Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Os yw'n fater o gallineb, yna mae’r gwallgofrwydd a ddangoswyd ganddo ef ynghyd â'i blaid yn y 1980au pan gaewyd ein diwydiant glo yn brawf o hynny. Rwy’n croesawu ei dröedigaeth, ond un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud wrtho yw nad yw glo fel ffynhonnell tanwydd yn mynd i ddychwelyd yn y DU. Mae'r pyllau dwfn wedi mynd: adeiladwyd drostynt, mae adeiladau a chartrefi drostynt. Yr unig ddewis yw glo brig. Os yw'n dymuno hyrwyddo hynny, mae croeso iddo ymuno â mi a thrigolion Mynydd Cynffig yn fy etholaeth i sydd â safbwyntiau penodol ar gloddio brig ac y mae’n rhaid iddyn nhw fyw drws nesaf i'r hyn sydd, ar hyn o bryd, yn safle glo brig segur a diffaith. Y gwir yw bod gennym ni ddewis fel cenedl: naill ai rydym ni’n ceisio mewnforio mwy o ynni—boed hynny’n nwy naturiol o, er enghraifft, Rwsia—neu rydym ni’n ceisio mewnforio mwy fyth o nwy naturiol hylif neu rydym ni’n ceisio mewnforio glo o wledydd eraill yn y byd. Dyna un dewis, neu rydym ni’n dewis diogelwch ynni ac yn datblygu system ynni sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy ond sydd hefyd yn ddiogel i ni yn y dyfodol. Hwnnw, rwy’n meddwl, yw'r dewis cwbl synhwyrol.