<p>Canolfannau Hamdden yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:32, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, yn wir, rydym ni’n gwybod bod presgripsiynau cymdeithasol yn hynod bwysig ac nad ymyrraeth fferyllol yw popeth i bawb. Dyna pam mae'n bwysig bod rhwydwaith o ganolfannau hamdden yn cael ei gynnal ar draws Cymru gyfan. Er nad yw hamdden yn ddyletswydd statudol i awdurdodau lleol, mae hamdden, serch hynny, yn fater eithriadol o bwysig, yn lleol ac yn bwysig er mwyn galluogi pobl i barhau i fyw bywydau iach.