Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Mae yna gyngor ar gael drwy’r tîm sydd yma yng Nghaerdydd, ond hefyd cyngor ar gael o’r swyddfeydd yn America. Bydd yna grŵp yn mynd i America yn hwyrach y mis hwn, sef ‘trade mission’, er mwyn gweld pa fath o ddiddordeb sydd ar gael o fuddsoddwyr mewn i Gymru, ond hefyd, wrth gwrs, i sicrhau marchnadoedd newydd i gynhyrchwyr o Gymru.