<p>Cymru a’r Unol Daleithiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 1:38, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Awgrymodd yr Arlywydd sy’n gadael y gallai’r DU ganfod ein hunain yng nghefn y ciw pe byddem ni’n pleidleisio dros Brexit. O gofio’r hyn sydd wedi digwydd gyda chanlyniad y refferendwm, ethol Arlywydd newydd heddiw, ond hefyd yr arafu yn nhrafodaethau’r bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsiwerydd a'r heriau aruthrol y maen nhw’n eu hwynebu, a yw hi'n bosibl mewn gwirionedd y gallai Cymru o fewn y Deyrnas Unedig ein gweld ni’n cymryd lle’r Undeb Ewropeaidd a mynd i flaen y ciw?