Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Wrth gwrs, Brif Weinidog, mae canolfannau hamdden yn chwarae rhan bwysig mewn adsefydlu. Mae pobl sydd wedi cael trawiad ar y galon neu strôc, sy’n dioddef o ddiabetes, neu sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn bobl sydd, yn aml iawn, yn mynd i ganolfan hamdden ar ôl iddyn nhw gyflawni eu chwe wythnos o ffisiotherapi gorfodol. Sut ydych chi’n cysoni’r angen iechyd y cyhoedd hwnnw â'r ffaith bod cynifer o ganolfannau hamdden dan fygythiad gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd? A beth ydych chi'n ei feddwl y gallai eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn sylweddoli bod hon yn rhan bwysig iawn o rywun yn gwella a byw bywyd mwy diogel, hapus ac integredig, yn y dyfodol?