol a seicolegol i gleifion a’u teuluoedd. Eu harwyddair yw,
Bydd Gwrando, Edrych, Dysgu, Caru, a Chwerthin yn eich galluogi i Fyw Bywyd Hirach ac Iachach, sy’n rhywbeth rwy’n siŵr y gallwn oll ei gefnogi. Maent yn darparu cludiant o ardal Pen-y-bont ar Ogwr i ysbyty Felindre ar gyfer cleifion sydd angen radiotherapi neu gemotherapi. Bob wythnos, maent yn cynnig ystod o therapïau cyflenwol a gweithgareddau mewn amgylchedd prydferth ymhell o fwrlwm bywyd bob dydd. Gyda golygfeydd prydferth ac amgylchedd croesawgar, mae Canolfan Hunangymorth Sandville yn falch o fod yn gartref oddi cartref, gydag amgylchedd teuluol cynnes, nad yw’n edrych yn glinigol. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n cytuno â mi y byddai’r byd yn llawer tlotach heb lefydd fel canolfan Sandville a phobl fel Gwyneth Poacher a’r staff a’r gwirfoddolwyr ymroddedig sy’n ei rhedeg. Diolch.
Diolch i’r tri Aelod.